Showing posts with label Cerddi. Show all posts
Showing posts with label Cerddi. Show all posts

20.6.26

Awr yn nes...

Pennill fach a yrrais i golofn Rhod y Rhigymwr yn ein papur bro- Llafar Bro, yn ymateb i'r dasg o ychwanegu at y gwpled 'Diwedd Mawrth bu raid i ninnau / Ufuddhau i droi ein clociau...'

 

Diwedd Mawrth bu raid i ninnau
Ufuddhau i droi ein clociau
Awr ymlaen, ac awr yn hynach, 
Awr fydd ran ohonom bellach,
Awr i’n hebrwng at yfory,
Awr yn nes at ryddid Cymru!

  

Rali Annibyniaeth, Wrecsam, Gorffennaf 2022
Fi, Bethan y ferch, a Paul, un o'm meibion, efo'n baneri.


1.5.26

Mi gerddaf gyda thi

Cyfieithiad o I'll walk beside you a gyfansoddais ar gais cyfaill imi, oedd yn gofyn am gân i'w chanu yn angladd ei wraig yn Awst 2018. Hefyd yn berthnasol i minnau ar hyn o bryd, gan ei bod yn dair blynedd ers i mi golli f'annwyl wraig Beryl ym Mai 2023.

Mi gerddaf gyda thi dros lwybrau’r byd
A ninnau’n dau bob tro yn un o hyd;
Gan syllu arnat ti a dal dy law,
Mi gerddaf gyda thi beth bynnag ddaw.

Mi gerddaf gyda thi hyd oriau’r nos
O dan holl sêr y nen a’r wybren dlos;
A rhoddaf iti dyner gariad glân,
Mi gerddaf gyda thi i’r oriau mân. 

Mi gerddaf gyda thi dros siwrne faith
Drwy ddyddiau blin a braf, ar hyd y daith,
A phan ddaw’r machlud atom, ddyddiau pell,
Mi gerddaf gyda thi i fyd sydd well.

Nad-fi'n-angof; forget-me-not. Llun trwy drwydded Comin Creadigol CC0 1.0

 

18.3.26

Y Sesiwn Fawr

Ar raglen ar y weiarles, cyn toriad y wawr
Y clywodd Twm T'ucha am y Sesiwn Fawr;
Gwrandawodd yn astud, yn rong, hynny yw,
Am ddyfodiad y Sasiwn, er trymed ei glyw.
Hen lanc, bron yn neinti, un agos i'w le,
Yn sownd i'w gynefin, ac yn ddiarth i'r dre'
Oedd hwn; wedi cadw i'r llwybr cul,
Yn ffyddlon i'r moddion yn Salem bob Sul.

Dim ond camgymeryd llythyren wnaeth Twm,
'Roedd hynny'n naturiol, a'i glyw o mor drwm;
Mae acen Lanfachreth a'r fro, neno'r têd
Y dafodiaeth ryfedda' a glywir trwy'r wlêd.
Fel mae pawb yn yr ardal yn gwybod ynte,
Mae 'A' mewn sawl ystyr yn swnio fel 'E'.

Roedd yr ŵyl i'w chroesawu gan gapelwr fel fo -
Ni chynhaliwyd 'r'un Sasiwn fel hynny ers tro.
Fel un heb ddiddordeb ym mhethau y byd -
Wedi'i drwytho ar bregethau 'rhen gewri i gyd
Edrychai ymlaen, wrth roi'r tresi ar Pol 
Y ferlen, a'i gosod yn sownd yn y drol.

Gydag ef roedd ei Feibl (hen fersiwn, wrth gwrs,)
Llyfr Emynau, Atodiad, a phunt yn ei bwrs 
Ar gyfer y casgliad, gan ei fod o mor hael,
(At achosion enwadau mor hynod o wael.)
Roedd dewis Dolgellau'n ddelfrydol, yn wir,
Â'i gysylltiad â'r Crynwyr a chrefydd mor hir.

Wedi dychryn 'r'ôl teithio'r ffordd fawr ar ei hyd,
A rhyfeddu bod cymaint o geir yn y byd,
Cyrhaeddodd y Marian yn ddigon di-lol,
A holodd rhyw blismon lle 'ca'i i barcio ei drol.
"Mae'r dre' 'ma yn orlawn" atebodd y cop,
"Lle 'gosa 'di Ganllwyd, yn ymyl y siop".

I Twm, nid oedd hyn yn gwneud llawer o sens -
Cael Gŵyl Fethodistaidd ochr arall i ffens,
Ond cytunodd fod y Sasiwn yn wir, ddiymwad,
Yn dal yn boblogaidd gyda phobl y wlad,
Wrth weld y tyrfaoedd yn mynd ar eu hynt
Fel locustiaid yn hanes 'r'Hen Destament gynt.

Daeth geiriau'r sylwebydd, yn uchel ei lef,
Fel llais o'r anialwch, nid fel manna o'r Nef,
I atgoffa'r mynychwyr o'r arlwy o'u blaen, 
Ond dirgelwch o'r mwya', o hynny ymlaen
I Twm, oedd yn barod â'i Ganeuon Ffydd,
A'i borthiant o weddïau i'w gynnal trwy'r dydd.

Ni chlywodd erioed am y 'sgethwr Bryn Fôn,
Ai diwygwyr yw'r Moniars o Ynys Môn?
A phwy oedd y boi 'na o Benrhyn Llyn?
A'i brawd i Tom Nefyn, ymholai ei hun.
A phwy yw Twm Morys,- efengylwr o fri?
A ydi Meic Stevens yn Barchedig, D.D?

