Showing posts with label Enwau lleol. Show all posts
Showing posts with label Enwau lleol. Show all posts

7.11.25

Cerddi Cydwybod- Cân o Hiraeth ac Anobaith

Mor braf oedd y dyddiau yr amser a fu,
pan oedd pawb yn gymdogol a chroeso'n mhob tŷ,
wrth gofio cymdeithas o drigolion gwâr,
â'u gwreiddiau yn nyfnder eu milltir sgwâr.

Roedd cariad at eraill yn beth mor ddiwall,
a'r parch oedd gan bobl i'r naill a'r llall,
pryd y gweithid y Sadwrn, a pherchid y Sul
heb ofni 'r'un dirmyg o fod yn rhy gul.

Ond estron ddiwylliant a ddaeth dros ein gwlad,
gan newid delfrydau, a'n heiddo yn rhad;
na wyddai wahaniaeth rhwng ddiafol a Duw,
a'u harferion sy'n llygru ein hen ffordd o fyw.

O freuddwyd gymdogaeth fu'n gadarn a chre'
rhyw hunllef gymdeithas a ddaeth yn ei lle;
yr awr sydd yn cyrraedd, mae'r diwrnod yn dod
y bydd Cymru, a Chymry yn peidio â bod.

Cerrig camu Sarn, ar Afon Machno. Lleoliad hyfryd lle treuliais oriau hapus efo teulu dros y blynyddoedd.

 

 

26.8.25

Cerddi Cydwybod -Yr Hwylfa

'Nid yw Nef ond mynd yn ôl hyd y mannau dymunol'

Rhyw dro yn ôl, a hithau'n oer,
Mewn niwl ar ben yr Hwylfa,
Daeth awydd bod mewn gwlad sy'n bell
Dan awyr ddi-gymyla'.

Mi fynnais fynd i deithio byd
Ymhell o oerni gaea',
Ymhell o'r gwynt sy'n fferu corff,
A'r niwl ar ben yr Hwylfa.

Rhyw dro yn ôl, mewn gwlad sy'n bell,
Dan awyr ddi-gymyla',
Hiraethais am gael teimlo ias
Y niwl ar ben yr Hwylfa.

Er imi fynd a theithio byd
A chyffwrdd gwres cynhaea',
Rhyw hudol reddf â'm geilw'n ôl 
Drwy'r niwl ar ben yr Hwylfa.



23.5.25

Trin Cerrig, y rhan olaf!

Dyma gyrraedd rhan olaf y gyfres, gan obeithio eich bod wedi cael boddhad o'i darllen. Cyfres o ddarnau ar gerrig nodedig lleol, yn seiliedig ar sgwrs i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog (tymor 2022-23) ac erthygl a ymddangosodd wedyn yn Rhamant Bro, cylchgrawn flynyddol y gymdeithas, yr unig un o'i bath yn y Gymraeg.

Carreg sydd bellach wedi mynd yn angof braidd yw’r un a gofnodwyd mewn erthygl gan y diweddar Ernest Jones yn Y Cymro (3 Tachwedd 1961), ac a ymddangosodd yn Rhamant Bro 2019, yw’r un ar bron pen uchaf ffordd Bwlch Gorddinen - y Crimea. Mae hon yn hynod am yr ugeiniau o enwau ysgrifwyr y gorffennol a gerfiwyd arni. 

Gan fod nifer o bobl yn cerdded y ffordd hon rhwng ‘Stiniog a Dyffryn Conwy, ymhell cyn agor y llinnell reilfordd gerllaw, byddai’r llecyn hwn yn gyfleus i orffwys cyn cario ’mlaen â’r daith. A dyna reswm i ddod â’r gyllell boced allan, a gosod enw’r teithiwyr yn daclus ar garreg a ddaeth megis cofeb i rai oedd yn rhan o’r genhedlaeth a fu yn y broydd dan sylw.

A chyda lwc, mae chwedlau’n ymwneud â’r cerrig a’r creigiau hyn yn dal i fod yn destun i gadw’r hen arferion yn fyw.  Pan fyddai’r bedair wyres a’r ŵyr cariadus sydd gen i yn dod draw acw i ‘weld nain a taid’ pan oeddynt yn llai, byddai’n arfer yn aml iddynt berswadio taid i fynd â nhw am dro i lawr i lwybrau Cwmbowydd gyfagos. 

Un o’r hoff deithiau oedd dilyn y llwybr o waelod y cwm i fyny tua Thyddyn Gwyn, a chael llawer o hwyl fel arfer yng nghwmni’n gilydd. Ar ben isa’r llwybr mae carreg wastad ar ei draws, a phant yn ei chanol. Un diwrnod, dyma un o’r plant yn tynnu sylw ati, a minnau’n ceisio creu ychydig o ddiddordeb yn eu mysg, gan gyfeirio at y siap, a’r maint, ac ati, a gofyn iddynt ddyfeisio enw arni. 

