8.7.26

Beddau Gwŷr Ardudwy- Rhan 6

Cafwyd sawl adroddiad am y beddau yn y papurau newyddion a chylchgronau dros y blynyddoedd, ond ‘does yr un sy’n gallu cadarnhau dyddiad pendant i’r safle. Mae nifer o fersiynau o chwedl Llyn y Morwynion wedi eu hadrodd dros y degawdau, a’r stori ei hun wedi ei mabwysiadu gan chwedleuwyr a gwŷr y llysoedd ers canrifoedd. Wrth i’r hanes fynd o lys i lys, yn ddi-os bu newid yma ac acw, ac ychwanegu ychydig ar y stori, cyn iddi gael ei chofnodi rywdro yn yr oesoedd canol cynnar gan fynachod a’u tebyg fel rhan o’r chwedleuon byd-enwog.

Y trueni mawr yw na fu cloddio archeolegol, swyddogol ar y safle’n gyfan gwbl erioed, er yr holl sôn am y lle, a’r cysylltiadau â’n hen hanes. Fel y nodwyd, cafwyd sawl enghraifft, fel ar safle’r beddau hyn, o rai diegwyddor yn torri’i mewn i feddau, cistfeini, cromlechi ac ati dros y canrifoedd, a’u difetha, gan amddifadu haneswyr heddiw o wybodaeth werthfawr am ein hynafiaid a’u ffordd o fyw. Mae’r hyn a ddywedir wrthym gan haneswyr ddoe yn rhoi darlun o’r hyn oedd i’w weld, a’r hyn a ddiflannodd o fewn ychydig flynyddoedd yn y 19ganrif. Fe wyddom i Richard Fenton ymweld â’r safle yn 1813, a nodi’r beddau. Erbyn 1851, dywedir fod y cerrig i gyd wedi mynd, ac erbyn 1870, roedd y twmpathau wedi mynd i ebargofiant.

Erbyn hyn, nid oes nemawr ddim i’w weld o’r hyd at 40 bedd honedig, os yw rhai fel Edward Llwyd, Thomas Pennant, W.H.Hancock a’r Twrne Llwyd ac eraill i’w coelio. Mae ar y safle ambell dwmpath bychan yma ac acw fyddai’n werth cloddio i mewn iddynt, petai’r caniatâd ar gael. 

Ond ar fapiau OS heddiw, ceir rhain eu nodi fel pillow mounds, sy’n golygu rhywbeth tebyg i dwmpathau mawn a adawyd ers dyddiau cloddio mawn am danwydd. Mae yno hefyd olion o be’ dybiwn sy’n gylch crwn o gerrig, ac ambell garreg a fedr fod yn rhan o gistfaen. Ond, gyda diffyg unrhyw brawf pendant, na dim cyfarpar proffesiynol i ymchwilio’r safle, efallai mai damcaniaethu ydw inna’.  Anodd felly ydi penderfynu’n union i ba gyfnod y mae Beddau Gwŷr Ardudwy, sydd â rhan mor bwysig yn chwedloniaeth Cymru, yn perthyn. Mae cysylltiadau â nifer o gyfnodau, o’r Oes Efydd, Oes Haearn, y Cyfnod Rhufeinig, yr Oesoedd Tywyll i’r Oesoedd Canol, yn bodoli ar y safle, ac o fewn tafliad carreg i’r Beddau. 

Mae cantref Uwch-Ardudwy, lle saif y safle, wedi ei gofnodi fel rhan o deyrnas Gwynedd yn yr Oesoedd Canol, ond yn fwy na thebyg yn deyrnas annibynnol ymhell cyn hynny. Mae Gwynedd yn dyddio’n ôl i o leia’r 5ed-6ed ganrif, oherwydd ceir cyfeiriad at yr enw Lladin o’r lle, Venedotia ar garreg fedd Cantiorix o’r cyfnod hwnnw sydd yn eglwys St Tudclud ym Mhenmachno [Gweler rhan 3].

Gan fod palstaf - bwyell efydd - wedi ei darganfod ar y safle, fe ellir hawlio efallai fod y safle’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd, dros 700 o flynyddoedd cyn Crist. Mae’r awgrym mai gweddillion cistfeini yw’r hyn sydd ar ôl o Feddau Gwŷr Ardudwy yn cryfhau’r honiad, yn enwedig yr wybodaeth dros y blynyddoedd am y mounds fu unwaith ar y safle. Byddai’r tomennydd rheiny wedi gorchuddio’r cistfeini, yn ôl trefn claddedigaethau’r Oesoedd Neolithig, Efydd neu Haearn, ambell waith.  Petaent yn feddau Rhufeinig, neu feddau Cristnogol cynnar, ni fyddai tomennydd yn gorchuddio'r rheiny, dim ond beddau wedi eu gosod ar y gwastad fyddai i’w gweld. Mae’r honiad mai o’r fan hon y daeth y garreg arysgrifiadol sy’n eglwys Penmachno yn awgrymu mai o gyfnod Cristnogaeth cynnar - tua’r 6ed ganrif yw cyfnod y beddau. Hefyd, wrth ddeall fod y rhan fwyaf o’r beddau, yn ôl llygaid-dystion yn gogwyddo Dwyrain-Gorllewin yn awgrymu mai beddau Cristnogol ydynt. 

Ond eto, gan fod Bryn Castell, y fryngaer Oes yr Haearn mor agos, tybed ai beddau o’r cyfnod hwnnw ydynt? 

I mi, mae’n ddigon posib’ mai o’r cyfnod hwnnw maent yn dyddio, a bod brwydr wedi digwydd yno rhwng carfannau, neu dylwythau o’n cyndeidiau. Ond pam fod y beddau wedi eu nodi gyda cherrig - oedd yr ymadawedig yn ddigon pwysig i’r cof amdanynt gael eu nodi fel hyn? Pwy oeddynt? Pryd y bu hynny sydd yn gwestiwn na fedrai ateb yn bendant, yn anffodus.

- - - - - -

Un bennod eto i ddod..!

Yn y cyfamser, dilynwch y gyfres efo'r botwm 'older post' isod.