Siomedig gythreulig oedd yr ŵyl i'r hen frawd,
Wedi gweld beth oedd hanes y Sasiwn a'i ffawd.
Heb gael dweud yr un adnod na galw'r Amen,
Ac yntau yn uffern, a'r Diafol yn ben,
Hysiodd Poli tuag adre' i Dŷ Ucha yn syth,
A'i adduned yn datgan na ddychwelai o  byth
I'r SAsiwn yn Sodom; ac rwy'n sicr yn awr
Na welwn Twm eto'n y Sesiwn Fawr
 

15.3.26

I'r Pant y Rhed y Dŵr

Fe gafodd Twm ei eni
Yn lwcus, chwara' teg,
A llwyth o lwya' arian 
A sgleiniai yn ei geg;

Derbynodd holl fanteision
Y ddaear hon, o'r crud,
Heb fod erioed mewn angen,
Yn fodlon iawn ei fyd.

Ei gyfle ddaeth yn gynnar 
I flasu'r bywyd bras,
Pan briododd, yn ŵr ifanc
Ag unig ferch y Plas;
Fe etifeddodd gyfoeth
Y Major, a'i holl dir;
Y cwbl yn haeddiannol
A dweud yn hollol wir,
Am gael y weledigaeth
Mae'n rhaid edmygu'r dyn,
Am orfod rhannu gwely 
 dynes mor ddi-lun.

Dros lewyrch y blynyddoedd
Aeth hwn o nerth i nerth,
Ni allai gyfri'i ffortiwn,
Ni wyddai faint ei werth;
Drwy nawdd y sybsideiddio
A ffidlo ambell grant
Diddorol fydd tystiolaeth 
Ewyllys Twm i'w blant.

Fe werthodd, am ddwy filiwn,
Saith erw o dir gwael
I un ddaeth 'mewn i'r ardal, 
Rhyw Ianci eitha' hael,
A fu yn ddigon gonest
I dalu'r pris yn llawn
I goffrau Twm, oedd eisoes
Yn orlawn, orlawn iawn.

Onid yw'r byd 'ma'n greulon,
Mae'n anodd dallt y drefn,
A minnau'n ofergoelus,
Yn byw yn nymbar 7;
Er i mi weithio'n onest
Nid ydwi fymryn nes,
Rhaid cael y cash i ddechra' -
Mae pres yn magu pres;
Ac yma, yn fy nhlodi
Mi wn yn berffaith siwr
Mai gwir yr hen ddywediad,
'I'r pant y rhed y dŵr'.

13.3.26

Un ar ôl

Yma f’hun wyf yma druan,
Claf o serch yw ‘nghalon fechan,

Un ar ôl sy’n llawn o deimlad,
Lle bu dau yn llawn o gariad.
Unig ’rwyf ers iddi fyned,
Mawr yw’r ing, a mwy yw’r golled;
Llygaid trist yn llawn o ddagrau,
Anodd ceisio lleddfu’r angau.

Cerdd fach bersonol, yn cwblhau cwpled gan Iwan Morgan yng ngholofn Rhod y Rhigymwr, Llafar Bro, Mawrth 2026
 

15.2.26

Y Marina

Daeth cynllun uchelgeisiol
Rhyw gwmni mawr o'r De
I'w drafod a'i ystyried
Gan Gyngor Bach y dre'.
Ned Owen, hen Lafurwr,
(Ond Tori yw'n y bôn)
A roddodd y gwahoddiad
I'r cynllun,'nôl y sôn;
Hwn gredai'n gydwybodol
Y dylai fod yn ddeddf
I beidio gwrthwynebu
'R'un estron blan, o reddf.

Ei gyfaill, John 'r'Emporium
Oedd uchaf groch ei lais
Wrth feddwl am y siopa'
Yn elwa o bres y Sais;
Roedd o'n rhagweld armada
O forwyr tywydd braf
Yn hwylio yn eu miloedd
I'r strydoedd ym min haf.

"Anghofiwch egwyddorion
Hen ffasiwn, gwirion, ffôl
Am etifeddiaeth" meddai,
"A chymaint ar y dôl;
Os cawn ni gant o swyddi,
Wel, 'falla chwech neu saith,
Mi fasa'n hwb i'r ardal
Pa'r ots am foddi iaith."

Daeth llawer o gefnogaeth
I'r cynllun, 'n'ôl y drefn,
Drwy winc, a chodi dwylo
Y criw ddi-asgwrn-cefn;
A phasiwyd, bron yn unfryd
I dderbyn yn llawn ffydd
Y plan i gael Marina,
I'w ddechrau unrhyw ddydd.

Ond yna, daeth i sylw
Am broblem, nid un fach,
Sef sut i godi harbwr
I gychod neis y crach;
A thynwyd gwynt o hwyliau
Y cynllun ar y bwrdd
Am Farina mawr i 'Stiniog
A'r môr mor bell i ffwrdd
 

13.2.26

Ceffyl Blaen

(Mae angen un ym mhob cymuned!) 

Cyhuddwyd Ifan droeon o fod yn geffyl blaen;
Yn wir, bu'r cyhuddiada' yn dipyn bach o straen
Ar iechyd un mor ffyddlon i achosion da y wlad,
Ac un mor gydwybodol dros bopeth, neno'r tad.

