Rhan olaf cyfres fer, am safle hanesyddol ym Mro Ffestiniog. Erthygl a sgwennais ar gyfer cyfnodolyn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn 2019, sef Rhamant Bro.
Mae’r potensial o ddarganfod olion a chreiriau o gyfnod yn mynd yn ôl canrifoedd ar safle Beddau Gwŷr Ardudwy yn aruthrol. Onid yw hyn yn rheswm da i fudiadau a sefydliadau sy’n ymwneud ag archeoleg a hanes Cymru ddod at ei gilydd i wneud arolwg lawn o’r safle, gan ddefnyddio’r holl offer a thechnoleg fodern sydd ar gael y dyddiau hyn?
Mae’n ddyletswydd ar sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan ein Senedd yng Nghaerdydd, o arian y trethdalwyr, i fynd ati i gloddio’r beddau. Wrth wneud hynny, cawn ninnau, bobol Cymru atebion i’r holl gwestiynau sydd wedi eu gofyn am Feddau Gwŷr Ardudwy a mannau hanesyddol eraill.
A dim ond un safle hanesyddol ydi hwn, ymysg dwsinau yn yr ardal hon yn unig sy’n galw allan am astudiaeth o’r fath. Tra’n ymchwilio i hanes y safle hon, sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yn hanes ein cenedl, a’i chwedleuon hynafol, mi fûm yn holi’r sefydliadau sydd i fod yn gyfrifol am henebion a safleoedd hanesyddol Cymru am wybodaeth. Mi ges ateb cwrtais iawn gan ferch o swyddog gyda Cadw, â’m hysbysodd fel hyn –
‘Annwyl Ms Parry Williams. Mae’r Comisiwn Henebion Cymru a’r Ymddiriedolaeth Henebion Archeoleg Gwynedd yn cadw archifau, felly awgrymaf eich bod yn cysylltu â hwy. Yn anffodus, nid oes gan Cadw cofnod o heneb o’r enw Beddau Gwŷr Ardudwy.’
Alyson Evans.
Mi atebais yn ddigon cwrtais, chwara’ teg, fel hyn –
‘Annwyl Mr Evans, Diolch am eich ymateb, Yn gywir Vivian Parry Williams (Mr).
Beth bynnag, onid yw’n siomiant deall nad yw CADW, sefydliad sy’n gyfrifol o nifer fawr o safleoedd ac adeiladau hanesyddol Cymru wedi clywed am un o safleoedd enwocaf ein llên-gwerin?
Mae safleoedd 8 abaty Cymreig wedi ei nodi gan Cadw, gyda llaw, ond o gywilydd i’r sefydliad, nid oes sôn am Abaty Cwm-hir, lle gorwedd corff ein tywysog olaf, Llywelyn ap Gruffudd, y Llyw Olaf. Wrth gwrs, nodir 40 o gestyll, y cyfan, am wn i, o symbolau o orthrwm, ond dim gair am Feddau Gwŷr Ardudwy a llawer safle arall o bwys i ni Gymry.
Mae gwaith mawr wedi’i wneud i ddarganfod hanes ein darostyngiad fel cenedl gan archeolegwyr a haneswyr dros y blynyddoedd yn y cestyll Normanaidd, arwyddion o’r darostyngiad hwnnw! Cywilydd arnom am beidio hawlio’r hyn mae English Heritage mor falch o wneud ar ran eu pobl yn Lloegr.
- - - - -
(*Rhan 1 y gyfres)
