31.7.26

Owen Gethin Jones, Rhan 3

Yn 1861 roedd Gethin wedi derbyn y sialens i wireddu cynllun Spooner, pennaeth Rheilffordd Gul Ffestiniog i greu tramffordd 3½ milltir o hyd i gario llechi chwarel Rhiwbach, uwchben Cwm Penmachno, i gyfarfod â thrên bach Ffestiniog oedd yn cychwyn am harbwr Porthmadog yn sgwâr Diffwys ym Mlaenau Ffestiniog.  

Ond doedd y contractau hyn i gyd yn ddim i gymharu â’r gwaith mwyaf y bu i Gethin ymgymryd ag o, sef i ehangu’r rheilffordd oedd wedi cyrraedd Betws-y-coed i gyfeiriad Blaenau Ffestiniog yn 1868, a’r fasnach cario llechi oedd ar gael yn y Blaenau, heblaw’r potensial o gludiant teithwyr o’r boblogaeth fawr honno ar y pryd.  Roedd dau gynllun ar gyfer y lein wedi cael eu hystyried – y cyntaf i fyny Dyffryn Lledr, trwy Ddolwyddelan i’r Blaenau. 

Pont Tanyrallt, neu Bont Gethin i roi ei henw mwy cyffredin

Golygai hynny oroesi daeareg anodd iawn trwy’r dyffryn, a thorri twnnel dwy filltir a chwarter o hyd – yr hiraf yng Nghymru – trwy Foel Dyrnogydd i’r Blaenau. Roedd yr ail gynllun yn fwy o sialens na hynny hyd yn oed, wrth geisio goresgyn llawer o broblemau ar y llwybr i Gwm Penmachno, a thwnnel arall, tua dwy filltir a chwarter eto drwy’r mynydd o’r Cwm i’r Blaenau.

Wedi cryn drafod, penderfynwyd yn y diwedd ar gynllun Dyffryn Lledr, a chroesawodd cwmni’r London & North Western Railway (LNWR) i ymgymerwyr gynnig prisiau am yr holl waith. Roedd cwmni Gethin yn un a gynigiodd am wneud y gwaith o osod y traciau, codi gorsafoedd, agor twneli  a siafftiau o amrywiol faintioli, a chodi pontydd ar y daith. 

Gan gofio iddo gwblhau gwaith digon anodd, ond proffidiol, gyda thramffordd Rhiwbach, am £14,000, roedd Gethin yn ffyddiog y gallai wneud puntan neu ddwy, neu fwy o’r contract fwyaf a fu erioed yn yr ardal. Roedd wedi cytuno i wneud yr holl waith am £120,000, ond roedd ychydig o drafferthion i’w hwynebu. Yn ôl gofynion y cwmni rheilffordd yr LNWR, roedd Gethin wedi rhoi amcan bris am osod trac cul o’r Betws i’r Blaenau, a fyddai’n ymuno â lein gul Rheilffordd Ffestiniog yn y dre’ honno.  

Ond, newidiodd y cwmni rheilffordd ei feddwl, gan benderfynu ar drac lled safonol, neu’r standard gauge, a dyna ddechrau dadl chwilboeth rhwng y ddwy ochr. Diwedd y gân oedd i’r LNWR gytuno i wneud y rhan fwya’ o’r gwaith ei hun, a Gethin i wneud gwaith arbenigol arall ar y lein. Un o’r tasgau mawr hynny oedd i godi traphont – viaduct – yn Nhanyrallt, rhwng Betws a Dolwyddelan, pont a gychwynwyd arni yn 1874 ac a gwblhawyd yn 1878. Oherwydd ei ymroddiad a’i allu adeiladol, roedd, ac mae’r bont yn gampwaith o adeiladwaith, yn chwarter milltir o hyd, gyda saith bwa anferth yn croesi rhan greigiog, wyllt o’r afon Lledr.

Roedd cynllun tramffordd Rhiwbach i’r Blaenau, a gostiodd £14,000 wedi dod ag elw da i’r cwmni. Ond roedd y pris o £120,000 a gynigwyd gan Gethin i wneud yr holl waith o godi‘r lein rhwng Betws a’r Blaenau ymhell o fod yn ddigon. 

Costiodd y gwaith i dyllu’r twnnel mawr rhwng Blaenau Do’ddelan a Blaenau Ffestiniog fwy na hynny’n unig, ac roedd y bil am y gwaith i gyd dros £250,000 yn y diwedd. Felly, roedd gan Gethin le i ddiolch am y ffrae rhyngddo â’r cwmni rheilffordd, neu mi fyddai wedi bod yn fethdalwr yn sicr. 

Ond y gwaith ar y bont oedd ei gampwaith o. Pont a’i hanfarwolwyd – pont a elwid hyd heddiw yn Bont Gethin, er parch a chlod i’r ymgymerwr o Benmachno a’i griw o nafis.  Mae sawl stori’n ymwneud â chyfnod codi Pont Tanyrallt – ei henw swyddogol, sydd yn cyfleu’r cyfnod, a’r cyffro oedd yn rhan o’r oes wyllt honno yn hanes Dyffryn Ledr. Newidiwyd cymuned grefyddol, agos at ei lle fel Dolwddelan dros gyfnod y contract mawr o godi’r lein. 

- - - - - - - - 

TRO NESA: hanes adeiladu'r bont

(Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn 43, 2024 Rhamant Bro, cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, yn dilyn sgwrs roddais iddyn nhw)