Er gwreiddiau digon syml a thlodi'r dyddiau pell,
Fe wnaeth pob dim y gallai i wneud ein byd yn well,
'R'ôl byw o'r llaw i'r genau, â'i gefndir digon tlawd,
Fe roddodd hwn wasanaeth rhagorol dros ei frawd. 

Ceid geiriau hyll amdano, 'rhen gr'adur caib a rhaw,
Am  bry' sy'n codi ucha', ac am y lle y daw;
Cenfigen ydi'r cyfan, ac fe glywsom lawer tro
Am rai o blith y werin â'u cyllyll ynddo fo.

Nid am ei fod o 'stabal werth chweil, na'i bedigrî,
Nac am ei ddawn o arwain cymdeithas, am wn i,
Y daeth rhen Ifan yntau, dros gyfnod, 'deud y gwir,
Yn ffefryn efo'r lêdis, rhyw fath o stalwyn sir,

Wrth geisio gwneud cymwynas â gwraig y Garreg Lefn, 
Fe' i 'nafwyd wedi baglu dros riniog y drws cefn;
Ei aberth dros ei bobl sy'n rhwystr iddo'n awr,
A'i gloffni yn gyfarwydd wrth gerdded y Stryd Fawr.

Ni fu erioed yn canmol ei hun fel ciw o frid,
Na'i allu i genhedlu, na'i ddawn i godi spîd,
Ond, eto, er pob pob malais, y 'ceffyl blaen', a'i sgwrs 
Oroesodd yr holl rwystrau, a chwblhau y cwrs.

Ers iddo gael ei ethol ar bwyllgor bach y côr
A hynny ym mis Ionawr, yn neintîn ffiffti ffôr,
Fe aeth o werthwr raffls, i ddyn gwneud tê y criw,
I'r safle 'mae o heddiw, yn llywydd eitha' triw.

Bu'n flaenor ers blynyddoedd, yn frenin y Sêt Fawr
Yng nghapel bach Bethania, nes tynnu hwnnw'i lawr;
Aeth wedyn draw i'r Eglwys, fel warden arni hi,
A fo sy'n canu'r clychau ar Suliau, welwch chi. 

Efe yw ysgrifennydd, hen law y papur bro,
(Na fyddai yn bodoli heblaw amdano fo);
Mae hefyd yn drysorydd ar elusennau'r Llan,-
Mae'n anodd ffrwyno rhywun sy'n sefyll dros y gwan. 

Mae'n un o gewri'r pentra', a ddaeth i rym ar sail
Ei hir wasanaeth drosom, un solat, heb ei ail.
Ac nid am ista'n llonnydd, ac nid ar chwara' bach
'Daw dyn yn glarc ar Gyngor Cymuned Abergwrach.

Petawn i'n ddyn sy'n betio, fe roeswn bunt ar hwn
I'w ddewis yn archdderwydd, (mae'n fardd difai, mi wn)
A phetai o'n cael ei urddo, rhaid peidio bod yn syn - 
Mae rhai salach na 'rhen Ifan wedi llenwi'r swydd cyn hyn.

Fel pob ceffyl sydd yn ufudd, yn ffyddlon wrth ei waith,
Mae Ifan wrthi'n ddygn yn llwybro hyd y daith;
A'r merlyn gaiff ei chwipio, yr un sy'n llusgo'r drol
A wnaiff ei dasg heb wrgnach, yn dawel a di-lol.

I'r diawl â'r holl ymgecru, a deud yn ddigon plaen,
- I 'neud i betha' ddigwydd, mae'n rhaid cael ceffyl blaen -
Yr hoelen wyth sy'n weithgar, ac un dderbynia rôl
I dynnu'r mulod diog, sy'n llusgo y tu ôl.

6.2.26

Gwersylla

Annwyl Mam,
    Dyma'r llythyr, fel 'r'addewais i
am hanes y gwersyll yn Southend-on sea.

Fel y cofiwch, mi fu'm yn Llangrannog y llynedd,
gan ddilyn traddodiad dros bum neu chwe mlynedd, 
fel hogyn diniwed, yn aelod o'r Urdd
mor falch o'i dreftadaeth, a'r coch gwyn a gwyrdd.

A do, cefais ddigon o hwyl yn 'fan honno,
y swogs, Midnight Feasts, y cysgu a'r deffro;
y rhedeg, y baglu a chodwm dîn,
y pwll nofio, y gemau a'r trampolîn.

Ond wedi aeddfedu erbyn hyn, chwara' teg,

a minnau yn hogyn dros bedair ar ddeg,
cefais gyfle i fynd i ehangu gorwelion
a rhannu diwylliant â chyfeillion o Saeson.

Wedi cyrraedd de Lloegr, a'm bag dros fy ysgwydd,
cyflwynwyd fi'n fuan i'm ffrindiau o'r newydd.
Ac yna fe'm t'wyswyd dros weddill y camp,
ac yna i'r gwely, a hwnnw'n un damp.

Ond di-angen oedd poeni am bethau mor fach
a thamprwydd a chwain mewn awyrgylch mor iach.
Roedd pawb yn gyfeillgar tuag hogyn mor swil
ag enw mor syml a Chymreigaidd â Wil.

Oherwydd y cyffro, a hitha' 'di nosi
a finna' fel wimblad, yn troi ac yn trosi,
ce's gwmni dwy eneth yn f'ochor drwy'r nos,
rhai cynnes, groesawgar, 'Naughty Nita' a Rose.

Hen genod dymunol, twymgalon, siort ora,
â'm cadwodd yn effro nes gwawriodd y bora.
Ond, mam, ce's brofiada' y cofiaf tra'n fyw
am natur dynoliaeth a dynol ryw.