Ymhen dim, roeddynt wedi dod i gytundeb ymysg ei gilydd, ac wedi cyffelybu’r garreg i ffurf soser. A Charreg Soser  (SH453703) yw’r enw a roddwyd arni, tua ugain mlynedd, neu fwy, yn ôl bellach, a dyna’r enw a gaiff bob tro y bydd unrhyw un ohonom yn troedio dros y garreg hon ar lwybr Cwmbowydd. Gobeithio y caiff ei galw felly gan ein disgynyddion hyd ddydd y farn!      
- - - - -

RHAN 1

 

 

20.5.25

Trin Cerrig, Rhan 8

Yn uchel i fyny’r llethrau, ar y ffin rhwng plwyfi Penmachno ac Eidda saif murddun unig o’r enw Yr Wylfa, lle, ar un adeg, trigai William Jones a’i ddau frawd – tri o hen lanciau, gyda’u mam weddw – a William druan wedi ei gofnodi fel lunatic ar fanylion cyfrifiad 1891. 

Mae hanes amdano yn ardal Penmachno fel crefyddwr gorffwyll, ac wedi colli’i ben yn llwyr â chrefydd. Roedd, er pan yn ifanc, wedi byw trwy ddiwygiad mawr 1859 ac un 1904-05, a dylanwad rheiny wedi bod yn drech arno. Er yn byw mewn lle mor anghysbell, byddai’r teulu’n mynychu capel Ebeneser, ym Mhenisa’ Penmachno yn rheolaidd. Ond mynnai William ddatgan ei deimladau dwys mewn modd anarferol yn unigrwydd y mynydd-dir uchel ger ei gartref. Tua hanner milltir o’r Wylfa, daeth ar draws darn o graig fechan o garreg las, a’i hwyneb yn ddigon llyfn iddo allu torri geiriau o’r Ysgrythur arni. Dyma oedd cysegrfa - teml breifat Wil, lle cai lonydd i geisio cysylltu â’i Dduw trwy lofnodi ei enw a darnau o adnodau o’r Beibl gyda chyllell ar y garreg. Yn amlwg, treuliodd oriau lawer ar ei bengliniau yma yn unigedd y mynydd yn cerfio a gweddïo. 

Y Garreg Adnod

Er treigliad nifer fawr o flynyddoedd ers hynny, mae’r geiriau a gerfiwyd arni yn dal yn hollol glir hyd heddiw. Gwelir yr arysgrifau ...Na ladd;  Iesu a Wulodd; Popl bach Towch yma; O Ous i Ous ac eraill a gamsillefir hefyd yn dysteb o ddatganiadau ysbrydol gŵr a ymgollodd ei hun yn ei grefydd. Er mai ond ychydig o bobl a ŵyr am leoliad y garreg unigryw hon, mae’r Garreg Adnod (tua SH507816) yn rhan annatod o hanes lleol yr ardal honno.

Dros y blynyddoedd rwyf wedi arwain ambell unigolyn a chriw i weld y garreg, a bu i un ohonynt, Arwel Emlyn Jones, gyfansoddi tri englyn am ei brofiad o gael cyswllt â’r Garreg Adnod. Dyma’r olaf o’r tri:

O naddu’r unigeddau – a gosod
      hen gysur ar greigiau,
down o hyd i’r adnodau
a’i eiriau Ef sy’n parhau.

Yn dilyn erthygl a ‘sgwennais mewn cylchgrawn rai blynyddoedd yn ôl, a ddaeth i sylw’r sylwebydd teledu. Wil Aaron, bu i’r Garreg Adnod gael sylw cenedlaethol, pan ddarlledwyd ei hanes ar raglen un noson.

Rhyw ddwy filltir ar draws y dyffryn y rhan isa hwn o blwy’ Penmachno, ger ffermdy hynafol Coed y Ffynnon, saif carreg arall sy’n rhan o chwedloniaeth yr ardal honno, sef y Maen Siglo (tua SH532803).

Bu hon ar goll i nifer am rai blynyddoedd, wedi i’r Comisiwn Coedwigaeth blannu’r felltith goed conifferaidd o amgylch Coed y Ffynnon. Ond wedi peth chwilota, daeth Paul, fy mab, a finna’ o hyd iddi, ac mae llun gennym yn rhywle o Paul yn ei dringo. 

Y Maen Siglo

Diolch i drefn, ymhen ychydig fisoedd wedyn, torrwyd y coed, a daeth y Maen Sigl i’r golwg i bawb oedd â diddordeb ynddi. Mae sawl stori’n ymwneud â hon. Eto trown at eiriau Owen Gethin Jones i gael blas ar yr hyn oedd yn adnabyddus yn ei fro ei ddyddiau ef. Awn am dro yn ei gwmni, a chael cyfarwyddiadau, eto yn ieithwedd ei ddydd:

...Dyma ni yn awr yn ymyl y Maen Siglo, Coed y Ffynnon; ac yn ei daraw yn ei dalcen a chareg lled fawr nes yw yn ysgwyd fel corsen, er ei fod yn llawer o dunelli o bwysau. Saif hwn ar graig noeth, a dywed traddodiad yr arferi grynu bob tro y canai y gloch; a diamau fod yma addoliad yn cael ei gyflwyno gan y Derwyddon...

