Cafwyd adroddiad am ymweliad un arall, dienw, â’r safle ar dudalennau 128-9 A Handbook for Travellers in North Wales (1868), oedd yn ailadrodd yr hyn a geir gan Gibson parthed nifer y beddau ac ati. Wedi trafod hanes y chwedl, gorffennwyd megis
…however pleasing the tradition, it is most probable that it only served as a place of internment for some defunct Roman soldiers…
Yn yr 1870au, cyhoeddwyd arweinlyfr Blacks Picturesque Guide to North Wales, ac ar dudalen 197 ceir disgrifiad o leoliad a chynnwys safle Beddau Gwŷr Ardudwy, gyda gwybodaeth a oedd yn debygol o fod wedi ei godi o gyhoeddiadau cynt. Dywedir fod yno rhwng 30 a 40 o bentyrrau hirsgwar, oedd rhwng dwy a thair troedfedd o uchder, yn 6 troedfedd o hyd a 15 modfedd o led. Roedd carreg fechan yn sefyll ar ddau ben y tomennydd bychain hynny, meddid, ynghyd â charnedd a nifer o gylchoedd cerrig gerllaw. Dyma’r lle y claddwyd Gwŷr Ardudwy wedi’r ymladdfa, meddai awdur yr adroddiad.
Un o’r ffynhonellau gorau o’r cyfnod a oedd yn trafod y safle arbennig hon yw’r adroddiad yn An Inventory of the ancient monuments in Wales and Monmouthshire, vol VI - County of Merioneth, a gyhoeddwyd gan Syr John Rhys a Syr E.Vincent Evans yn 1921. Yn y gyfrol hon cawn ychydig mwy o fanylder ar ambell agwedd ar y safle. Ynddi, ceir gwybodaeth fod yr enw wedi ei weld mewn cylchgrawn archeolegol yn yr Iwerddon yn yr 1870au. Yn y Royal Historical and Archaeological Association of Ireland 1872-3, cyfres 4, cyf. 2, t. 528 cyfeiriwyd at lythyr a anfonwyd i’r gymdeithas honno yn trafod Beddau Gwŷr Ardudwy. Gan un o’r enw Mr Burchett oedd y llythyr, a oedd yn cyfeirio at ymweliad rhywun â’r beddau.
Dywed amdano’n siarad â gwraig Tŷ Nant y Beddau gerllaw, a ddywedodd bod yr holl gerrig wedi eu cario oddiyno i godi waliau o amgylch y tyddyn. Derbyniodd yr ymwelydd wahoddiad i fynd i weld tystiolaeth o’r hyn a ddywedwyd wrtho, ac iddo sylwi ar weddillion y beddau. Cafwyd disgrifiad manwl ganddo o un garreg, brin, ar ben un bedd, ac arni arysgrif o ryw fath. Maint y garreg oedd 20 modfedd wrth 6 modfedd, gyda’r marciau wedi eu torri arni’n ofalus, yn ôl ei ddisgrifiad, a gwnaeth sgets ohoni. Aeth ymlaen i archwilio rhai o gerrig a oedd, yn honedig, wedi eu defnyddio yn y waliau o amgylch. Daeth ar draws un garreg yn y wal, ac aeth ati i wneud sgets ohono hefyd, a chynhwyswyd y llun hwnnw yn y cylchgrawn. Awgrymwyd gan yr ymwelydd hwnnw mai marciau ‘Ogam’ oedd y llinellau a dorrwyd, ganrifoedd ynghynt, ar y garreg honno.Yn yr adroddiad gan aelod o’r Comisiwn Henebion dywedwyd ei bod yn amlwg fod y tomennydd pridd oedd yn gorchuddio’r beddau wedi diflannu erbyn 1870. Ond ar yr ymweliad hwnnw, na roddir dyddiad ar ei gyfer, daeth i benderfyniad ynglŷn ag ambell agwedd ar y safle. Dywedodd fod pedair tomen i’w gweld, gyda cherrig gwastad bob ochr iddynt. Rhoddodd fanylion o’r tomennydd - (1) 26 troedfedd x 10 tr., 3 tr. o uchel, yn gogwyddo gogledd-ddwyrain a de-ddwyrain. (2) 8 tr. x 8 tr. a 2½tr. o uchder. (3) 23 tr. x 14 tr, gyda gogwydd dwyrain i’r gorllewin, gyda charreg yn y ddau ben. (4) 26 tr. x 21 tr, gogwydd dwyrain i’r gorllewin eto, gyda charreg ar y ddwy ochr.
Nodwyd 11 o olion tomennydd eraill hefyd, gyda’r cerrig wedi eu codi ymaith ohonynt. Ar gyfartaledd, eu maint oedd oddeutu 16 tr. x 10 tr, ac ar y cyfan yn gogwyddo o’r dwyrain i’r gorllewin. Yn eu mysg yr oedd carreg yn sefyll, tua throedfedd o uchel ac yn droedfedd a hanner o led yn ei bôn. Roedd ei ddisgrifiad o leoliad y safle yn gymorth i ymchwilwyr oedd i’w ddilyn, yn sicr. Dyfynnaf o’r iaith yr ysgrifennwyd yr erthygl:
They lie on the slope immediately below a new waterworks pumping station, and are with difficulty distinguished in the long coarse grass of the moorland. The course of the Roman road running in the direction of Tomen y Mur is plainly traceable on the south side of the Festiniog-Bala road, but is not so easily followed on the north side of the road and in the direction of the mounds. Visited 5th September 1913.
Ni wyddys beth ddaeth o’r cerrig arysgrifedig hynny, ond ychwanegwyd gwybodaeth fod palstaf efydd wedi’i darganfod yno hefyd, ac i honno gael ei rhoi i’r Amgueddfa Brydeinig.
Dywedir hefyd fod carreg arysgryfedig, a elwir yn garreg Cantiorix, wedi ei darganfod ar y safle, ond sydd heddiw yn cael ei harddangos ymysg casgliad o gerrig arysgrifedig eraill yn eglwys St.Tudclud ym Mhenmachno. Nid oes unrhyw brawf dogfennol ar gael mai o’r safle hon y daeth y garreg, ac enwir safleoedd eraill fel y man y darngfuwuyd carreg Cantiorix gan haneswyr. Carreg Gristnogol yw hon, yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif, ac mae copi ohoni wedi ei gosod yn ddiweddar ar wal amgylchynnol yn y gwaith puro dŵr gerllaw i Feddau Gwŷr Ardudwy.
- - - - - -
I'w barhau

.jpg)