Fe ddysgais am love bites, a llawer iawn mwy,
mewn gwersi anffurfiol a roed gan y ddwy;
ond peidiwch a gofyn sut wersyll yw hwn,
nac am weithrediada'; am hynny ni wn.

Ni fum ar 'r'un ceffyl, na nofio'n y môr,
ni ymunais mewn gemau, na chanu'n 'r'un côr;
ond, diawcs, doedd dim pall ar yr hwyl gefais i
yn y gwersyll rhagorol yn Southend-on-sea.

Anfonaf fy llythyr â chofion cynhesa', -
mi wela'i chi rywdro y flwyddyn nesa'.
dwi'n falch ichi ollwng y ffrwynau 'na 'leni;
ac yn falch mod i yma,
            eich mab, William Henry. 

18.1.26

Ar Gerdyn Post

Annwyl Mam,

Dim ond gair bach reit sydyn -

Wedi cyrraedd yn iawn';
Torheulo bob bore
A chysgu'r prynhawn.

Er yr haul, mae'r hen blantos
Â'u hwynebau yn llwyd -
Methu'n lân â dygymod
Â'r sothach o fwyd.

Heblaw am y twrw
A'r stumog, a'r beil
Mae'r teulu a minnau'n 
Cael amser gwerth chweil,
Ond oherwydd y sunstrôc 
A'r poen yn y bol
Ni ddown ni byth eto
I'r Costa Del Sol.

Cofion, ar frys, 
Gwen.

16.1.26

Gêm o Ddau Hanner (Stori bron yn wir!)

Hanner Cynta'

Yn ystod Gorffennaf mil naw chwedeg pedwar
Cystadleuodd y Llan 'cw mewn gornest 'gyfeillgar'
Yn erbyn rhyw dîm o ochra' Manceinion
Ar faes wedi'i farcio ar gae rwdins Cors Wnion.

Dechreuodd y Saeson yn eu togs continental,
A ninnau, feidrolion, yng nghrysau'r siop gornal;
'Roedd ganddyn' nhw dalent, yn wir, chwara' teg, 
Gyda'u seren ddisgleiriaf yn Smith, eu rhif deg.

Fe gawsom ni wersi mewn chwara' pêl droed,
A hwythau'n llawn hyder yn pwyso'n ddi-oed;
Tra bo ni, yr hen wariars, fel ein teidia' gynt
Yn ceisio dygymod, yn cicio'r gwynt.

Roedd ymgais yr hogia' i rwystro'r pum gôl
Yn union fel ceisio troi'r llanw yn ôl
Ac erbyn hâff-teim, roedd yn edrych yn ddu 
Ar obeithion y Cymry yn erbyn y llu.
-------------------------------

Yr Ail hanner

Dros baned a ffag, fe gawsom bep-tôc, 
Rhag i'r Saeson ffroenuchel ein gwneud ni yn jôc;
Wil Huws, ein rheolwr, un brathiog ei eiria'
Â'n diawliodd, gan ddeud bod rhaid newid tactega'.

Cafwyd cynllun gan Wil ar sut i adfer y sgôr
-Nad oedd dim byd i'w wneud â ffôr-tŵ-ffôr,
Ond cynllun hen-ffasiwn, effeithiol dros ben
Ar sut i fygu talentau eu nymbar ten.

Wil Stalwyn, mawr, solet, ein cefnwr de
A gafodd yr arwydd i roi'r boi yn ei le;
A phan ddaeth y cyfle, fe gyflawnodd y gwaith
Heb fath o ymdeimlad, na chydwybod ychwaith.

'Doedd yno 'r'un cam'ra nac action replay
I ddangos i'r dyfarnwr be' aeth o'i le;
Dim ond eiliad a gymrodd y digwyddiad chwim
A loriodd y seren, a chododd o ddim.

I'r tîm o Fanceinion aeth pethau yn waeth
Wedi colli'r prif sgoriwr, a hwnnw yn gaeth 
Ar y fainc ar ei orwedd, wedi'r dacl unfair
(Ni allai o sefyll heb iws ei ddwy ffêr.)

Aeth y system ail-hanner yn ei blaen yn ddifai,
 niferoedd y tîm arall yn mynd yn llai;
Fe sgoriwyd saith gôl gan flaenwyr y LLan,
Wrth i'r gelyn cwympedig fynd 'lawr ym mhob man;

Dim rhyfedd ein bod ni yn griw ofergoelus,
Yn ein seithfed nef, yn bobol mor ffodus;
Mae saith yn rhif lwcus, i bawb ond i Saeson,
Fel y saith oedd yn glwyfus o'r tîm o Fanceinion.

Trwy chwarae yn galed a rhyfedd wyrth,
Fel yn hanes 'r'hen Samson, fe chwalwyd y pyrth,
A threchwyd y gelyn, a chafwyd cyfiawnder
Mewn gornest gofiadwy - y gêm o ddau hanner.

14.1.26

Iechyd a Diogelwch

Rhyw fwthyn diaddurn oedd nghartre' bach clyd,
Heb foethusrwydd o gwbl, na steil, na dim byd;
Codi dŵr glân, iachusol, o ffynnon fach hardd, 
Gyda chloset, (un â bwced), yng ngwaelod yr ardd.
Dim math o garthffosiaeth, na dim i'w ymdrin
Na phapur sidanaidd i sychu 'r'un tîn.