Sôn am gloch yr eglwys oedd Gethin uchod, ac er bod eglwys bresennol y plwyf yn Llan Penmachno, tua dwy filltir i fyny’r dyffryn, a mwy o safle’r Garreg Siglo, mae awgrym fod eglwys arall gerllaw wedi bod yn y dyddiau gynt. Islaw Coed y Ffynnon, saif gweddillion annedd a elwir yn Buarth Taneglwys, neu ‘Buarth Tan’glws ar lafar, sy’n awgrymu bod hen eglwys arall wedi bod o fewn tafliad carreg i’r Garreg Siglo. 

Cyfansoddodd y bardd enwog lleol o’r 16 ganrif, William Cynwal englyn i’r Maen Sigl. A dyna brawf bod y chwedl am y garreg ar gael ym Mhenmachno yn ganrifoedd yn ôl. Dyma ddywed Cynwal yn ei englyn:           

Ai hwn yw’r maen graen gryno llwydwyn
     Rhwng Lledr a Machno?
Geill dyn unig ei siglo,
Ni chodai fil a chwedyn fo.

A dyna sy’n arbennig am yr hen ddywediadau gynt, ac yn ychwanegu at naws yr hen chwedloniaeth y dyddiau fu i’r safleoedd hyn. Maent yn enghreifftiau da o sut y bu i’r enwau hynafol hyn ar ambell garreg gael eu cofnodi gan haneswyr lleol yr amser a fu. Mae yma ymdrech i ddangos y rhesymau dros fedyddio’r cerrig a’r creigiau hyn, a’r chwedlau wedi eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth dros ganrifoedd di-rif. 

A dyma’r gymwynas fawr a wnaeth haneswyr lleol y dyddiau gynt â ni, y sawl sy’n dal i ymddiddori yn chwedloniaeth ac enwau lleol ein cenedl. Yn sicr, mae yna nifer nad ydwi wedi cyfeirio atynt, ac mae nifer wedi mynd yn angof dros y blynyddoedd. Byddai’n gymwynas fawr i haneswyr heddiw, a’r dyfodol, petawn ni i gyd yn mynd ati  i restru’r enwau sydd ar gerrig fel hyn, sy’n nodweddion arbennig o’r fro, a phob bro arall yng Nghymru.

28.4.25

Trin Cerrig, Rhan 7. Heth Bob Roberts

Carreg arall a ddiflannodd o olwg dyn yw’r garreg a osodwyd ar y llethrau ar y mynydd ger chwarel Rhiw-bach, i gofio am Robert Roberts, gwas 32 oed Tyddyn Bychan, Cwm Penmachno. 

Collodd Robert ei fywyd yn Ionawr 1895 wrth iddo ef a chyfaill iddo, Evan Davies, geisio croesi’r mynydd o’r Blaenau i’r Cwm mewn storm fawr o eira. Roedd y ddau wedi cychwyn tua hanner awr wedi deg o ‘Stiniog, ac yn dilyn y dramffordd rhwng Cwt-y-bugail a Rhiw-bach. 

Oherwydd y tywydd dychrynllyd, roedd Evan am droi’n ôl i gyfeiriad lle o’r enw Tŷ Newydd y Mynydd, gyda theulu’n byw ynddo, yn uchel uwchben chwarel Maenofferen. Ond oherwydd bod Robert Roberts ar ddyletswydd yn gynnar y bore canlynol, i fynd ar orchwyl gyda’i drol i Lanrwst, rhaid oedd cario ‘mlaen. Bu i’r ddau gysgodi am gyfnod mewn adeilad yng Nghwt-y-bugail, a thua hanner nos, penderfynwyd cario ‘mlaen tua’r Cwm. 

Ond gwaethygodd y tywydd, ac ymhen dim, roeddynt wedi colli cysylltiad â’i gilydd. Er i Evan weiddi am ei gyfaill, ni chafodd ateb. Bu wrthi tan chwech y bore, yn y tywyllwch yn chwilio am Robert, heb lwyddiant. Brwydrodd drwy’r storm fawr nes dod at y Cwm, a chanfod nad oedd y cyfaill wedi cyrraedd ei gartre’. Trefnwyd i griw o ddynion y pentre’ ddringo i fyny i gyfeiriad Rhiw-bach, i geisio dod o hyd i was Tyddyn Bach, ond yn ofer, ac wedi peth amser, rhaid oedd troi’n ôl i’r Cwm. 

Dywedir mai Mrs Edwards, gwraig tyddyn Glan y Gors, neu ‘Barics Cae’ ar lafar, ym mhentre Rhiw-bach a sylwodd ar gorff Robert Roberts, yn ei ddillad tywyll, yn gorwedd yng nghanol yr eira trwchus yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, wrth edrych tua’r llethrau o ffenest’ ei chartref. (Mrs Edwards yn nain i‘r ddiweddar Deborah, gwraig Austin Lewis, a’r diweddar Elwyn, gŵr Bet Roberts, gyda llaw). 

