12.6.26

Beddau Gwŷr Ardudwy -Rhan 3

Cafwyd adroddiad am ymweliad un arall, dienw, â’r safle ar dudalennau 128-9 A Handbook for Travellers in North Wales (1868), oedd yn ailadrodd yr hyn a geir gan Gibson parthed nifer y beddau ac ati. Wedi trafod hanes y chwedl, gorffennwyd megis 

…however pleasing the tradition, it is most probable that it only served as a place of internment for some defunct Roman soldiers…

Yn yr 1870au, cyhoeddwyd arweinlyfr Blacks Picturesque Guide to North Wales, ac ar dudalen 197 ceir disgrifiad o leoliad a chynnwys safle Beddau Gwŷr Ardudwy, gyda gwybodaeth a oedd yn debygol o fod wedi ei godi o gyhoeddiadau cynt.  Dywedir fod yno rhwng 30 a 40 o bentyrrau hirsgwar, oedd rhwng dwy a thair troedfedd o uchder, yn 6 troedfedd o hyd a 15 modfedd o led. Roedd carreg fechan yn sefyll ar ddau ben y tomennydd bychain hynny, meddid, ynghyd â charnedd a nifer o gylchoedd cerrig gerllaw. Dyma’r lle y claddwyd Gwŷr Ardudwy wedi’r ymladdfa, meddai awdur yr adroddiad.

Un o’r ffynhonellau gorau o’r cyfnod a oedd yn trafod y safle arbennig hon yw’r adroddiad yn An Inventory of the ancient monuments in Wales and Monmouthshire, vol VI - County of Merioneth, a gyhoeddwyd gan Syr John Rhys a Syr E.Vincent Evans yn 1921.  Yn y gyfrol hon cawn ychydig mwy o fanylder ar ambell agwedd ar y safle. Ynddi, ceir gwybodaeth fod yr enw wedi ei weld mewn cylchgrawn archeolegol yn yr Iwerddon yn yr 1870au. Yn y Royal Historical and Archaeological Association of Ireland 1872-3, cyfres 4, cyf. 2, t. 528 cyfeiriwyd at lythyr a anfonwyd i’r gymdeithas honno yn trafod Beddau Gwŷr Ardudwy. Gan un o’r enw Mr Burchett oedd y llythyr, a oedd yn cyfeirio at ymweliad rhywun â’r beddau. 

Dywed amdano’n siarad â gwraig Tŷ Nant y Beddau gerllaw, a ddywedodd bod yr holl gerrig wedi eu cario oddiyno i godi waliau o amgylch y tyddyn. Derbyniodd yr ymwelydd wahoddiad i fynd i weld tystiolaeth o’r hyn a ddywedwyd wrtho, ac iddo sylwi ar weddillion y beddau. Cafwyd disgrifiad manwl ganddo o un garreg, brin, ar ben un bedd, ac arni arysgrif o ryw fath. Maint y garreg oedd 20 modfedd wrth 6 modfedd, gyda’r marciau wedi eu torri arni’n ofalus, yn ôl ei ddisgrifiad, a gwnaeth sgets ohoni. Aeth ymlaen i archwilio rhai o gerrig a oedd, yn honedig, wedi eu defnyddio yn y waliau o amgylch. Daeth ar draws un garreg yn y wal, ac aeth ati i wneud sgets ohono hefyd, a chynhwyswyd y llun hwnnw yn y cylchgrawn. Awgrymwyd gan yr ymwelydd hwnnw mai marciau ‘Ogam’ oedd y llinellau a dorrwyd, ganrifoedd ynghynt, ar y garreg honno.

Yn yr adroddiad gan aelod o’r Comisiwn Henebion dywedwyd ei bod yn amlwg fod y tomennydd pridd oedd yn gorchuddio’r beddau wedi diflannu erbyn 1870.  Ond ar yr ymweliad hwnnw, na roddir dyddiad ar ei gyfer, daeth i benderfyniad ynglŷn ag ambell agwedd ar y safle. Dywedodd fod pedair tomen i’w gweld, gyda cherrig gwastad bob ochr iddynt.  Rhoddodd fanylion o’r tomennydd - (1) 26 troedfedd x 10 tr., 3 tr. o uchel, yn gogwyddo gogledd-ddwyrain a de-ddwyrain. (2) 8 tr. x 8 tr. a 2½tr. o uchder.  (3) 23 tr. x 14 tr, gyda gogwydd dwyrain i’r gorllewin, gyda charreg yn y ddau ben. (4) 26 tr. x 21 tr, gogwydd dwyrain i’r gorllewin eto, gyda charreg ar y ddwy ochr.  