Bum yn byw yn gyfforddus, er braidd yn ddi-lun
Yn fy mwthyn hen-ffasiwn, ar ben fy hun.
Cefais lonydd i drigo, heb letrig na ffôn,
Ymhell o'r oes fodern (a'i boen, 'n'ôl y sôn),
Hyd nes styrbio fy heddwch - ni fedrwn ei 'sgoi,
Gan rhyw ddyn biwroctaidd, hen 'sglyfath o foi.

"Mae'n ddrwg gen i'ch 'styrbio fel hyn", meddai'r gŵr
"Dwi'n 'dod wythnos nesa' i destio eich dŵr".
(A bod yn reit onest, doeddwn i ddim yn dallt,
Fod 'na rywbeth yn rong, heblaw 'fod o'n hallt.)
"Y dwr yn eich ffynnon, dwi'n feddwl, siwr iawn,
Mi ddo'i ar ôl cinio, rhyw dro yn y p'nawn."

Roedd o'n ymddwyn fel Napoleon, yn wir, ar fy llw,
Gyda'i bwyslais ar doilet, a'i Water-loo.
"Ac mae'n erbyn y gyfraith i neb droi ei glôs
Mewn cwt nad yw'n fflyshio, a hynny'n y nos. 
Nid yw'r daith 'na i waelod yr ardd at eich lles,
A byddai pan wrth y drws 'ma yn llawer iawn nes." 


 

"A daeth cwyn gan rhyw Saeson eich bod yn ddyn ffôl
Ac yn iwsio'r Observer i sychu'ch pen ôl;
A mae hynny yn wrthyn, ac yn groes i ddeddf gwlad,
Ond cewch iwsio Y Cymro, heb gosb, neno'r tad.
Tydi hynny ddim yn torri deddf hiliaeth G.B.,
A dim ots am ypsetio rhai croendena' fel chi"?

"Y fi yw'r awdurdod, welwch chi",meddai'r ffŵl,
"A deddf yw gorchymyn, a rheol 'di rŵl;
Mae eich iechyd yn bwysig, mae'n deud yn fan hyn
Na chewch fynd yn sâl, mewn du a gwyn.
Mae rhaid ichi newid eich ffordd gyntefig o fyw,
I gael dod yn rhan normal o ddynolryw."

Bu raid imi wario rhai cannoedd, yn wir,
I gyd-fynd â holl ddeddfau Helth & Seffti y sir.
Mae'r lle chwech hynafol fu unwaith mewn bri, 
Fel geudy i'r teulu, a lle i bi-pi
Yn adfail, ers i minnau orfod dilyn y drefn,
A chael tap dwr a thoilet tu mewn i'r drws cefn.

Dwi wedi cael digon, fel pawb arall, mae'n siwr
O reola' am fwydydd, ac am ansawdd y dŵr;
Am wahardd chwarae concyrs, fel y dyddiau gynt;
Am sledio mewn eira, ac am ollwng gwynt.
Rhaid cael ffens rownd yr oriel mewn capel yn awr,
I atal hen gojars rhag disgyn i'r llawr.

Oes gennych chi drwydded i anadlu yr aer
Sy'n mynd drwy eich ffroenau, gofynnaf yn daer?
Mi fydd angen cael leisans i fyw, neno'r tad;
A chewch chi ddim marw heb gael caniatâd;
A'r dyn Helth and Seffti, nad oes ganddo ddim parch,
Fydd yn dweud yn derfynnol os y cewch fynd i'r arch.
- - - -

(Llun Carey Jones, Chwarel Bwlch)

 

9.1.26

'Dathlu Calan 2000', neu'r Milenium Byg

Cyflwynaf y gyfres hon o gerddi hwyliog fel rhywbeth i godi calon. Mae hon wedi'i chyfansoddi ar droad y ganrif.

Tra roedd pawb yn y wlad 'ma, â'u holl gybôl
Yn croesawu Ddydd Calan, rhai blynyddoedd  yn ôl,
Roeddwn i yn y selar efo'r teulu i gyd
Yn aros yn ofnus am ddiwedd y byd.
Roedd gennym ni ddigon o fwyd yn y lle
I borthi pob Cymro o'r gogledd i'r de,
I'n cadw ni'n fodlon am flwyddyn neu ddwy,
Ac emergency rations am lawer iawn mwy.

'Dach chi'n gweld, cefais gyngor gan gyfaill ryw dro
Am ddydd Armagedon oedd yn dod, medda' fo;
Yn ôl Nostradamus Methusala Smith,
Dim ond y rhai parod fyddai yma am byth.
Mewn sgwrs yn y dafarn, yng nghornel y snug,
Cyfeiriodd 'rhen gyfaill at y mileniwm byg,
Ac fel yr oedd peryg' i bawb sydd yn fyw,
Ac am effaith y chwilen ar holl ddynolryw.

Rhagwelai ddinistrio'r dinasoedd mawr
Yn chwilfriw, â'u gadael fel lludw, i'r llawr;
Proffwydai alanas dros wledydd di-ri',
Heb fath o achubiaeth, ond i deulu fel ni.
Tra roedd gweddill dynoliaeth i gyd yn mwynhau
Gweld dyfodiad y milflwydd yn brysur nesáu,
Roeddem ni dan y ddaear, fel tyrchod mewn tail,
Yn aros am y diwedd hyd Ionawr yr ail.