Fe elwid tywydd garw o stormydd eira yn ‘Heth Bob Roberts’ gan weithwyr y chwareli cyfagos am flynyddoedd i gofio am y digwyddiad trist. Gosododd ei gyfeillion garreg coffa fechan mewn cylch o gwarts gwyn, gydag englyn o waith Dafydd Ddu Eryri arni, er cof am Robert Roberts, ar yr union lecyn y darganfuwyd ei gorff. Yn anffodus, yn ystod y 1960au cynnar, planwyd erwau o goed conifferaidd dros y llethrau hynny. Er i mi geisio chwilio amdani sawl gwaith dros y blynyddoedd, mae’r coed trwchus wedi gorchuddio pob arwydd o leoliad safle’r garreg. Ond, fel rhyw achubiaeth, mae gen i gopi o lun un o’r Cwm, y diweddar Dei Les Edwards, yn sefyll uwchben y garreg. 

Llun yw hwn a ymddangosodd yn y Cambrian News, tua dechrau’r 1960au, a adroddai hanes y digwyddiad trist. Mae Robert Roberts wedi’i gladdu ym mynwent yr eglwys ym Mhenmachno, gyda llaw.     


22.4.25

Trin Cerrig, Rhan 6

Yn rhan 5, mi orffenais yn Rhyd y Cerrig Gwynion. Aros ar y Migneint a wnawn y tro hwn eto.

Tua milltir o Ryd y Cerrig Gwynion, i gyfeiriad Ysbyty Ifan, nodir safle o greigiau a enwir yn ‘Cerrig Lladron’ (SH437775) ar fapiau o’r ardal honno. 


Yn ôl traddodiad, roedd y lle yn cael ei ddefnyddio fel cuddfan gan griw o wylliaid Dyffryn Conwy, ac yma y byddent hefyd yn cuddio’r ysbail oedd wedi ei ddwyn ganddynt dros flynyddoedd maith.  Cawn ychydig wybodaeth am hyn gan Owen Gethin Jones, Penmachno, yr  hynafiaethydd o’r 19g. yn ei draethawd ar ‘Ysbyty Ifan a’i Hynafiaethau’ yn y gyfrol ardderchog, Gweithiau Gethin.  

Roedd Gethin wedi ei drwytho gydag enwau cynhenid ei fro, a’r ardaloedd o amgylch. Dyma ddywed Gethin yng ngeirfa’r cyfnod:

...Yn nes i lawr at Ysbyty, yn ymyl y gorlan acw y saif Cerig y Lladron, lle bu mintai gref o Wylliaid yn ymnoddi yng nghanol cors eang; dialwyd arnynt gan Evan ap Meredydd – a lladdwyd hwy yn y fan, a chladdwyd hwy ger y lle mewn mawndir dwfn... 

Gwelir tomen o gerrig eraill nid nepell o’r fan hyn, ac sydd hefyd wedi ei nodi ar fapiau, a elwir yn Cerrig Llwynogod. Enw digon amlwg, efallai oherwydd mai yma y byddai’r llwynog a’i deulu’n trigo ar y mynydd-dir uchel hwn, ac yn dal i fod yma dybed? Ond roedd yr enw yn gyfarwydd i fugeiliaid y Migneint dros y canrifoedd, yn sicr. Ydi’r enw hwn ar enau bugeiliaid yr unfed ganrif ar hugain sy’n gwestiwn na allaf ei ateb.

Mae’r rhan hwn o’r Migneint yn llawn o leoliadau gydag enwau sydd wedi goroesi dros y canrifoedd, megis ‘Cerrig Simdde’. Mae hyn yn f’atgoffa am ‘Clogwyn y cloc’,  neu y Garreg Simne,  (SH444736) gan rai, sydd i’w gweld ar y creigiau gerllaw, o lwybr y ffordd Rufeinig, Sarn Helen, rhwng Bryn Castell a Rhiw-bach. Mae’r ddau enw’n gweddu i’r dim i’r garreg hon, yn fy marn i.


Trown eto at Owen Gethin Jones wrth iddo gyfeirio at enw nad yw’n gyfarwydd iawn i deithwyr yr oes hon, ond a welir ar fapiau Ordnans hyd heddiw – Cerrig y Bala, (SH413793)  nid nepell o Bont yr Afon Gam.

Dyma ddywed yr hanesydd eto, yn ei ffordd ramantus ei hun, (yn ieithwedd a sillafiadau ei gyfnod eto):

I gyfeiriad De-orllewin, gwelwn Gerig y Bala, lle y dadlwythodd y Gawres ei ffedogiad o gerig, ar ol dod a hwy o gwr Llyn Tegid, i fod yn derfyn heddychlon rhwng Ysbytty a Llanfair, oblegid honai Ysbytty derfynau  eang iawn yn yr hen amseroedd... 