Nodwyd 11 o olion tomennydd eraill hefyd, gyda’r cerrig wedi eu codi ymaith ohonynt. Ar gyfartaledd, eu maint oedd oddeutu 16 tr. x 10 tr, ac ar y cyfan yn gogwyddo o’r dwyrain i’r gorllewin. Yn eu mysg yr oedd carreg yn sefyll, tua throedfedd o uchel ac yn droedfedd a hanner o led yn ei bôn. Roedd ei ddisgrifiad o leoliad y safle yn gymorth i ymchwilwyr oedd i’w ddilyn, yn sicr.  Dyfynnaf o’r iaith yr ysgrifennwyd yr erthygl:

They lie on the slope immediately below a new waterworks pumping station, and are with difficulty distinguished in  the long coarse grass of the moorland. The course of the Roman road running in the direction of Tomen y Mur is plainly traceable on the south side of the Festiniog-Bala road, but is not so easily followed on the north side of the road and in the direction of the mounds. Visited 5th September 1913.

Ni wyddys beth ddaeth o’r cerrig arysgrifedig hynny, ond ychwanegwyd gwybodaeth fod palstaf efydd wedi’i darganfod yno hefyd, ac i honno gael ei rhoi i’r Amgueddfa Brydeinig.  


 

Dywedir hefyd fod carreg arysgryfedig, a elwir yn garreg Cantiorix, wedi ei darganfod ar y safle, ond sydd heddiw yn cael ei harddangos ymysg casgliad o gerrig arysgrifedig eraill yn eglwys St.Tudclud ym Mhenmachno.  Nid oes unrhyw brawf dogfennol ar gael mai o’r safle hon y daeth y garreg, ac enwir safleoedd eraill fel y man y darngfuwuyd carreg Cantiorix gan haneswyr.  Carreg Gristnogol yw hon, yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif, ac mae copi ohoni wedi ei gosod yn ddiweddar ar wal amgylchynnol yn y gwaith puro dŵr gerllaw i Feddau Gwŷr Ardudwy. 

- - - - - -

I'w barhau
 

5.6.26

Beddau Gwŷr Ardudwy: colli'r cerrig

Ail ran cyfres fer am safle hanesyddol ym Mro Ffestiniog

Efallai mai W.H.Hancock, ar ei ymweliad â’r safle yn ystod yr 1850au cynnar a wnaeth yr archwiliad swyddogol, cyflawn gyntaf o Feddau Gwŷr Ardudwy. Cyhoeddwyd ei adroddiad yn y cylchgrawn safonol Archaeologia Cambrensis yn 1851. Cyfeiriodd Hancock at adroddiad  Edmund Gibson yn ei Britannia, a ddywedodd fod 30 o feddau i’w gweld yno yn nyddiau Gibson, (17eg ganrif), ac i eraill, yn fwy diweddar gyfeirio at dri dwsin o feddau. Ond ar ddyddiad ymweliad Hancock dim ond dwy garreg fedd oedd yn dal i sefyll, a dim un bedd arall i’w weld o gwbl. Cafodd gwmni ‘an intelligent peasant,’ oedd yn byw nid nepell o’r safle i’w arwain o amgylch y lle. Roedd y peasant hwn, neu hon, wedi trigo gerllaw'r beddau ers trigain mlynedd a mwy, ac wedi ymweld â’r safle hynafol gannoedd o weithiau, ac yn gwybod yn iawn am y chwedl a’r traddodiad a berthynai iddi. Ni chofiai weld llawer o gerrig beddau yno, ond efallai fod ryw ddwsin, a dim mwy wedi bod yno.

