Dan bennawd ‘Chwedl Llyn y Morwynion’ yn y Genedl Gymreig ar 5 Gorffennaf 1877 cafwyd adroddiad fechan o’r hanes, ac am safle’r frwydr honedig. Cafwyd disgrifad tebyg iawn i’r hyn a nodwyd eisoes am fesuriad a nifer y beddau, gyda’r atodiad ‘Mae yn debygol y bu yno lawer yn ychwaneg ohonynt’. Hefyd dywedir megis ‘…Amgylchynid y cyfan gynt gan wal gerrig, yr hon sydd erbyn hyn yn ddrylliog, y cerrig wedi eu cludo ymaith a’u defnyddio at adeiladu tai, &c. Mai olion coffadwriaethol o laddedigion rhyfel mewn cyfnod tra boreuol yw y rhai hyn nid oes le i ameu, ond ar ba achlysur nid yw yn hawdd egluro.’ Aiff yn ei flaen i drafod hanes Gwŷr Ardudwy’n cael eu lladd gan ddynion Clwyd, a chrynhoi’r erthygl o gwmpas y chwedl honno.
Mae’r hyn sydd gan G.J.Williams, yn Hanes Plwyf Ffestiniog (1882) i’w ddweud yn ychwanegu rhywfaint am hanes y beddau. Wedi traddodi ar hanes y chwedl, gan feio’r mynachod am ffurfio chwedlau o’r fath, mae G.J.W yn ddigon plaen ei eiriau i ddweud hyn, ‘…fel y credwn mai chwedl ddisail yw hon a ffurfiwyd yn niffyg hanesyddiaeth am yr olion a geid yma.’ Aiff ymlaen i ddweud fod rhai yn ei gyfnod ef yn honni bod y beddau yn bodoli ers amser y Derwyddon, ‘…ond y mae y ffaith eu bod o bobtu i’r ffordd Rufeinig, yn brawf lled sicr mai ar ôl gwneud y ffordd y gwnaed hwy.’ Mewn ffaith, dyma’r unig adroddiad sy’n dweud fod y beddau naill ochr i Sarn Helen yn y fan honno.
![]() |
| Safle'r beddau ynghanol y llun, ac olion gwaith Dŵr Cymru (2016) yr ochr yma i'r ffordd |
Cadarnhawyd yr hanes am y garreg a ddygid o’r safle i eglwys y Llan gan G.J.Williams, ynghyd â hanes na nodwyd gan neb arall, o Mr Vaughan, Hengwrt yn cloddio yno, ‘ond ni chafwyd dim gweddillion dynol’.
Cafwyd hanes Hancock yn darllen papur am y safle o flaen cynulleidfa y Gymdeithas Hynafiaethol Gymreig yn Nolgellau ar 30 Awst 1850. Roedd hwnnw o’r farn mai beddau milwyr Rhufeinig, ac nid Prydeinwyr oeddynt. Ond yr hyn a ddywedwyd wedyn oedd yn ddiddorol.
…Yr un diwrnod ag y darllenwyd y papur hwn, arddangosid ymhlith eraill arfau bronze a ddygasid o Feddau Gwŷr Ardudwy gan Mr Lloyd, Penyglannau. El hyn, yn gystal â’r cylchau a’r carneddau, ymhell i brofi fod y beddau hyn wedi eu cloddio cyn y Canol Oesoedd…
Roedd yr wybodaeth am 'Mr Lloyd, Penyglannau’ yn atgoffa rhywun o’r ffaith mai hwn oedd y ‘Twrne Llwyd’, fel y’i gelwid, ac yn hynafiaethydd a chasglwr hen greiriau o fri. Mae hanes iddo fod yn berchen ar gwpan Trawsfynydd ar un adeg, tancard pren ac efydd yn dyddio’n ôl i thua 100CC. Mae honno bellach i’w gweld yn Amgueddfa Lerpwl. Digon hawdd felly yw dychmygu un fel hwn yn ysbeilio’r beddau, a dwyn y creiriau ar gyfer ei gasgliad personol. Tybed i ble aeth gweddill ei greiriau?
Aiff G.J.W ymlaen i sôn am garreg Cantiorix [gweler rhan 3] a honnir iddi ddod o’r safle hefyd. Dywedodd fod y garreg wedi bod ym meddiant Wynne, Voelas Hall, Pentrefoelas, ac iddi fod erbyn hynny yn eglwys y plwyf, Penmachno. Eto, rhaid gofyn cwestiwn. Sut ddaeth y garreg i feddiant un o deulu bonedd o ardal Pentrefoelas, nad oedd ganddo gysylltiad â ‘Stiniog, nac yn berchen ar dir yn y fro hon, yn dra gwahanol i rai o’i gyfoedion bonheddig?
Ni chafwyd archwiliad nac adroddiad wedyn o’r safle o gwbl tan ddechrau’r 20fed ganrif. Ar 5 Medi, 1913 ymwelodd Arolygwr o Gomisiwn Brenhinol Henebion â’r safle. Dyma ddywedwyd:
…four mounds were noticed which were more or less protected by flat stones on each side of the mounds… Eleven other mounds, from which the protecting stones seemed to have been removed, were noticed. They were on an average about 16 feet by 10 feet, and as a rule lay east and west. Among them, but not directly connected with any mound, was an upright stone, 1 foot high, and 1 foot 6 inches broad at the base. It is now impossible to trace any arrangement of the mounds into two groups, or of the small bank which earlier investigators speak of as enclosing each group. They lie on a slope immediately below a new pumping station, and are with difficulty distinguished in the long coarse grass of the moorland.
A dyna hi, dim mwy o hanes, na gwybodaeth am unrhyw gloddio yno, gwaetha’r modd. Y sylw nesa’ a geir yw un byr gan David Longley yn Archaeology Wales, rhifyn 30, yn 1990. Comisiynwyd Ymddiriedolaeth Archeoleg Gwynedd (Y.A.G) gan Ddŵr Cymru i archwilio rhan o’r safle, cyn gosod peipen ddŵr i lawr.
- - - - -
I'w barhau
