Ail ran cyfres 'Dolwyddelan, Y Nafis a Rheilffordd Dyffryn Lledr 1874-1879'
Adroddodd y papur wythnosol, Llais y Wlad yn Hydref 1875 am broblem arall a grewyd gyda dyfodiad y nafis
"Prinder Tai: Mai tai mor brinion yma fel ag y mae yn amhosibl i'r gweithwyr gael lle i lettya oherwydd y nifer luosog ac sydd yma yn gweithio y ffordd haiarn trwy y lle. Felly maent yn gorlenwi y tai fel nad ydyw lletty llawer o honynt yn ddim amgen na beudy. Hefyd nid ydyw llawer o'r tai sydd yma yn deilwng i greadur rhesymol gysgu ynddynt, oherwydd y mae y tô mor garpiog a'u gwaliau yn dyllog."
Fel prawf o'r prinder llety, yn ystod un o nifer fawr o adroddiada papura newyddion o achosion o feddwdod y nafis yn y manlysoedd yn Betws a Llanrwst, daeth gwybodaeth am un nafi, wedi'i arestio, yn apelio i'r heddwas i'w gadw yn y celloedd, gan nad oedd yn medru cael unlle i aros ym No'ddean.
Mae'r hanes am rhai nafis yn cael lloches mewn barics pwrpasol oddimewn i waith cerrig Pont Gethin yn adnabyddus i chi, mae'n debyg', ynghyd â'r stori am y lean-to's i letya teuluoedd ochr isa i fwa'r ffordd. Yn wir, roedd rhai trigolion Do'ddelan wedi manteisio ar y sefyllfa, ac yn gosod sguboria’, beudai a chytia' llaith, a thylla’ yn y toea' am grocbris i'r nafis hefyd.
| Dychmygwch fwy o dan y bwau... |
Ond, yn nhraddodiad ragrithiol anghydffurfiol y cyfnod, doedd dim llawer o gydymdeimlad nac agwedd Gristnogol tuag at sefyllfa'r nafis o du'r trigolion lleol ar y cyfan. Roeddynt yn pryderu fwy ar ba effaith y cawsai dyfodiad yr anwariaid hyn, fel y'u gwelid hwy, ar ffordd o fyw pobl yr ardal.
Adleisiwyd y pryderon hynny yn Y Faner ar ddechrau Rhagfyr 1874, a'r cyllun yn ei fabandod, wrth i'r gohebydd, Elis o'r Nant beintio darlun pur ddu o'r sefyllfa. Rhybuddiodd y trigolion y byddai ymosodiad ar eu safonnau moesol, ac y byddai sawl un yn cael eu llyncu gan y llanw dinistriol, ac y byddai'n orfod rhoi pob gewyn ar waith i drechu'r bwystfil. "Clywais am un dyn y dydd o'r blaen yn gwerthu'i grys i gael cyflenwad o'r ddiod ddychrynllyd yna" meddai, gan orffen yn anobeithiol "Beth nesa dywedwch?"
Nid oes angen i mi ychwanegu mai llwyr-ymorthodwr oedd Elis..!
Roedd dyfodiad y nafis a'u harferion yfed yn cyd-fynd ag un o gyfnoda' mwya dirwestol yn hanes Cymru. Er i nifer o Gymry wlychu'u pigau rwan ac yn y man, yr oedd mudiada' dirwestol y cyfnod yn ffynnu, a chafwyd cangen ym mhob plwy' bron dros ogledd Cymru. Pregethwyd areithiau tanllyd o bwlpuda' capeli anghudffurfiol y wlad, yn rhybuddio cynulleidfaon o beryglon cael eu swcro gan y ddiod felltith. Mewn ffaith, yng ngholofn newyddion lleol Llanrwst yn Y Faner ar yr 16eg o Chwefror 1876, dywedwyd fod cyfarfod o gynrychiolwyr enwada' crefyddol y dref wedi ei gynnal i drafod cau'r tafarnau ar y Sul.
Ychwanegwyd y newyddion syfrdanol fod tafarnwyr Do’ddelan wedi penderfynu cau'r tai potas yno i gyd ar y Suliau, oherwydd yr helyntion mae'n debyg. (Ond dros dro oedd hynny, dwi'n credu)
Roedd hyn 5 mlynedd cyn dyfodiad Deddf Gwlad 1881, pryd y pasiwyd deddf i gau'r tafarnau yng Nghymru i gyd ar y Suliau, achlysur arwyddocaol. Dyma'r ddeddf gwlad gynta' i gydnabod fod Cymru yn genedl ar wahan, mewn ffaith, a deddf a ddiddymwyd, yn anffodus yn 'marn i, yn y blynyddoedd diweddar. Felly, a chymryd i ystyriaeth naws y cyfnod, mi allwch ddeall am bryderon trigolion Do’ddelan rhwng 1874 ac 1879.
Ar y llaw arall, rhaid yw ceisio dirnad rhesymau'r nafis dros droi at y ddiod feddwol. Roedd yn fywyd unig iawn i'r mwyafrif ohonynt, ymhell oddicartef a theulu. Doedd gan rai ddim cartra i ddychwelyd iddo, dim ond crwydro o un gontract fawr fel hyn i'r llall. Wedi treulio diwrnod llafurus ar Bont Gethin, ar y lein ei hun, neu gwaeth fyth, i mewn yn y twnel (wel o leia roedd rheiny'n sych yn dod o'r gwaith), doedd gan nifer fawr ddim i'w ddychwelyd ato ond cwt oer, llaith, ac mae'n rhaid mai bywyd digalon dros ben oedd hwnnw i'r creaduriaid, mewn cyfnod pan oedd gaea yn aea' go iawn.
Felly, hawdd ydi dychmygu fod cynhesrwydd baria' y Benar View, y Gwydyr, y Fish Inn a'r Llywelyn Arms i'w groesawu'n fawr gan y dynion. A chofiwch hefyd, heblaw am fwyd ac ambell ddilledyn, doedd gan y nafis ddim byd arall i'w wario arno, a'r unig gysur a gawsant fyddai'r ddiod feddwol. Ond byddai yfed cwrw cry' y cyfnod yn costio'n ddrud i lawer ohonynt, nid i'w brynu, ond mewn dirwyon rheolaidd yn y llysoedd. Canlyniada'r yfed trwm oedd cam-byhafio, cwffio a thorri'r gyfraith yn aml… a cholli bywydau yn achlysurol.
- - - - - - -
Tro nesa: y nafis yn gwneud son amdanynt...





.jpg)




.jpg)


.jpg)

.jpg)

.jpg)
.jpg)
.jpg)
.jpg)