Ddigwyddodd 'na affliw o ddim, medda' nhw, 
Heblaw am ryw straen anghyffredin o flu;
A ninnau'n y selar, yng nghanol y chwain
Heb glywed 'r'un nodyn o Auld Lang Syne.
Mi gollais i noson arbennig, 'nôl rhai,
A phawb wedi 'joio'r dathliadau'n ddi-fai.
Ond fe ddysgais un wers, un sicr, mai myth
Oedd gair Nostradamus Methusala Smith.

Os y gwyddoch am rywun sydd eisiau, ar frys, 
Dwy dunnell o datws a phum cant tun pys, 
Siwgwr a menyn a chaws n'ôl berfâd, -
A llwythi o nwyddau fel hyn, ddigon rhad, 
Anfonwch air ataf, neu os caf fod mor hy'
Dewch draw gyda'ch cynnig, fe 'nabodwch y ty -
Yr un efo selar ym mhen ucha'r stryd,-
A hynny ar fyrder, cyn diwedd y byd.


15.12.25

Cerddi Cydwybod- Nadolig?

Sut fath o gyfnod fydd yr ŵyl
I chwi, y 'duwiolfrydig';
A fydd eich byd yn llawn o hwyl
Wrth ddathlu y Nadolig?

A roddwch chithau newydd wedd
I ystyr 'bendigedig',
Uwchben ddanteithion flasus wledd 
Wrth ddathlu y Nadolig?

Mewn byd materol, tybed wnewch
Ystyried mor ychydig
Yw'r hyn a ro'wch, a'r hyn a gewch
Wrth ddathlu y Nadolig?

Onid yw'n wir sefyllfa drist,
Gofynnaf yn garedig,
A glywsoch sôn am Iesu Grist
Wrth ddathlu y Nadolig?

A wnewch chi gofio, oll i gyd,
Y geiriau cysegredig
Am eni Un a ddaeth i'r byd,
Wrth ddathlu eich Nadolig?


Er i'r Nadolig fod yn ẃyl arbennig i mi, ac i'r teulu dros y blynyddoedd, mae newid wedi bod yn y drefn ers colli fy mhriod gariadus, Beryl. Ni fydd y 'Dolig byth yr un fath eto heb ei phresenoldeb hi. Cadair wag yn dweud y cwbl....

12.12.25

Cerddi'r Chwarel -Llwch y Chwarel

Daeth diwedd y chwarel
Heb lawer o stŵr,
Mae’r felin yn dawel
A’r lefel dan ddŵr;
Yn dyst am ei beiau
Mae’r rwbel i gyd,
A pheswch ei gweithwyr 
A glywir o hyd.

Rhyw estron di-reswm
Fu perchennog y gwaith,
Hab barch at chwarelwr
Na chyd-ddyn ychwaith.
Nid oedd iechyd mor bwysig 
Ag angen y wlad –
Roedd pris uchel ar lechi
a bywydau yn rhad.

Am delerau anghyfiawn
Ac am gyflog mor wael
Rho’dd y cloddiwr ei lafur
I’r cwmni yn hael.
Aeth yn hen cyn ei amser
Dan bwysau y gwaith,
A’i gefn wedi camu
O’r llethu a’r llaith.

E’i gam yn arafach
A’i ysgyfaint yn drwch
O bowdr y llechi,
O effaith y llwch.
Aeth anadliad yn anodd,
Ei nerth yn gwanhau,
Beth yw’r ots gan y meistri – 
Mae’r chwarel ar gau

Bu’n diodde’ blynyddoedd
O ganlyniad y clwyf,
‘Nawr mae’n gorwedd dan garreg
Ym mynwent y plwyf,
A llechen yn gofeb
I gerflunydd y graig
A’r stad eto’n gwrthod 
Rhoi iawndal i’w wraig.

Ni ddyliwn anghofio
Annhegwch y byd,
Mae effaith y chwarel
O’n cwmpas o hyd.

- - - - - 

Cerdd a gyfansoddais ar gais rhai o rai o chwarelwyr yr ardal yn ystod streic 1985-86. 

Roedd ymgyrch cenedlaethol ar y pryd i geisio cael cyfiawnder ac iawndal i gyn-chwarelwyr oedd y dioddef o afiechydon yn ymwneud a thrin llechi.

Mae'r llinellau cyntaf i'w gweld ar y llechfeini ynghanol tref Blaenau Ffestiniog.

Ac mae'r gerdd ar gael yn y llyfryn 'Safwn Gyda'n Gilydd' 1986

5.12.25

Cerddi'r Chwarel - Adfeilion (chwarel Rhiwbach)

Fe welwn yr hagrwch
O'r chwalfa yn graith
Ar fwy na'r llygaid
Wedi darfod y gwaith,
Pan gwympodd y muriau i gyd, fesul un
I oferedd yfory’n bentyrrau di-lun.

A thybiwn im glywed
Dros chwibanu'r gwynt
Sŵn taro cynion
Yr hen hogia' gynt,
O weddillion y felin, a fu dawel gyhyd
Yn olion y cof, fel 'sgerbydau mud.

Ond wedi dryllio
Fy nychymyg brau,
Fe wyddwn innau
I'r seiliau wanhau,
A throais drachefn i gyfeiriad y Cwm,
Gan adael ar ôl yr adfeilion llwm.

Chwarel Rhiwbach ar y chwith, a Blaen Cwm. llun wedi'i dynnu o ffordd haearn Rhiwbach, gan Paul, y mab

21.11.25

Rhai o Furddunod y Llan (Penmachno)

Cyflwyniad o gerddi yn trafod murddunod Penmachno, a fu'n gartrefi i'n hynafiaid dros y blynyddoedd. Erbyn hyn, 'does neb o'r plwy' yn cofio teuluoedd yn trigo yn yr adeiladau hyn, ond yn rhan bwysig o dreftadaeth yr ardal yr amser a fu.