Daw Gethin â chyfeiriad at enw arall yn y filltir sgwâr hon yn ei gyfrol; mewn llecyn yr ‘ochr arall’ i Afon Conwy, ar draws y ffordd o Dŷ Cipar Llyn Conwy, sef y Garreg Ddefod. (SH444736) 

Dywed fel y byddai bugeiliaid yr amser fu yn adrodd rhyw fath o weddi ger y garreg hon, gan obeithio iddynt gael llwyddiant wrth gneifio’r defaid. Beth bynnag y rheswm dros yr enw, erys y geiriau ‘Carreg Ddefod’ ar fapiau Ordnans ein dyddiau ni, fel prawf o hen draddodiadau colledig ein hynafiaid. Ond yn anffodus, er i mi ddarganfod rhyw garreg fyddai’n cyfateb i’r enw flynyddoedd maith yn ôl, ni fedrwn gael hyd iddi, er chwilio’r safle arfaethedig nifer o weithiau’n ddiweddar. Ymddengys bod y Garreg Ddefod wedi diflannnu, neu wedi’i symud, ac yn rhan o ddirgelion y dyddiau fu – yn llythrennol - erbyn hyn, gwaetha’r modd!!

- - - - - - -

[Dolen at Ran 1 y gyfres]

 


20.4.25

Cydeithio

Yn dilyn cyfnod o nifer danau gwyllt fu'n llosgi yn ardal 'Stiniog a nifer o ranau eraill o Gymru yn ystod Mawrth ac Ebrill eleni, cofiais i mi 'sgwennu erthygl a ymddangosodd yn ein papur bro, Llafar Bro, yn Ebrill 2015. 

Trafod y gair 'creithio' a ddefnyddir yn y fro hon oedd yr erthygl, sydd yn ddisgrifiad lleol o'r llosgi gwair, rhedyn a thyfiant gwyllt eraill a welir yn rheolaidd yma bob gwanwyn bron. 

Gair nad yw'n gyfarwydd am y llosgi mewn ardaloedd gwledig yw hwn, yn amlwg yn lygriad o'r enwau 'Cydeithio/Goddeithio/Tân Goddaith', sy'n mynd yn ôl ganrifoedd. Enghraifft perffaith o lygru iaith... darllenwch yr esboniadau...

 DOLEN



8.4.25

Trin cerrig, rhan 3

Wrth edrych i gyfeiriad chwarel y Graig Ddu o fy nghartref yn Nhrem-y-Fron ar adegau arbennig, yn enwedig pan fo’r niwl yn disgyn o gyfeiriad y ddau Fanod, daw darn o graig i’r amlwg. 

A dyma’r garreg f’ysgogodd i wneud ymchwil i mewn i wahanol gerrig y fro, a’u cofnodi fel hyn, mewn ffaith. Byddem yn sylwi ar siâp unigryw y garreg hon, ac yn dotio arni pan fyddai’r niwlen fel cefndir naturiol iddi. Wrth wneud ymholiadau, daeth yr enw a roddwyd ar y garreg gan breswylwyr cynhenid ardal Bethania y dyddiau fu i’m clyw. Hyd y gwn, dim ond un wraig leol, oedd yn trigo, fel plentyn, yn Hafod Ruffydd yn y 1930au cynnar, sy’n cofio mai Carreg Buwch (SH458715) yw’r enw lleol ar y garreg hon. 


Y rheswm am hyn yw oherwydd y siâp arbennig sydd arni, sy’n ymdebygu i fuwch, yn enwedig ar gyfnodau o dywydd penodol. Wn i ddim o hanes Carreg Bustach, sy’n rhan o gadwyn y Moelwynion, na’i union leoliad; tybed a oes ffurf da byw ar honno?

Mae pawb yn yr ardal hon yn gyfarwydd â Charreg Defaid, (SH456703) sydd yn rhan o dirlun ar ben y banc ger yr hen Ysbyty Coffa, neu’r Ganolfan Iechyd erbyn hyn. Mae mwy nag un dehongliad o ystyr yr enw. Dywed rhai mai oherwydd bod defaid Cwm Bowydd yn casglu o’i chwmpas, yn enwedig ar dywydd mawr, ac eraill yn tueddu i weld siâp dafad yn y garreg. Gewch chi wneud eich penderfyniad eich hunain!

Gan ein bod ym mhen ucha’ Cwm Bowydd mi awn i lawr yr hen lwybr hynafol yn y cwm i weld carreg arall nad yw’n adnabyddus i bawb. Carreg ydi hon sydd eto wedi ei henwi gan ein hynafiaid oherwydd y twll hollol grwn sydd yn ei chanol. Cwpan y Rhufeiniaid (SH451697) ydi’r enw a roddwyd arni gan rywun amser maith yn ôl. Mae’n debyg i dwll a wnaed ynddi wrth i’n hynafiaid falu ceirch ac ati gydag erfyn ar gyfer bwydo’r teulu ganrifoedd yn ôl. Ond eto, mi all fod yn dwll a wnaed gan natur yn dilyn newidiadau yn naeareg y fro filoedd o flynyddoedd ynghynt. Ond pam yr enw ‘Cwpan y Rhufeiniaid’?  Ydi, mae ar ochr llwybr a ddefnyddwyd gan deithwyr ers tro byd, ond a fu cysylltiad â’r Rhufeiniaid ’dwn i ddim. Ond mae’n nodwedd arbennig yn y rhan hon o’r fro.

