Rhan gyntaf cyfres fer, am safle hanesyddol ym Mro Ffestiniog. Erthygl a sgwennais ar gyfer cyfnodolyn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn 2019, sef Rhamant Bro.
Tystiolaeth ymwelwyr y dyddiau fu â’r safle
Dros y blynyddoedd, bu llawer o ddadlau am leoliad, a bodolaeth Beddau Gwŷr Ardudwy. Mae’r chwedl sy’n ymwneud â’r beddau, ac am y frwydr a fu ar y safle, yn adnabyddus i lawer ohonom bellach. Yn ôl traddodiad, dyma ble y lladdwyd nifer o ddynion Ardudwy – Ardudwy Uwch Artro, i roi yr enw swyddogol o’r Oesoedd Canol arno - gan garfan o wŷr o Glwyd. Os cofiwch, roedd meibion Ardudwy wedi cipio merched o Glwyd, a’u dwyn i ardal a enwir yn awr yn Ffestiniog. Yn naturiol, daeth carfan o ddynion Clwyd draw i gyfeiriad Ardudwy i geisio cael eu gwragedd a’u cariadon yn ôl. Ond nid felly ddymuniad y menywod, wrth iddynt benderfynu boddi eu hunain mewn llyn cyfagos.
![]() |
| Llyn Morwynion, o ben Y Drum |
Mae chwedl arall hefyd, o’r Mabinogi, am Flodeuwedd, gwraig Lleu Llaw Gyffes yn dianc rhag dial ei gŵr, gyda’i morwynion, ac yn boddi eu hunain mewn llyn cyfagos. A dyna sylfaen dwy chwedl a roddodd enw i’r llyn, a elwir ers hynny yn Llyn y Morwynion.
Ond beth am y dystiolaeth, os oes hynny, sydd i’w weld o’r frwydr honedig rhwng hogia’ Clwyd ac Ardudwy?
Yn ôl yr hyn a gofnodwyd hyd yma, mae’r safle yn wybyddys ers canrifoedd. Y lleoliad a nodir yn gyffredinol ar gyfer olion gweddillion y beddau ar fap Ordnans yw o amgylch SH7230642579. Ond ceir peth amrywiaeth o’r union leoliad wrth ddarllen adroddiadau niferus gan unigolion a fu’n ymweld â’r safle dros y blynyddoedd. Mae hefyd amrywiaeth mawr yn nisgrifiad yr ymwelwyr rheiny o’r safle, ac am niferoedd y beddau. Fy mwriad i ydi ceisio mynd â chi ar daith gyda’r ymwelwyr rheiny fu’n troedio’r safle dros y blynyddoedd. Hefyd, gan nad oes archwiliad archeolegol, swyddogol wedi ei wneud o’r beddau honedig, na’r un adroddiad archeolegol gyflawn wedi ei chyhoeddi, rhaid dibynnu ar dystiolaeth llygad-dystion o’r 18fed ganrif, a chynt, i’w lleoli. Felly, dyma geisio, unwaith ac am byth, lunio ryw fath o fap, a phwyntio bys at union leoliad Beddau Gwŷr Ardudwy, allan o’r tystiolaethau hynny.
Dywedir yn nodiadau y casglwr rhyfeddol hwnnw o’r 17g., Robert Vaughan, Hengwrt, Llanelltyd, fod nifer fawr o’r beddau i’w gweld yn ystod ei gyfnod o ar y ddaear. Yn argraffiad Gibson o’r gyfrol Britannia, a gyhoeddwyd yn 1695, gwelir nodyn gan Edward Llwyd, (1660-1709), y naturiaethwr, botanegydd a hanesydd enwog, yn disgrifio’r safle, sydd y cyfeiriad cyntaf a geir mewn print o’r lle, mewn ffaith. Dyma fras-gyfieithiad ohono:
Ar fynydd Migneint ger Rhyd yr Halen, oddeutu chwarter milltir o’r ffordd hon (Sarn y Ddual), mae yno gofebion cerrig rhyfeddol a elwir yn Beddau Gwŷr Ardudwy. Mae yna o leiaf deg ar hugain mewn nifer; disgrifir pob un tua dwy lath o hyd; ac ar gornel pob bedd y mae pedwar piler, mewn ffurf sgwâr, tua 2 neu 3 troedfedd o uchel a 9 modfedd o led….
Ychwanegodd Llwyd yr wybodaeth i garreg o’r safle, gydag arysgrif Ladin arni, gael ei chario oddiyno i drwsio muriau’r eglwys, neu efallai wal y fynwent yn Llan Ffestiniog. Maint y garreg honno, lle bynnag y gosodwyd hi, yn ôl Llwyd yw ‘tua dwy droedfedd o hyd, hanner llath o led a 3 i 4 modfedd o drwch.
Disgrifiodd Thomas Pennant y beddau, tua chanrif ar ôl ymweliad Edward Llwyd, a leolir ganddo hefyd, yn anghywir, ‘ger Rhyd yr Halen’yn hytrach na ‘Sarn Helen’, yn ei gyfrol o 1794 o Tour in Wales fel hyn, a chyfieithaf eto:
Mae’r beddau hyn tua 6 troedfedd o hyd, a dwy garreg yn sefyll yn y ddau ben; ond mae’r cerrig bellach wedi eu symud. Ond erys nifer o gylchoedd cerrig, y mwyaf tua 52 troedfedd mewn diamedr; carnedd fawr, gyda dwy garreg wedi eu gosod, ac yn sefyll ar un rhan, fel petai i ddangos mynediad i’r gell, yr hon y mae yn ei amgylchynu, mae’n debyg’; gerbron y mae tomen lai, a chylch bychan; a’r cyfan wedi ei amgylchynu gan gylch mwy, sydd erbyn hyn yn anghyflawn, oherwydd i’r cerrig gael eu defnyddio i wneud waliau…
Ond bychanu disgrifiad Pennant wnaeth Richard Fenton, teithiwr arall i’r safle, tua 20 mlynedd yn ddiweddarach, yn 1813. Roedd hwn o’r farn mai safle cynhanesol oedd y lle. Dywedodd hefyd fod y cerrig o’r safle wedi eu codi a’u gosod yn y ffordd Rufeinig, Sarn Helen, sy’n rhedeg gyfochrog â’r safle. Roedd y cerrig na ddefnyddiwyd yn ymddangos fel cerrig cylch o amgylch y beddau, a cherrig y cistfeini wedi eu symud. Ni wyddai ddim am y cylch 52 troedfedd o ddiamedr o gwbl, meddai, gan led-awgrymu fod Pennant wedi dychmygu’r cyfan.
...I'W BARHAU!
.jpg)
