Drwy reddf fy etifeddiaeth
Nid yw yn beth mor hawdd
I gyfarch fy nghymydog
Mewn Saesneg, dros y clawdd.
Mae mwy o rwystrau yma
Na sgwrs y geiriau mân
Yn ffiniau anweledig
I'n cadw ar wahan.
3.8.25
Cerddi Cydwybod -Ffiniau
1.8.25
Cerddi Cydwybod -Wedi'r Llanw
Mae'r olion yma'n amlwg,
Fe ddaeth o don i don,
Gan gyrraedd y penllanw
Nes torri'r dorlan hon;
A'r tonnau hynny, yn y man
A ddaeth yn llif dros erwau'r Llan.
Waeth heb â chodi cloddiau
Na mur i'w gadw draw,
'Does dim all ein hamddiffyn,
Rhaid derbyn beth a ddaw;
Y baw a'r broc ddaeth gyda'r lli'
Sy'n awr yn pydru'n glannau ni.
Ac wedi'r holl ganrifoedd,
Ein tirwedd sydd ar drai,
A neb i gau'r llifddorau,
Er gwybod lle mae'r bai;
Y llanw estron - dyna yw -
Sy'n boddi'n hiaith a'n ffordd o fyw.
30.7.25
Cerddi Cydwybod -Allwedd
Cerdd gyfansoddais flynyddoedd yn ôl wrth weld y cynnydd yn niferoedd y mewnfudwyr di-Gymraeg i gefn gwlad, a olygai ddirywiad yn yr iaith.
I ddieithryn 'nawr ers tro,
A'r croeso uwch y glicied
Yn nodwedd o'r hen fro.
Rhoi rhwydd fynediad trwyddo
Mewn darostyngiad wnawn,
Heb sylweddoli eisoes
Ei bod yn hwyr brynhawn.
Byr yw y dyddiau bellach,
Mae'r nos yn agosáu,
A ninnau heb yr allwedd
I gadw'r drws ar gau.
27.6.25
Cerddi Cydwybod -Iaith
Un arall o 'ngherddi sy'n adlewyrchu fy nadrithiad yn y drefn ieithyddol cefn-gwlad Cymru erbyn hyn. Wrth i ystadegau ddangos y dirywiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau, anodd yw bod yn galonogol. Miliwn o siaradwyr erbyn 2050? Gobeithio wir.
![]() |
| Carreg Cantiori (nid yr un wreiddiol) ger safle gwaith dẃr Llyn Morwynion |
Ro'wn i o'r farn o hyd
Mai dim ond iaith fy aelwyd
A glywid trwy'r holl fyd.
Ond syndod oedd darganfod
Wrth fynd o gam i gam,
Fod gennyf fwy i'w ddysgu
Na iaith fy nhad a mam.
Rwy'f innau erbyn heddiw
Yn ymfalchïo'n iawn
Wrth siarad â nghymydog
Â'i eirfa ef yn llawn.
Ond, anodd yn fy libart,
Yw ceisio parchu'r dyn
Heb awydd ganddo'i siarad
Ond uniaith - iaith ei hun.
20.4.25
Cydeithio
Yn dilyn cyfnod o nifer danau gwyllt fu'n llosgi yn ardal 'Stiniog a nifer o ranau eraill o Gymru yn ystod Mawrth ac Ebrill eleni, cofiais i mi 'sgwennu erthygl a ymddangosodd yn ein papur bro, Llafar Bro, yn Ebrill 2015.
Trafod y gair 'creithio' a ddefnyddir yn y fro hon oedd yr erthygl, sydd yn ddisgrifiad lleol o'r llosgi gwair, rhedyn a thyfiant gwyllt eraill a welir yn rheolaidd yma bob gwanwyn bron.
Gair nad yw'n gyfarwydd am y llosgi mewn ardaloedd gwledig yw hwn, yn amlwg yn lygriad o'r enwau 'Cydeithio/Goddeithio/Tân Goddaith', sy'n mynd yn ôl ganrifoedd. Enghraifft perffaith o lygru iaith... darllenwch yr esboniadau...
.jpg)