Mae sawl enghraifft o ‘Garreg Saethau’ i’w cael yng Nghymru, ac un neu ddwy ohonynt o fewn ein ffiniau ni yn ‘Stiniog. Dyma enw a roddir ar gerrig gyda marciau arnynt, heb fod yn annhebyg i ‘gerrig Ogam’, sydd yn cyfeirio at fath o ysgrifen a ddefnyddid, yn Iwerddon, yn bennaf, yn y dyddiau cyn i unrhyw wyddor ddod yn gyffredin,. Ceir rhai enghreifftiau o’r Ogam yng Nghymru.  Ond cerrig gyda marciau – llinellau syth o amrywiol faintioli – ar ritfaen, ran amlaf, yw’r ‘cerrig saethau’. Dyma sut y byddai ein hynafiaid yn hogi eu harfau, megis picellau, bwyelli a saethau yn yr Oesoedd cynnar. Gwn am ddwy safle lle mae cerrig tebyg i’w gweld yn y plwy’ hwn, - un mewn clawdd ar ochr y ffordd ger Cynfal Fawr, (SH406 702) (llun isod) a’r llall yn rhan o gamfa ar lwybr rhwng Bryn Tirion a Chae Canol, rhwng Manod a Chwm Teigl. (SH439721) 

- - - - - - - - -

Rhan 1

 

24.3.25

Trin Cerrig, rhan 2

Dim ond crafu’r wyneb wna’i gyda’r gyfres hon; dim ond cyfeirio at rai o’r cerrig rydw i’n gyfarwydd â hwy. 

Ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn golygu rhywbeth i mi. Gwn fod nifer ohonoch yn gwybod am enwau cerrig eraill, sydd wedi tynnu eich sylw’n bersonol.  Felly gofynaf ichi geisio rhoi manylion amdanynt ar gof a chadw, er mwyn cadw rhan bwysig o draddodiadau lleol yn fyw. Felly, dyma finna’ am gychwyn yr hyn sy’n wybyddus i mi: 

Cyfeirir at gerrig yn lleol mewn enwau adnabyddus ar greigiau megis Carreg Blaen-Llym, (SH442665) ger Llyn Stwlan, sy’n ddisgrifiad o’r pigyn main ar y copa, mae’n debyg. Eto, mae Carreg Flaenllym  uwchben Rhiwbryfdir, yn agos at Graig Nyth y Gigfran. 

Yna’r Garreg Ddu, (SH461702) craig sy’n gysgod ar ganol tre Blaenau, yn dywyll ei lliw, a’i natur. Roedd yn dywyllach nag arfer dros haf 2019, yn dilyn y tân niweidiol fu’n llosgi am gyfnod maith ym mis Gorffennaf 2019. 


 Mae Carreg Lwyd, (SH426731) yn Llan Ffestiniog yn enw ar fferm a’r mynydd gerllaw, a’r enw’n egluro’i hun. Gwelwn gyfeiriad at nifer o enwau lleol yn cynnwys y geiriau ‘Clogwyn’ a ‘Chraig’ neu ‘Maen’ hefyd. Ond ceiso canolbwyntio at y geiriau Carreg a Cherrig ydw’i am wneud am y tro.

 


Ym mhen uchaf Cwm Teigl mae Bwlch Carreg y Frân (SH449722) yn adnabyddus fel rhan o’r olygfa ar y daith o ‘Stiniog i gyfeiriad chwareli Bwlch Slatars a Chwt y Bugail, Blaen Cwm a Rhiw Bach. Ac ydi, mae’r frân a’i theulu’n  hoff iawn o loetran ar garreg, neu gerrig y bwlch.

Mewn ffaith, roedd y llwybr hwn yn bwysig iawn i deithwyr a phorthmyn gyda’u gwartheg neu foch dros flynyddoedd maith. Ar un adeg, dyma un llwybr uniongyrchol dros y ffin i Benmachno, ac ymlaen drwy Gapel Garmon i Lanrwst a’i marchnad. Yn ddiweddarach, dyma’r llwybr a addaswyd i gario llechi chwarel Rhiw Bach i gwrdd â chychod yng Nghei Cemlyn ar yr Afon Ddwyryd tua 1830, a throi Bwlch Carreg y Frân yn rhan bwysig o drafnidiaeth fasnachol y fro.
- - - - - 

Rhan 1

Rhan 3

 

7.3.25

Trin Cerrig

Dyma'r cyntaf mewn cyfres o ddarnau ar gerrig nodedig lleol, yn seiliedig ar sgwrs i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog (tymor 2022-23) ac erthygl a ymddangosodd wedyn yn Rhamant Bro, cylchgrawn flynyddol y gymdeithas, yr unig un o'i bath yn y Gymraeg.

