Gobeithio fod y gerdd isod yn esbonio fy nheimladau, a theimladau nifer o nghyfoedion bellach. Daeth tro ar fyd ar ein cynefinoedd dros yr hanner canrif aeth heibio, yn sicr.
'R'ôl cyfri' a didoli,
Rhaid ydoedd sicrhau
Fod praidd yn ei gynefin
A'r llidiart wedi'i chau,
Er mwyn rhoi'r heidiau ar wahân
I gadw enwau’r brîd yn lân.
Ond collwyd cownt ar bennau,
Daeth pydredd i’r hen bren,
A drws y prif fynediad
Agorwyd led y pen';
Ysbeilio had ein porfa ni
Wna'r estron haid ddaw drwyddi hi.
![]() |
Mynedfa Bryn Castell. Bryngaer Oes yr Haearn lleol, yn edrych trwy'r adwy at dirlun hanesyddol a welodd newidiadau rhyfeddol ac ymosodiadau a goresgyniad dros y canrifoedd |