Awyrlun o'r safle, rhwng Tŷ Nant y Beddau ar y chwith, a'r gwaith trin dŵr ar y dde

Roedd Hancock yn sicr o’r farn fod beddau wedi bod yno ar un adeg, a’u bod yn ymddangos mewn dwy gylch hirgrwn, ac wedi eu hamgylchynu â wal gerrig. Doedd dim gweddillion wal i’w gweld yn ystod ei ymweliad, heblaw ychydig o gerrig oedd i’w cael ar wyneb y tir yma ac acw. Nid oedd unrhyw drefn yng ngosodiad y beddau, meddai, gan ddweud mai ryw droedfedd oedd hyd y ddwy garreg oedd yn weddill, a’r ddwy yn cynrychioli dau fedd gwahanol.  Ar y pryd, ‘doedd yr un garnedd i’w gweld, fel yr adroddwyd gan eraill o’i flaen. Nid oedd olion o lawer o gerrig o amgylch ‘chwaith, gan fod llawer wedi eu cario ymaith i godi adeiladau a waliau. Yr oedd ychydig olion o gloddio ysgafn wedi bod yno rywdro, heb fod lawer o amser yn ôl, meddai, ond ni welodd unrhyw dystiolaeth fod cyrff wedi eu codi oddiyno, na dim gweddillion eraill. Gwnaeth sylw prin o’r ffaith fod y beddau naill ochr i’r hen ffordd Rufeinig, Sarn Helen, ac roedd hynny’n awgrymu iddo mai beddrodau milwyr Rhufeinig oeddynt, a dim i’w wneud â’r chwedl enwog.

Cafwyd ateb i amheuaeth W.H.Hancock fod rhywfaint o gloddio wedi bod yno, a hynny, mae’n debyg’, dim ond ychydig amser cyn ei ymweliad â’r safle rhywdro yn 1851. Cyhoeddwyd llythyr gan un ‘Mervinian’, o Mona, dyddiedig 15 Ionawr 1851, yn y Carnarvon and Denbigh Herald a ddatgelodd ei fod o, a ffrind iddo wedi cloddio i rai o’r beddau, i ddyfnder o dair i bedair llath.  Mewn ffaith, dyma’r dystiolaeth gynharaf, ar ddu a gwyn, o unigolion yn cyfaddef iddynt wneud archwiliad trwy gloddio i’r beddau. Er eu harchwilio, ni ddaethpwyd ar draws yr un stone coffins or bones yno. Ond yr oedd y ffaith fod pridd gwahanol i’w weld yn dangos ei fod wedi ei gymysgu ar ryw adeg.

Cyhoeddodd Harry Longueville Jones, un o sefydlwyr y Cambrian Archaeolegical Association, a chyd-olygydd y cylchgrawn archeolegol adnabyddus, sy’n dal i fynd, Archaeologia Cambrensis (Arch. Cambs.) erthygl swmpus dan y testun ‘Preservation of Welsh Antiquities’ yn y cylchgrawn hwnnw yn rhifyn Hydref 1853. Wrth drin y dinistr oedd yn dod i ran rhai o’r hen safleoedd hyn yng Nghymru, roedd ganddo hyn i’w ddweud:

 Felly, dyna brawf pendant gan archeolegwr proffesiynol fod y beddau wedi cael eu dinistrio, a’r cerrig wedi eu defnyddio ar gyfer codi waliau, mor gynnar â 1853. Awgrymir yma fod y safle wedi ei dinistrio rywdro rhwng cyfnod Edward Llwyd, ar ddiwedd yr 17g. a chyfnod Hancock a Longueville Jones yn yr 1850au. Fe all dyn wneud difrod mawr i henebion dros gyfnod o 150 o flynyddoedd, yn amlwg!

Un a lofnododd ei enw fel ‘Cambrensis’ a ysgrifennodd lythyr, gyda’r dyddiad 13 Chwefror 1865, i’r Archaeologia Cambrensis. Roedd hwn wedi bod ar daith gerdded yn olrhain Sarn Helen drwy’r ardal, ac wedi sylwi ar safle Beddau Gwŷr Ardudwy. Cadarnhaodd  hwn eto mai dim ond olion digon anweledig, ar y cyfan, oedd ar gael yno'r adeg honno. Roedd o’r farn hefyd fod y beddau wedi eu hagor, a’u dinistrio gan, yn ei iaith ei hun: hunters after curiosities - not archaeologists - several years ago
 

I'w barhau!