Mae enwau lleol wedi eu gosod ar bob agwedd, bron, o dirwedd ein cynefinoedd. Cawn enwau lleol ar lwybrau, caeau, ffyrdd, ffosydd a nentydd, coedwigoedd, bryniau, mynyddoedd ac ati, ac enwau’r mwyafrif wedi aros ers cyn cof. 

Ond cerrig sydd dan sylw yma: Cyfeirio at rai sydd i’w gweld yn y fro hon, ac mewn ardaloedd cyfagos ‘dwi am wneud yma. A dwi’n pwysleisio hyn – mae’n sicr bod pob un ohonoch yn gwybod am garreg, neu gerrig nad ydwi wedi cyfeirio atynt yma.

Ydi, mae’r ymadrodd ‘trin cerrig’ yn adnabyddus yn ardaloedd y chwareli. Ond roedd angen clamp o gŷn i hollti’r garreg hon ar lwybr Sarn Helen, rhwng Bryn Castell a Rhiw-bach !! 

 

Maen Hollt (SH443735)

Ond na, nid trafodaeth ar drin cerrig yn y chwareli yw’r canlynol, ond cyfle i ni gael golwg ar ambell garreg, neu gerrig diddorol o fewn y plwy’ hwn, ac ychydig y tu hwnt i’r ffiniau. Edrych ar ystyr enwau a roddwyd ar rai o’r cerrig, a cheisio dadansoddi’r rhesymau dros yr enwau unigryw hynny. 

Pwy fedyddiodd y cerrig gyda’r enwau gwreiddiol, a pha bryd oedd hynny, tybed? Mae ‘na stori ynghlwm â sawl carreg mewn safleoedd eraill ym mhob ardal bron, a’r chwedlau hynny wedi eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth dros y canrifoedd. Onid yw’n hanfodol ein bod ninnau’n trosglwyddo’r pytiau pwysig hyn o hanes ein cenedl i’n disgynyddion, a cheisio sicrhau i’n plant, a’u plant hwythau gario ‘mlaen â’r traddodiad?

Yn y llun nesa' mae’r Maen Trwsgl yn sefyll ar waelod rhan o’r Manod Mawr a elwir yn Glogwyn Candryll ger tyddyn Cae Canol Mawr. Enw ar rywbeth blêr – clumsy- ydi trwsgl, ac yn disgrifio’r garreg hon i’r dim. Mae’n debyg iddi gael ei styrbio, a’i chario lawr y mynydd gan rewlif yn ystod Oes yr Iâ, a’i gosod yn y fan hon hyd ddydd y farn. 

Maen Trwsgl (SH439721)

Fel pob carreg o’r fath, mae chwedleuon wedi gwreiddio, tyfu ac addasu o’i hamgylch dros y blynyddoedd. Un o’r rhai mwya’ adnabyddus ynglŷn â’r Maen Trwsgl yw’r un am y cawr o’r enw Trwsgl oedd yn trigo yn ardal. Roedd yn cerdded o amgylch y Manod Mawr un diwrnod pan deimlodd rhyw boen yn ei droed. Eisteddodd i lawr, a thynnu ei esgid, a darganfod y maen hwn ynddi. Gafaelodd yn y garreg enfawr a’i lluchio i lawr ochr y mynydd, a rowliodd y maen hyd at y safle y gwelir hi heddiw.  

Mae chwedl debyg i hon yn perthyn i gawr arall o gyffiniau Penmachno, a wnaeth union yr un fath i garreg yn ei esgid, a’i lluchio i lawr llethr nes iddi syrthio i’r afon Gonwy islaw Rhaeadr y Greiglwyd (Conwy Falls). Ac yno mae Maen y Graienyn yn gorwedd hyd heddiw.

Mae enw ambell garreg, neu gerrig yn ddigon hawdd i’w ddadansoddi, megis lliw, lleoliad, neu siâp y maen, neu graig. Ond yr hyn sy’n ddifyr yw ceisio mynd i’r afael â rhesymau’n hynafiaid fedyddio rhai cerrig gydag enwau sydd bellach yn anghofiedig. Gwyddom i’r hen dderwyddon ddyddiau gynt addoli eu duwiau ger ambell faen, neu gylch o gerrig yn sefyll yn gadarn, oedd yn rhan o olygfa ambell safle. Pa grefydd oedd y rhain yn ei ddilyn? 

Daeth diwedd ar addoli yn y ffurf honno wedi dyfodiad y Rhufeiniad, gydag ambell eithriad, ond mae’r meini a’r cylchoedd yn dal i sefyll mewn sawl man, fel prawf o’r ffaith fod crefydd, ac addoli duwiau gwahanol gan ein hynafiaid wedi bodoli mewn nifer o safleoedd yng ngogledd Cymru y dyddiau fu.

