Yr Awdur

Vivian Parry Williams ydw i.

Un o Benmachno’n wreiddiol, ond ‘Stiniogwr ers 1965, pryd y disgynnais mewn cariad â Beryl, a ddaeth yn wraig i mi yn Awst 1966. Dechreuais weithio i’r Bwrdd Trydan, y C.E.G.B, ym Mhwerdy Tanygrisiau yn 1967, a bum yno am 27 mlynedd, tan f’ymddeoliad cynnar yn 1994. Beryl yn f’annog i astudio am fy nghymwyster cyntaf – lefel O mewn Cymraeg, trwy gwrs yng Ngholeg Menai, Bangor. Teithio yno bob nos Iau dros y gaeaf 1993-4, a llwyddo i gael ‘A’ yn y pwnc.

Penderfynu cofrestru yng ‘ngholeg yr ail gyfle’ – Coleg Harlech ym Medi 1994, a llwyddo i  gael Diploma Mewn Astudiaethau Cyffredinol yno. Yna cael fy nerbyn, fel myfyriwr aeddfed (gor-aeddfed meddai rhai!) i ddilyn cwrs gradd mewn Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Wedi tair blynedd o bleser pur yno, llwyddo i raddio gyda gradd 2.1 yn y pwnc yn 1998, (yn 58 oed) ! Teimlo’n hynod falch ohonof fy hun, fel cyn-ddisgybl Ysgol y Cyngor, Penmachno a adawodd yr addysg hwnnw heb fath o gymhwyster yn 1955, wedi methu fy arholiad 11+ yn  1951!  Wedi bod â dicter tuag at y drefn addysg oedd yn bodoli yn Nyffryn Conwy y cyfnod hwnnw, gydag Ysgol Ramadeg Llanrwst yr unig ysgol uwchradd ar gyfer addysg uwch i ddisgyblion tua 28 o ysgolion cynradd y dyffryn. Dim ond y plant a ystyriwyd yn ‘alluog’ oedd yn cael cyfle i eistedd yr ’11 plus’,  roeddwn yn un o chwech (allan o 12 o ymgeiswyr o Benmachno) oedd yn aflwyddiannus ar y diwrnod.   Er methu’r 11+ dois yn gyntaf ym mhob arholiad wedi hynny rhwng 1951 a 1955, y flwyddyn y bu i mi ymadael o ysgol Penmachno. Cof da am yr 11 exam reports llwyddiannus yn cael eu cadw’n saff mewn blwch ‘Oxo’ gan mam! 

Rwyf wedi ymddiddori mewn hanes erioed, ac yn dal i gymryd diddordeb yn y pwnc, ac yn aelod o’r Gymdeithas Hanes leol yma yn y Blaenau ers blynyddoedd. Bum yn cynnal nifer o ddarlithoedd i sawl cymdeithas/mudiad led-led gogledd Cymru tan yn weddol ddiweddar. Ond gorfod rhoi gorau iddi wedi i’r teithio rheolaidd ddechrau dod yn fwrn arnai. 

Wedi cyfrannu nifer fawr o erthyglau amrywiol, ar hanes lleol yn bennaf, i lawer o gylchgronau Cymraeg dros y blynyddoedd. Cynhaliais ddosbarthiadau nos ar hanes plwyf Penmachno, yn Saesneg dros ddeng wythnos yng Nghwm Penmachno, yn y 1990au ac yn Gymraeg yn Llan Penmachno y flwyddyn ddilynol. Balchder o’r mwyaf i mi oedd darganfod mai dyna’r ddau ddosbarth nos mwyaf a gynhaliwyd yn sir Conwy ar y pryd.

Dechreuais gystadlu yn hwyr yn f’oes ar farddoni mewn ‘steddfodau, a chael peth llwyddiant. Ennill Cadair ‘Steddfod Llandderfel yn ’94; ennill ar gasgliad o ddychangerddi yn y Genedlaethol, Llanelwedd yn 1995, a’r Fedal Ryddiaeth yn ‘Steddfod Llanbedr Pont Steffan, Awst ’96. Wedi bod yn fuddugol 12 tro mewn amrywiol gystadlaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol erbyn hyn.