 

15.5.26

Beddau Gwŷr Ardudwy: Chwedl neu Ffaith?

Rhan gyntaf cyfres fer, am safle hanesyddol ym Mro Ffestiniog. Erthygl a sgwennais ar gyfer cyfnodolyn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn 2019, sef Rhamant Bro. 

Tystiolaeth ymwelwyr y dyddiau fu â’r safle
Dros y blynyddoedd, bu llawer o ddadlau am leoliad, a bodolaeth Beddau Gwŷr Ardudwy. Mae’r chwedl sy’n ymwneud â’r beddau, ac am y frwydr a fu ar y safle, yn adnabyddus i lawer ohonom bellach. Yn ôl traddodiad, dyma ble y lladdwyd nifer o ddynion Ardudwy – Ardudwy Uwch Artro, i roi yr enw swyddogol o’r Oesoedd Canol arno - gan garfan o wŷr o Glwyd.  Os cofiwch, roedd meibion Ardudwy wedi cipio merched o Glwyd, a’u dwyn i ardal a enwir yn awr yn Ffestiniog. Yn naturiol, daeth carfan o ddynion Clwyd draw i gyfeiriad Ardudwy i geisio cael eu gwragedd a’u cariadon yn ôl. Ond nid felly ddymuniad y menywod, wrth iddynt benderfynu boddi eu hunain mewn llyn cyfagos.  

Llyn Morwynion, o ben Y Drum

Mae chwedl arall hefyd, o’r Mabinogi, am Flodeuwedd, gwraig Lleu Llaw Gyffes yn dianc rhag dial ei gŵr, gyda’i morwynion, ac yn boddi eu hunain mewn llyn cyfagos. A dyna sylfaen dwy chwedl a roddodd enw i’r llyn, a elwir ers hynny yn Llyn y Morwynion.  

Ond beth am y dystiolaeth, os oes hynny, sydd i’w weld o’r frwydr honedig rhwng hogia’ Clwyd ac Ardudwy?

Yn ôl yr hyn a gofnodwyd hyd yma, mae’r safle yn wybyddys ers canrifoedd. Y lleoliad a nodir yn gyffredinol ar gyfer olion gweddillion y beddau ar fap Ordnans yw o amgylch SH7230642579. Ond ceir peth amrywiaeth o’r union leoliad wrth ddarllen adroddiadau niferus gan unigolion a fu’n ymweld â’r safle dros y blynyddoedd. Mae hefyd amrywiaeth mawr yn nisgrifiad yr ymwelwyr rheiny o’r safle, ac am niferoedd y beddau.  Fy mwriad i ydi ceisio mynd â chi ar daith gyda’r ymwelwyr rheiny fu’n troedio’r safle dros y blynyddoedd. Hefyd, gan nad oes archwiliad archeolegol, swyddogol wedi ei wneud o’r beddau honedig, na’r un adroddiad archeolegol gyflawn wedi ei chyhoeddi, rhaid dibynnu ar dystiolaeth llygad-dystion o’r 18fed ganrif, a chynt, i’w lleoli. Felly, dyma geisio, unwaith ac am byth, lunio ryw fath o fap, a phwyntio bys at union leoliad Beddau Gwŷr Ardudwy, allan o’r tystiolaethau hynny.

 

Dywedir yn nodiadau y casglwr rhyfeddol hwnnw o’r 17g., Robert Vaughan, Hengwrt, Llanelltyd, fod nifer fawr o’r beddau i’w gweld yn ystod ei gyfnod o ar y ddaear. Yn argraffiad Gibson o’r gyfrol Britannia, a gyhoeddwyd yn 1695, gwelir nodyn gan Edward Llwyd, (1660-1709), y naturiaethwr, botanegydd a hanesydd enwog, yn disgrifio’r safle, sydd y cyfeiriad cyntaf a geir mewn print o’r lle, mewn ffaith.  Dyma fras-gyfieithiad ohono:

Ar fynydd Migneint ger Rhyd yr Halen, oddeutu chwarter milltir o’r ffordd hon (Sarn y Ddual), mae yno gofebion cerrig rhyfeddol a elwir yn Beddau Gwŷr Ardudwy. Mae yna o leiaf deg ar hugain mewn nifer; disgrifir pob un tua dwy lath o hyd; ac ar gornel pob bedd y mae pedwar piler, mewn ffurf sgwâr, tua 2 neu 3 troedfedd o uchel a 9 modfedd o led….