[Y tro nesa... Y Garreg Lwyd; Carreg y Frân, a mwy]

 

 

18.1.25

Chwedl neu Ffaith? Dôl y Muriau Poethion, Penmachno

Rwyf wedi gwirioni ar enwau lleol ers tro, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny yr ydw i’n gyfarwydd â hwy. Mae pori trwy hen fapiau yn obsesiwn, bron, gennyf. Yn aml, byddaf yn dod ar draws enw neu gyfeiriad ar yr hen fapiau ’ma nad oeddwn wedi sylwi arnynt gynt. Yna, rhyfeddu at yr enwau hyn, a cheisio dyfalu pwy fedyddiodd y ffos/afon/cae/bryn/llwybr neu beth bynnag â’r enwau. Mae rhai yn dyddio’n ôl i’r Oesoedd Canol, a chynt. 

Yng nghyfrol Owen Gethin Jones, Gweithiau Gethin, (1884) mae’r awdur yn trafod enwau nifer o gaeau ym mhlwy’ Penmachno, ac ar dudalen 255, mae’n cyfeirio at un yn benodol. Wrth fynd â’r darllennydd ar daith drwy’r plwy’ mae’n dod at Ddôl Pen y bryn – gelwir hi eto gan hen bobl yn 'Ddôl y Muriau Poethion'. 

Aiff Gethin yn ei flaen i ychwanegu bod yno fyddin wedi bod unwaith (un Gymreig) yn gwersyllu, ‘a bod yma adeiladau coed, pryd y taniwyd hwy gan y Saeson’. A dyna sylfaen enw’r cae ‘Dôl y muriau poethion’, lle llosgwyd yr adeiladau a’r cloddiau pren o’u hamgylch. Aeth ymlaen i ddweud bod y Cymry wedi gorfod encilio o’r gwersyll tanllyd i gyfeiriad lle saif Pen y bont heddiw, lle bu brwydr fawr, a choncrwyd y Saeson. Dywedodd bod caeau ym Mhen y bont ers yr adeg honno yn cael eu galw dan yr enwau arwyddocaol Cae’r Piser hir, Pant y trensiau a Dôl handy bwa. Roeddwn yn cymryd diddordeb yn yr enwau, ond yn amau safbwyntiau Gethin ychydig, a’i ddychymyg rhamantaidd. 

‘Gadlas Ddôl’ oedd yr enw ar ‘Ddôl y muriau poethion’ gennym ni, drigolion Penmachno yn fy nghyfnod i yno, a chynt, am wn i. Mae’r cae gerllaw Pont Oernant, sy’n croesi afon Machno. Nid oedd dim byd arbennig am Gadlas Ddôl y cyfnod hwnnw, heblaw iddo fod yn lle da i fynd i bysgota’r afon. 

Efallai mai un o’r ffynonellau gorau o enwau lleol yw’r mapiau degwm a gofnodwyd ym mhob plwy’ yng Nghymru. Mae’r rhai o Benmachno yn dyddio’n ôl i 1842, ac yn drysorau o hanes lleol. Ynddynt ceir enwau pob eiddo yn y plwy’, ynghyd ag enwau’r perchenogion, tenantiaid, a maint pob cae a phob darn o’r eiddo yn ystod 1842. Hefyd, nodir ffeithiau eraill yn ymwneud â’r ochr drethiant ac ati’r eiddo. Ymysg enwau caeau Pen-y-bryn, Penmachno ar y map Degwm y flwyddyn honno gwelir cae, ychydig dros 11 erw o faint o’r enw Dôl y Mieri poethion, sy’n codi mwy o gwestiynau!

Ond, rhai blynyddoedd yn ôl bellach, a minnau ar un o ’nheithiau ymchwilio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth y dois ar draws yr enw hanesyddol hwn ar gae ym Mhenmachno ymysg tiroedd oedd yn cael eu gwerthu yn 1586. Yn y ddogfen, (Wigfair 536) gwelais brawf o’r hyn yr oedd Gethin wedi’i gofnodi yn Gweithiau Gethin, bron i dri chant o flynyddoedd yn ddiweddarach, o fodolaeth cae o’r enw Dôl y Muriau Poethion yn y plwy’.

Felly, dyna brawf pendant o fodolaeth darn o dir oedd wedi ei fedyddio ag enw oedd yn bodoli yn yr 16 ganrif, ac yn debygol yn mynd yn ôl ganrifoedd cyn hynny. Ac yn fwy perthnasol, yn profi bod yr enw efallai yn cyfeirio at ryw ddigwyddiad lleol, a’r hanesyn lleol wedi goroesi ar lafar ymysg y trigolion am o leia tair canrif.

A dyna reswm arall i’r dychymyg ofyn y cwestiwn pwy oedd yr unigolyn hwnnw a roddodd enw ar gilcyn o dir bro Machno a barhaodd dros y canrifoedd.