Cyhoeddwyd fy ngwaith ymchwil ar hanes lleol Penmachno yn 1996 -Plwyf Penmachno- gan ddilyn gyda chofiant, Owen Gethin Jones, ei Fywyd a’i Feiau yn 2000. Yna, yn 2014, cofiant arall Elis o’r Nant, Cynrychiolydd y Werin. Ar gais ambell gefnogwr pêl droed lleol fe gyhoeddais, ar fy liwt fy hun, gyfrol ar Pêl-droed Penmachno, Y ddyddiau cynnar. Yna Stiniog a'r Rhyfel Mawr 1914-1918.


Uchafbwyntia ‘mywyd – priodi Beryl, a chael y pleser o fagu tri o blant annwyl a chariadus, a’u gweld hwythau’n tyfu i fyny yn destunau balchder i’w rhieni. Profi’r wefr o ddod yn daid i bedair wyres ac ŵyr tlws ac annwyl, Lleucu Gwenllian, Tomos Rhun, Branwen Enlli, Gwenno Fflur a Beca Elin. Canhwyllau llygaid nain a thaid.

Siomedigaethau: Na welais Paul na Dewi yn chwarae pêl droed dros Gymru! Na lwyddais yn acedamaidd yn gynt yn fy mywyd, a sicrhau swyddi gwell na gefais; Na chefais gyfle i chwarae i dîm Machno Unedig yn gynt, yn lle gorfod gweithio bob Sadwrn yn siop Bradleys, Llanrwst!  

Ymfalchîo yn llwyddianau Paul a Bethan yn y colegau, a chael y fraint o weld Beth yn ennill ar gystadleuaeth ‘sgwennu stori i bobl ifanc yn y Genedlaethol 2007. Dewi wedi llwyddo mewn gwaith da mae’n ei gyflawni. Dilyn popeth mae’r plant yn ei wneud, ac yn eu caru’n fawr iawn, ac yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth i’w tad dros y blynyddoedd.

Rwyf wedi bod yn eitha’ gweithgar gyda llawer o fudiadau yma yn y Blaenau, ond wedi torri’i lawr yn arw ar y gweithgarddau yn ddiweddar oherwydd amgylchiadau. Bum yn ysgrifennydd ein papur bro Llafar Bro, am 26 mlynedd, ac yn gyn-ddosbarthwr ac yn ohebydd yn achlysurol. Rwy’n aelod o nifer o gymdeithasau, megis y Gymdeithas Hanes leol, Cymdeithas Hanes Teuluol Gwynedd; Cymdeithas yr Iaith Gymraeg; Yes Cymru; Cymdeithas Edward Llwyd.

Cael fy nadrithio a nigaloni’n aml gan ddifaterwch ynglŷn â sefyllfa’r iaith Gymraeg yn yr ardaloedd traddodiadol, a Chymry Cymraeg yn cau lygaid i broblemau sy’n dod yn sgil mewnfudo nifer o’r di-Gymraeg i’r ardaloedd hynny. Ond daw gwelliant, yn fuan, gobeithio.

Newidiodd fy mywyd yn gyfan gwbl wedi colli Beryl, fy ngwraig gariadus, hoffus, fy mhartner am 57 mlynedd, wedi cyfnod hir o salwch creulon, ym Mai 2023. Mae’r golled i mi, yn bersonol, yn enfawr. Mor wir yw’r cwpled isod yn disgrifio sut y mae galar wedi effeithio arnaf.

Unigrwydd yn llawn dagrau
Yw byd un lle gynt bu dau.

(Y cwpled o garreg fedd mewn mynwent ar Ynys Môn)

Diolchaf yn ddyddiol i fy nheulu cariadus, a nifer o gyfeillion agos am gefnogaeth
twymgalon sydd yn achubiaeth i f’enaid yn aml.

Englyn gan fy nghyfaill Simon Chandler:

     Vivian Parry Williams

Ậ’i enaid draw yn Stiniog a’i hanes,
    mae’n uno fel marchog
disglair, pob gair fel y gog:
didwyll â’i ardd odidog.