Ychwanegodd Llwyd yr wybodaeth i garreg o’r safle, gydag arysgrif Ladin arni, gael ei chario oddiyno i drwsio muriau’r eglwys, neu efallai wal y fynwent yn Llan Ffestiniog. Maint y garreg honno, lle bynnag y gosodwyd hi, yn ôl Llwyd yw ‘tua dwy droedfedd o hyd, hanner llath o led a 3 i 4 modfedd o drwch.

Disgrifiodd Thomas Pennant y beddau, tua chanrif ar ôl ymweliad Edward Llwyd, a leolir ganddo hefyd, yn anghywir, ‘ger Rhyd yr Halen’yn hytrach na ‘Sarn Helen’, yn ei gyfrol o 1794 o Tour in Wales fel hyn, a chyfieithaf eto:

Mae’r beddau hyn tua 6 troedfedd o hyd, a dwy garreg yn sefyll yn y ddau ben; ond mae’r cerrig bellach wedi eu symud. Ond erys nifer o gylchoedd cerrig, y mwyaf tua 52 troedfedd mewn diamedr; carnedd fawr, gyda dwy garreg wedi eu gosod, ac yn sefyll ar un rhan, fel petai i ddangos mynediad i’r gell, yr hon y mae yn ei amgylchynu, mae’n debyg’; gerbron y mae tomen lai, a chylch bychan; a’r cyfan wedi ei amgylchynu gan gylch mwy, sydd erbyn hyn yn anghyflawn, oherwydd i’r cerrig gael eu defnyddio i wneud waliau…

Ond bychanu disgrifiad Pennant wnaeth Richard Fenton, teithiwr arall i’r safle, tua 20 mlynedd yn ddiweddarach, yn 1813. Roedd hwn o’r farn mai safle cynhanesol oedd y lle. Dywedodd hefyd fod y cerrig o’r safle wedi eu codi a’u gosod yn y ffordd Rufeinig, Sarn Helen, sy’n rhedeg gyfochrog â’r safle. Roedd y cerrig na ddefnyddiwyd yn ymddangos fel cerrig cylch o amgylch y beddau, a cherrig y cistfeini wedi eu symud. Ni wyddai ddim am y cylch 52 troedfedd o ddiamedr o gwbl, meddai, gan led-awgrymu fod Pennant wedi dychmygu’r cyfan. 

...I'W BARHAU!

1.5.26

Mi gerddaf gyda thi

Cyfieithiad o I'll walk beside you a gyfansoddais ar gais cyfaill imi, oedd yn gofyn am gân i'w chanu yn angladd ei wraig yn Awst 2018. Hefyd yn berthnasol i minnau ar hyn o bryd, gan ei bod yn dair blynedd ers i mi golli f'annwyl wraig Beryl ym Mai 2023.

Mi gerddaf gyda thi dros lwybrau’r byd
A ninnau’n dau bob tro yn un o hyd;
Gan syllu arnat ti a dal dy law,
Mi gerddaf gyda thi beth bynnag ddaw.

Mi gerddaf gyda thi hyd oriau’r nos
O dan holl sêr y nen a’r wybren dlos;
A rhoddaf iti dyner gariad glân,
Mi gerddaf gyda thi i’r oriau mân. 

Mi gerddaf gyda thi dros siwrne faith
Drwy ddyddiau blin a braf, ar hyd y daith,
A phan ddaw’r machlud atom, ddyddiau pell,
Mi gerddaf gyda thi i fyd sydd well.

