Yn rhan 5, mi orffenais yn Rhyd y Cerrig Gwynion. Aros ar y Migneint a wnawn y tro hwn eto.
Tua milltir o Ryd y Cerrig Gwynion, i gyfeiriad Ysbyty Ifan, nodir safle o greigiau a enwir yn ‘Cerrig Lladron’ (SH437775) ar fapiau o’r ardal honno.
Yn ôl traddodiad, roedd y lle yn cael ei ddefnyddio fel cuddfan gan griw o wylliaid Dyffryn Conwy, ac yma y byddent hefyd yn cuddio’r ysbail oedd wedi ei ddwyn ganddynt dros flynyddoedd maith. Cawn ychydig wybodaeth am hyn gan Owen Gethin Jones, Penmachno, yr hynafiaethydd o’r 19g. yn ei draethawd ar ‘
Ysbyty Ifan a’i Hynafiaethau’ yn y gyfrol ardderchog,
Gweithiau Gethin.
Roedd Gethin wedi ei drwytho gydag enwau cynhenid ei fro, a’r ardaloedd o amgylch. Dyma ddywed Gethin yng ngeirfa’r cyfnod:
...Yn nes i lawr at Ysbyty, yn ymyl y gorlan acw y saif Cerig y Lladron, lle bu mintai gref o Wylliaid yn ymnoddi yng nghanol cors eang; dialwyd arnynt gan Evan ap Meredydd – a lladdwyd hwy yn y fan, a chladdwyd hwy ger y lle mewn mawndir dwfn...
Gwelir tomen o gerrig eraill nid nepell o’r fan hyn, ac sydd hefyd wedi ei nodi ar fapiau, a elwir yn Cerrig Llwynogod. Enw digon amlwg, efallai oherwydd mai yma y byddai’r llwynog a’i deulu’n trigo ar y mynydd-dir uchel hwn, ac yn dal i fod yma dybed? Ond roedd yr enw yn gyfarwydd i fugeiliaid y Migneint dros y canrifoedd, yn sicr. Ydi’r enw hwn ar enau bugeiliaid yr unfed ganrif ar hugain sy’n gwestiwn na allaf ei ateb.
Mae’r rhan hwn o’r Migneint yn llawn o leoliadau gydag enwau sydd wedi goroesi dros y canrifoedd, megis ‘Cerrig Simdde’. Mae hyn yn f’atgoffa am ‘Clogwyn y cloc’, neu y Garreg Simne, (SH444736) gan rai, sydd i’w gweld ar y creigiau gerllaw, o lwybr y ffordd Rufeinig, Sarn Helen, rhwng Bryn Castell a Rhiw-bach. Mae’r ddau enw’n gweddu i’r dim i’r garreg hon, yn fy marn i.
Trown eto at Owen Gethin Jones wrth iddo gyfeirio at enw nad yw’n gyfarwydd iawn i deithwyr yr oes hon, ond a welir ar fapiau Ordnans hyd heddiw – Cerrig y Bala, (SH413793) nid nepell o Bont yr Afon Gam.
Dyma ddywed yr hanesydd eto, yn ei ffordd ramantus ei hun, (yn ieithwedd a sillafiadau ei gyfnod eto):
I gyfeiriad De-orllewin, gwelwn Gerig y Bala, lle y dadlwythodd y Gawres ei ffedogiad o gerig, ar ol dod a hwy o gwr Llyn Tegid, i fod yn derfyn heddychlon rhwng Ysbytty a Llanfair, oblegid honai Ysbytty derfynau eang iawn yn yr hen amseroedd...
Daw Gethin â chyfeiriad at enw arall yn y filltir sgwâr hon yn ei gyfrol; mewn llecyn yr ‘ochr arall’ i Afon Conwy, ar draws y ffordd o Dŷ Cipar Llyn Conwy, sef y Garreg Ddefod. (SH444736)
Dywed fel y byddai bugeiliaid yr amser fu yn adrodd rhyw fath o weddi ger y garreg hon, gan obeithio iddynt gael llwyddiant wrth gneifio’r defaid. Beth bynnag y rheswm dros yr enw, erys y geiriau ‘Carreg Ddefod’ ar fapiau Ordnans ein dyddiau ni, fel prawf o hen draddodiadau colledig ein hynafiaid. Ond yn anffodus, er i mi ddarganfod rhyw garreg fyddai’n cyfateb i’r enw flynyddoedd maith yn ôl, ni fedrwn gael hyd iddi, er chwilio’r safle arfaethedig nifer o weithiau’n ddiweddar. Ymddengys bod y Garreg Ddefod wedi diflannnu, neu wedi’i symud, ac yn rhan o ddirgelion y dyddiau fu – yn llythrennol - erbyn hyn, gwaetha’r modd!!
- - - - - - -
[Dolen at Ran 1 y gyfres]