 

Pwy sy'n cofio Pant Griafolen,
Bryn y Saer a Phenygeulan,
Minffordd, Garret a Brynffynnon?
Rhain i gyd sydd yn adfeilion.

Llety Wilym, Efail D'lasa
A Llwyn teg, a Gwiga Ucha',
A Ffridd Wen a'r hen Gae Hilin,
Pen y Foel, Tŵr Teg a'r Felin.

Aeth Ffridd Wen a Phen y Garw,
A Bryn Cryg, yn furiau marw;
Fel Nant Iwrch a Phen y Dorlan,
A Thŷ Talcen, a Bryn Gogan. 

Tywyll ydyw ym Mryn Gola',
Tawel ers y cload ola;
Ychydig iawn a ŵyr am Collfryn
Aeth o'n golwg ers sawl blwyddyn.

Enwau nawr sydd yn golledig
Ar sawl dôl na chaiff ei 'redig,
Fel y Weirglodd a Chae'r Mynach
Termau sydd yn angof bellach.

Lle bu'r gân ym Muarth Tanglw’s,
Llonydd yw, a llwm ei oerddrws:
Hafod Chwaen a Thŷ'n y Pistyll -
Dim ond olion rhain sy'n sefyll.

Yma, yn yr hen gartrefi,
Yma bu'r Gymraeg yn ffynnu,
Yma bu 'rhen genedlaetha',
Yma'n ddwfn mae 'ngwreiddia' inna'.

Er fy nhristwch gweld yr uchod
Erbyn heddiw yn furddunod,
Diolch wyf, wrth sychu llygaid
Nad y'nt loches i estroniaid.


14.11.25

Cerddi'r Chwarel - Diwedd Cymuned

Dim ond plwy’ bach Cymreig, mewn dyffryn di-nôd
Fu Penmachno i lawer, a hynny cyn dod
Y newid aruthrol ddaeth heibio ers tro,
I wyrdroi cymdeithas a iaith fy hen fro.

Lle bu, ers canrifoedd, fy hil ym mhob man, 
A phob un â’u gwreiddiau yn ddwfn yn y LLan
A’r Gymraeg ar bob tafod, mewn ysgol a gwaith,
Ond yn awr, mewn lleiafrif mae siaradwyr yr iaith.

Lle bu, ar un adeg, ei strydoedd yn llawn
O siopwyr cynhenid bob bore a ph’nawn,
A niferoedd y siopa’n ddau ddwsin, a mwy,
Nid oes bellach fasnachdy ar ôl yn y plwy’.

 

 

Nid oes gobaith ei adfer ‘n’ôl i’r dyddiau gynt,
Aeth delfrydau’n cyn-dadau ar goll yn y gwynt;
Ni fydd ond atgofion am r’hen ddyddiau ar ôl,
A’r hiraeth am hynny yn gwasgu’n fy ‘nghôl.

A phwy fu’n gyfrifol am y newid hwn?
A’i gwnaed yn fwriadol, i’n trechu, ni wn?
Ni ddaeth r’un achubiaeth wedi’r chwarel ’na gau,
A diwedd hen yrfa, ym mil chwedeg dau.

Diboblogi yr ardal ddaeth i bwyso yn drwm,
A dirywio yn gyflym wnaeth poblogaeth y Cwm;
Hen iaith, hen dafodiaith, ddiflanodd o’r clyw -
Roedd yn ddechrau y diwedd yr hen ffordd o fyw.

Nid fydd sôn am gymuned, fu mor gynnes a chlos,
Na’r ymdeimlad o berthyn i le, yn ddi-os;
Lle bu unwaith ‘rhen Gymry, a phob un â pharch
At gymydog a chyd-ddyn – aiff y cyfan i’r arch.

Erbyn hyn, rhaid cydnabod mai colli y dydd 
Wnaeth fy nelfrydau innau, a chollais fy ffydd;
Diflannu o’r golwg wna’r atgofion lu,
A ninnau, fel hwythau, ‘mysg y pethau a fu.

- - -  

Llun- Stephen Elwyn RODDICK / Cwm Penmachno / CC BY-SA 2.0

Cerddi'r Chwarel - Ddoe a Heddiw

Casgliad o gerddi anfonais i Steddfod Mynytho dro'n ôl, dan ffugenw 'Hen Rybelwr'

Coleg Min Nos

Pan oedd llethrau'r Llan yn gomin o gân,
a chornel y Ring yn un dras o greigwyr,
roedd dysg 'rhen ddyddiau'r caban yn adlais
o ffraethineb y bonc.

I ni â'n clustiau astud, roedd yno wynfyd;
glaslanciau'r pumdegau pell,
â'u bryd ar sathru'r drefn
a blasu'r dŵr aflan,
yma'n cowtowio i'r cymêrs
wrth inni fwrw ati i lowcio'r geiriau, 
heb reg yn 'r'un ynganiad.

Ninnau'n myfyrio yn haelioni'r hwyl,
ar lwyfan yr hen ddireidi, 
a Dei Wmffra'n diwtor arnom,
yn chwarae i'r gynulleidfa,
a'i draethu’n taro deuddeg.

Drag ar yr Wdbein, ac yna'r glec, ...chwerthin,
a'r dosbarth yn ei ddybla' 
yn heulwen haf erstalwm.