Nad-fi'n-angof; forget-me-not. Llun trwy drwydded Comin Creadigol CC0 1.0

 

18.3.26

Y Sesiwn Fawr

Ar raglen ar y weiarles, cyn toriad y wawr
Y clywodd Twm T'ucha am y Sesiwn Fawr;
Gwrandawodd yn astud, yn rong, hynny yw,
Am ddyfodiad y Sasiwn, er trymed ei glyw.
Hen lanc, bron yn neinti, un agos i'w le,
Yn sownd i'w gynefin, ac yn ddiarth i'r dre'
Oedd hwn; wedi cadw i'r llwybr cul,
Yn ffyddlon i'r moddion yn Salem bob Sul.

Dim ond camgymeryd llythyren wnaeth Twm,
'Roedd hynny'n naturiol, a'i glyw o mor drwm;
Mae acen Lanfachreth a'r fro, neno'r têd
Y dafodiaeth ryfedda' a glywir trwy'r wlêd.
Fel mae pawb yn yr ardal yn gwybod ynte,
Mae 'A' mewn sawl ystyr yn swnio fel 'E'.

Roedd yr ŵyl i'w chroesawu gan gapelwr fel fo -
Ni chynhaliwyd 'r'un Sasiwn fel hynny ers tro.
Fel un heb ddiddordeb ym mhethau y byd -
Wedi'i drwytho ar bregethau 'rhen gewri i gyd
Edrychai ymlaen, wrth roi'r tresi ar Pol 
Y ferlen, a'i gosod yn sownd yn y drol.

Gydag ef roedd ei Feibl (hen fersiwn, wrth gwrs,)
Llyfr Emynau, Atodiad, a phunt yn ei bwrs 
Ar gyfer y casgliad, gan ei fod o mor hael,
(At achosion enwadau mor hynod o wael.)
Roedd dewis Dolgellau'n ddelfrydol, yn wir,
Â'i gysylltiad â'r Crynwyr a chrefydd mor hir.

Wedi dychryn 'r'ôl teithio'r ffordd fawr ar ei hyd,
A rhyfeddu bod cymaint o geir yn y byd,
Cyrhaeddodd y Marian yn ddigon di-lol,
A holodd rhyw blismon lle 'ca'i i barcio ei drol.
"Mae'r dre' 'ma yn orlawn" atebodd y cop,
"Lle 'gosa 'di Ganllwyd, yn ymyl y siop".

I Twm, nid oedd hyn yn gwneud llawer o sens -
Cael Gŵyl Fethodistaidd ochr arall i ffens,
Ond cytunodd fod y Sasiwn yn wir, ddiymwad,
Yn dal yn boblogaidd gyda phobl y wlad,
Wrth weld y tyrfaoedd yn mynd ar eu hynt
Fel locustiaid yn hanes 'r'Hen Destament gynt.

Daeth geiriau'r sylwebydd, yn uchel ei lef,
Fel llais o'r anialwch, nid fel manna o'r Nef,
I atgoffa'r mynychwyr o'r arlwy o'u blaen, 
Ond dirgelwch o'r mwya', o hynny ymlaen
I Twm, oedd yn barod â'i Ganeuon Ffydd,
A'i borthiant o weddïau i'w gynnal trwy'r dydd.

Ni chlywodd erioed am y 'sgethwr Bryn Fôn,
Ai diwygwyr yw'r Moniars o Ynys Môn?
A phwy oedd y boi 'na o Benrhyn Llyn?
A'i brawd i Tom Nefyn, ymholai ei hun.
A phwy yw Twm Morys,- efengylwr o fri?
A ydi Meic Stevens yn Barchedig, D.D?

Siomedig gythreulig oedd yr ŵyl i'r hen frawd,
Wedi gweld beth oedd hanes y Sasiwn a'i ffawd.
Heb gael dweud yr un adnod na galw'r Amen,
Ac yntau yn uffern, a'r Diafol yn ben,
Hysiodd Poli tuag adre' i Dŷ Ucha yn syth,
A'i adduned yn datgan na ddychwelai o  byth
I'r SAsiwn yn Sodom; ac rwy'n sicr yn awr
Na welwn Twm eto'n y Sesiwn Fawr
 

15.3.26

I'r Pant y Rhed y Dŵr

Fe gafodd Twm ei eni
Yn lwcus, chwara' teg,
A llwyth o lwya' arian 
A sgleiniai yn ei geg;

Derbynodd holl fanteision
Y ddaear hon, o'r crud,
Heb fod erioed mewn angen,
Yn fodlon iawn ei fyd.

