17.7.26

Gethin: Dyn y Bont

Cyfres newydd, am Owen Gethin Jones, y dyn a adeiladodd Pont Tan-yr-allt (pont a elwir heddiw yn Bont Gethin) i gludo rheilffordd Dyffryn Conwy dros Afon Lledr i Stiniog.

(Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn 43, 2024 Rhamant Bro, cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, yn dilyn sgwrs roddais iddyn nhw)

Wrth i mi gyflwyno testun fy llith, efallai i ambell un gwestiynu pa gysylltiad sydd rhwng Gethin â dalgylch y cylchgrawn hwn? Yn syml, bu iddo gyfrannu’n helaeth, mewn mwy nag un ffordd, tuag at ddatblygiad Blaenau Ffestiniog ar amser tyngedfennol o hanes y dref. Onid ei gwmni ef a sicrhaodd bod chwarel Rhiwbach yn cael ei chyflenwi gyda thramffordd i gario’i llechi dros dair milltir o hyd o’r chwarel honno bob cam i Ddiffwys yng nghanol y dref? Onid cwmni’r gwrthrych hwn a sicrhaodd bod traphont (viaduct) ysblennydd, a enwir ar ei ôl - Pont Gethin – yn cael ei chodi dros ran beryglus o Afon Lledr, a chyfrannu tuag at y wyrth o weld y rheilffordd yn cyrraedd y Blaenau yn 1875?

Felly, rhaid cytuno bod ei gyfraniad tuag at gysylltu’r ardal hon gyda gweddill dyffrynnoedd Lledr a Chonwy, a gweddill Prydain a’r byd wedi bod yn enfawr, a diolchwn iddo am hynny. Ond hefyd rhown sylw i fro enedigol OGJ, Penmachno.

            -----------------------------------------------------------------

Dros y canrifoedd, bendithiwyd Penmachno â rhestr faith o enwogion o fri a fagwyd yn y plwy’.  Pa Gymro, neu Gymraes gwerth eu halen nad ydynt yn gwybod mai o fewn ei ffinia’ y ganed y gŵr sy’n cael ei gydnabod gan nifer fawr o haneswyr fel yr un a gyfrannodd gymaint i sicrhau ein bod yn dal i siarad yr hen iaith annwyl hon. Ia, yr Esgob William Morgan, o Dŷ Mawr Wybrnant wrth gwrs, a gyflawnodd y gymwynas fawr o gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Ym Mhenmachno hefyd y ganed sawl un adnabyddus arall, yn eu mysg y beirdd Huw Machno, a William a Rhisiart Cynwal, ac, yn nes i’n cyfnod ni John Ellis Williams, y dramodydd a’r dychanwr; Richie Tomos, y tenor annwyl, ac Euryn Ogwen Williams, un o brif sylfaenwyr S4C.  Ond yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymysg torreth o feirdd a llenorion a fagwyd yno’r ganrif honno, safai un gŵr ben a sgwydda’ uwch y lleill – gŵr y bu ei ddylanwad yn uchel iawn yng nghymdeithasa’ Dyffryn Conwy a thu hwnt y cyfnod hwnnw – Owen Gethin Jones.

Fe’i ganed ar y 1af o Fai 1816 yn fab i Owen a Grace Jones, Tŷ’n -y-cae.  Fel arfer yr oes honno, bedyddiwyd y mab hynaf ar ôl y tad, felly doedd dim enw canol iddo ar ei fedydd, dim one Owen plaen! Mabwysiadodd yr enw Gethin wedi ei urddo yn Eisteddfod Caernarfon 1862.  Roedd gwreiddiau’r teulu, ar ochr ei dad, yn mynd yn ôl trwy deulu’r Esgob William Morgan, a thrwy hynny i goeden achau Hedd Moelwynog a phymtheg llwyth Gwynedd. Fel y gwelwch, roedd gwreiddiau urddasol iawn gan Owen Gethin, ac ymfalchiai yn fawr yn ei achau hanesyddol.  Roedd Owen Jones, ei dad, yn ŵr busnes prysur iawn yn ei ddydd, fel  tyddynwr, Saer Maen a thirfeddiannwr pwysig.. Felly, roedd cefndir Gethin yn ymwneud gydag adeiladu, ac uchelgais i fynd ymlaen yn y byd.
Wedi priodi ag Anne Owen, Coetmor, Dolwyddelan, ymgartrefodd y ddau yn nhyddyn y Dolydd, Penmachno, ac yno ganed saith o blant iddynt. Yna symud i fyw i Dyddyn Cethin, fferm o thua 82 erw ar y pryd, lle y bu’n brysur yn gwneud llawer o waith o godi tŷ newydd ac adeiladau newydd o’i amgylch, a gwella safon y tir.

Gan mai erthygl yn cyflwyno darlun o ŵr oedd yn athrylith yn ei ddydd sydd yma, bu raid imi dorri ambell gornel wrth drafod ei hynt a’i helynt. Byddai‘r cylchgrawn cyfan ddim cweit digon i bortreadu’r bardd, hanesydd ac adeiladydd enwog o Dyddyn Cethin, Penmachno yn llawn, coeliwch fi.

Pan benderfynais gyhoeddi cofiant iddo yn y flwyddyn 2000, mi ddewisais y testun ‘Owen Gethin Jones, Ei Fywyd a’i Feiau’ ar y gyfrol. Ac oedd, roedd ‘na reswm da am yr enw, fel y clywch yn nes ymlaen.  Daeth Owen Gethin yn adnabyddus iawn drwy Ddyffryn Conwy, a phellach, yn ystod y 19 ganrif fel adeiladydd o fri, ac yn gyfrifol am nifer o gontractau, dros ogledd Cymru, ac yn cyflogi nifer o weithwyr. Roedd hefyd yn fardd uchel ei barch ymysg y gymdeithas lên yn y dyffryn, ac yn cyfri’ enwogion megis Trebor Mai a Gwilym Cowlyd, o Lanrwst yn gyfoedion a chyfeillion agos iddo. Y tri yma fu’n gyfrifol o sefydlu Arwest Glan Geirionnydd, gŵyl lenyddol, flynyddol, ar lan y llyn o’r un enw uwchben Trefriw gyfagos, yn 1863.  Sefydlwyd yr Arwest yn benna’ fel protest yn erbyn sefydliad swyddogol yr Eisteddfod Genedlaethol, oherwydd i’r brifwyl fod yn rhy Seisnig ei naws yr adeg honno.  Bu’r Arwest yn boblogaidd iawn, gyda’i seremoniau a’i gorsedd ei hun, a barhaodd tan y 1920au cynnar. Ymysg rhai eraill a ystyriwyd eu hunain yn gyfeillion i Gethin oedd Ceiriog, Clwydfardd a Gwalchmai, beirdd o fri eto.


I'w barhau...