25.7.25

Cerddi Cydwybod -Craith

Cerdd arall sy'n cyfleu fy nheimladau am y sefyllfa sy'n bodoli yng nghefn gwlad Cymu'n gynyddol y dyddiau hyn.

Ni sylwai ar yr hagrwch
yn y tomenydd llwm - 
gweddillion gwaith y chwarel
yn gysgod dros y Cwm;
roedd yn baradwys iddo fo
wrth iddo lordio'i mewn i'r fro.

Ond ni all estron weled
y graith sydd yn fy nghôl,
a minnau yn hiraethu
am ddyddiau na ddaw 'n'ôl,
pan oeddem ni, drigolion gwâr
yn berchen ar ein milltir sgwâr.