Cafwyd adroddiad lawnach o’r gwaith archeolegol, a wnaed yn ystod Mawrth ac Ebrill 1990. Gwnaed archwiliad dopograffig o ryw 20 hectar o amgylch safle’r gwaith dŵr, ynghyd â ryw 250 metr o gloddio ar hyd linell gwely’r beipen ddŵr newydd.
Cyhoeddwyd adroddiad fanylach o’r archwiliad hwnnw, gan David Longley, o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd (G.A.T.) yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd, 1996. Ynddo, dywedir na chafwyd unrhyw dystiolaeth erioed fod y twmpathau hynny, neu’r mounds, fel y’i gelwid wedi dangos fod claddedigaethau wedi digwydd ynddynt. Ond ychwanegwyd fod y ffaith (amheus..?) fod y darganfyddiad o garreg fedd (Cantiori), yr hon oedd, ac sydd yn eglwys Penmachno, yn profi bod claddedigaeth wedi bod ar y bryniau hyn. Cyfeiriwyd hefyd at y garreg arysgrifedig yn wal eglwys Llan Ffestiniog, ac un a gaed ger chwarel Rhiwbach.
Roedd rhai twmpathau isel i’w gweld yr adeg honno (1990). Ond fel dywed Longley, peth anghyffredin fyddai cael beddau o gyfnod Cristnogol cynnar gyda thwmpathau drostynt. Er cloddio llwybr y beipen am 135 metr, a thorri ffos ar draws y llwybr hwnnw, ni ddaethpwyd o hyd i ddim olion o gwbl. Fe goddiwyd i mewn i un o’r twmpathau tua’r un adeg, gan ddod i’r penderfyniad mai tomen mawn oedd yno, ac nid claddfa. Fe ddynodwyd lleoliad ugain tomen arall, o wahanol faintioli, a’u harchwilio, gan ddod i’r penderfyniad eto mai tomennydd mawn oeddynt.
Agorwyd dwy ffos (trenches) arall, un 5m x 1m, a’r llall yn 4m x 1m. i’r dde o ffordd y B4391 i archwilio tomennydd isel oedd ar lwybr y beipen. Ond eto, tomennydd naturiol oedd y rhain. Ond cafwyd beth a dybir i fod yn gwt crwn ar lwybr y beipen, a chytunodd Dŵr Cymru i wyrdroi llwybr y beipen yn y fan honno.
| Gwaith ar y gweill gan Dŵr Cymru 2013-14 |
Cyn cychwyn ar adeiladu estyniad i’r gwaith dŵr cyfagos yn 2013, anfonwyd dau archeolegydd, a dybir, gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, (CBHC) i archwilio’r safle lle y gosodwyd cabannau’r gweithwyr yn ddiweddarach. Ond wedi cwta ychydig ddyddiau yno, ymadawodd y ddau, gan adrodd nad oedd dim olion i’w gweld yno. Mae’r safle honno wedi ei gorchuddio a thunelli o weddillion cerrig cloddio’n estyniad newydd bellach. [DAL DY DDŴR: Mwy o hanes y gwaith, gan Llafar Bro]
Nodwyd y safle mewn arolwg i safleoedd hanesyddol/archeolegol yn yr ardal rhwng y Manod Bach a’r Garnedd yn ystod hydref 2013 a gaeaf 2014 gan Richard Hayman a Wendy Horton. Gwnaed yr astudiaeth werthfawr hon ar ran Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a chofnodwyd dros fil o’r safleoedd hyn, yn dyddio o’r cynoesol i’r dyddiau modern, a chyhoeddwyd y cyfan gan y Comisiwn yn 2014. Ond ni chafwyd unrhyw wybodaeth am gloddio diweddar ar safle Beddau Gwŷr Ardudwy.
- - - --
I'w barhau