Yn ddisymwth...
'r'ôl galw'r corn gwaith i'r gro, 
disgynnodd y cyrten yn anterth y wers,
i ganslo'r anterliwtiau.

Heddiw,
yng ngweddillion y weirglodd,
mae'r hen le mewn trwmgwsg ers tro,
a chreithiau'r alltudiaeth yn aros
fel hen hollt ar lethr wag.

Dychmygaf, ym merddwr y cof,
ei gweld yn fintai wargam
     yn igam-ogamu rhwng pyliau o beswch 
i gyrraedd y fargen ddima';
Wil Lloyd, a'i drwsus ffustion liw ffurat
yn arwain y frigâd
yn araf a phwyllog i derfyn y daith.

Nid hawdd derbyn fy nieithrwch bellach,
rhwng ffiniau'r hen adnabod;
wylaf am yr hyn a ddaeth, am lwfdra ffawd, 
ac am fachlud y pelydrau pell.


Fy Hen Gymdogaeth

Erstalwm, a'r lle yn gnawd o gwmwd,
ar 'sgerbwd hen gynefin,
bu yma fwrlwm
o fyw am yfory.

Lle bu her yr addewidion
yn llenwi'r oriau
mewn lle nad oedd darfod yn bod.

Pob hewl a'i hafan o hwyl,
pob cornel yn helfa
i rannu'r wên 
o straeon cyn noswylio.

Erstalwm, ar erwau fytholwyrdd
roedd yno ardd Eden
o ddiniweidrwydd
am bethau'r byd.

Drannoeth y dihuno
a chodi gorchudd yr ystrydeb
am ddyfnder gwreiddiau,
y bu'r wers am 'sgaru had,
ac am y medi aflan.


Tro ar fyd

(Wrth weld hen chwarel lechi yn cael ei haddasu'n faes chwarae i estron anturiaethwyr na wyddent ddim am galedi’r dyddiau gynt)

Bob bore, dan wawd y domen lechi,
daw'r gwenoliaid yn fflyd,
ymysg sarhad o gwmni i grombil yr agor, 
i wrando ar sŵn dripian y dwr 
yn torri ar fudandod y gwacter.

Anturwyr ffug yng nghragen yr agor,
a'u dileit mewn creiriau rhydlyd;
- hen ebill heb dyllu ers tro
a chorryn o gadwyn yn pendilio
yr amser uwchben,
lle bu'n ddolen i greigiwr unwaith,
heddiw'n ddwylath o ddim.

I'r rhai hyn y mae'r twll yn we
i ymnadreddu drwyddo,
i'w tywys drwy wythiennau tanddaearol fy hepil,
a thros artaith y byrwyntog gynt. 

Heb orfod ymbaratoi
y bara llwyd o gynhaliaeth
dan gannwyll geiniog,
na phrofi chwerwder y smit,
maent yma'n paderu am yr hyn
nad yw ond eco iddynt.

Rhyw gogio porthi'r dyrfa
â phregeth am gwymp a chwalfa,
gan besgi ar dosturi'r plwy',
ac ar wely angau 'nghymdogaeth,
heb sylwi ar y gwlith yn hen lygad y graig,
a llygad hen chwarelwr.

Cerddi'r Chwarel - Cymdogaeth

Gan fy mod yn enedigol o ardal chwarelyddol, addas fyddai cynnwys rhai o fy ngherddi'n ymwneud á'r diwydiant hwnnw, sydd wedi hen ddiflannu o f'henfro.


Ni sylwai ar yr hagrwch
Yn y tomenydd llwm
O rwbel yr hen chwarel
Uwch pentre' bach y Cwm;
Roedd yn baradwys iddo fo
Wrth iddo lordio'i mewn i'r fro.

Ond ni all estron weled
Y graith sydd yn fy nghôl,
A minnau yn hiraethu
Am ddyddiau na ddaw 'n'ôl,
Pan oeddem ni, drigolion gwâr
Yn berchen ar ein milltir sgwâr.

Pentre' Rhiwbach

Dilynwch gyfres 'Cerddi'r chwarel' trwy glicio ar y label 'Chwarel' isod, neu yn y rhestr 'Themau' ar y dde. (Os ydych yn darlen hwn ar ffôn, efallai y bydd raid sgrolio lawr a chlicio 'web view'.)

 


12.11.25

Cerddi Cydwybod- Adfywiad

A weli di frithyll yn nofio'n y dŵr,
A weli di wyrddni fan acw;
A wyt ti yn clywed y coed yn llawn stŵr,
A glywi di ddeunod y Gwcw?

A brofais di fywyd yn ôl yn y pridd,
A deimlaist ti fwrlwn a chyffro;
A wyt ti'n arogli yr aer dros y ffridd,
A weli di ddaear yn deffro?

A weli di’r wennol yn hedfan uwchben,
A weli di’r teulu’n ymffurfio;
A weli di arwydd cynhesu uwchben,
A weli di'r nyth dan y bondo?

A weli di Lygad y Dydd dan dy draed
A weli di aur Lygad Ebrill;
A weli di wenyn yng nghanol y paill,
A weli di’r tymor yn ennill?

A godaist y bore i brydferthwch y wawr
Yn gwahodd y dydd i ddod ato;
A wnes di gydnabod wrth gerdded y tir
Fod gwanwyn yn ôl unwaith eto?

Llygad Ebrill, blodyn cyffredin ond hardd iawn, yn codi'r galon bob gwanwyn