Ei gyfle ddaeth yn gynnar 
I flasu'r bywyd bras,
Pan briododd, yn ŵr ifanc
Ag unig ferch y Plas;
Fe etifeddodd gyfoeth
Y Major, a'i holl dir;
Y cwbl yn haeddiannol
A dweud yn hollol wir,
Am gael y weledigaeth
Mae'n rhaid edmygu'r dyn,
Am orfod rhannu gwely 
 dynes mor ddi-lun.

Dros lewyrch y blynyddoedd
Aeth hwn o nerth i nerth,
Ni allai gyfri'i ffortiwn,
Ni wyddai faint ei werth;
Drwy nawdd y sybsideiddio
A ffidlo ambell grant
Diddorol fydd tystiolaeth 
Ewyllys Twm i'w blant.

Fe werthodd, am ddwy filiwn,
Saith erw o dir gwael
I un ddaeth 'mewn i'r ardal, 
Rhyw Ianci eitha' hael,
A fu yn ddigon gonest
I dalu'r pris yn llawn
I goffrau Twm, oedd eisoes
Yn orlawn, orlawn iawn.

Onid yw'r byd 'ma'n greulon,
Mae'n anodd dallt y drefn,
A minnau'n ofergoelus,
Yn byw yn nymbar 7;
Er i mi weithio'n onest
Nid ydwi fymryn nes,
Rhaid cael y cash i ddechra' -
Mae pres yn magu pres;
Ac yma, yn fy nhlodi
Mi wn yn berffaith siwr
Mai gwir yr hen ddywediad,
'I'r pant y rhed y dŵr'.

13.3.26

Un ar ôl

Yma f’hun wyf yma druan,
Claf o serch yw ‘nghalon fechan,

Un ar ôl sy’n llawn o deimlad,
Lle bu dau yn llawn o gariad.
Unig ’rwyf ers iddi fyned,
Mawr yw’r ing, a mwy yw’r golled;
Llygaid trist yn llawn o ddagrau,
Anodd ceisio lleddfu’r angau.

Cerdd fach bersonol, yn cwblhau cwpled gan Iwan Morgan yng ngholofn Rhod y Rhigymwr, Llafar Bro, Mawrth 2026
 

15.2.26

Y Marina

Daeth cynllun uchelgeisiol
Rhyw gwmni mawr o'r De
I'w drafod a'i ystyried
Gan Gyngor Bach y dre'.
Ned Owen, hen Lafurwr,
(Ond Tori yw'n y bôn)
A roddodd y gwahoddiad
I'r cynllun,'nôl y sôn;
Hwn gredai'n gydwybodol
Y dylai fod yn ddeddf
I beidio gwrthwynebu
'R'un estron blan, o reddf.

Ei gyfaill, John 'r'Emporium
Oedd uchaf groch ei lais
Wrth feddwl am y siopa'
Yn elwa o bres y Sais;
Roedd o'n rhagweld armada
O forwyr tywydd braf
Yn hwylio yn eu miloedd
I'r strydoedd ym min haf.

"Anghofiwch egwyddorion
Hen ffasiwn, gwirion, ffôl
Am etifeddiaeth" meddai,
"A chymaint ar y dôl;
Os cawn ni gant o swyddi,
Wel, 'falla chwech neu saith,
Mi fasa'n hwb i'r ardal
Pa'r ots am foddi iaith."

Daeth llawer o gefnogaeth
I'r cynllun, 'n'ôl y drefn,
Drwy winc, a chodi dwylo
Y criw ddi-asgwrn-cefn;
A phasiwyd, bron yn unfryd
I dderbyn yn llawn ffydd
Y plan i gael Marina,
I'w ddechrau unrhyw ddydd.

Ond yna, daeth i sylw
Am broblem, nid un fach,
Sef sut i godi harbwr
I gychod neis y crach;
A thynwyd gwynt o hwyliau
Y cynllun ar y bwrdd
Am Farina mawr i 'Stiniog
A'r môr mor bell i ffwrdd
 

13.2.26

Ceffyl Blaen

(Mae angen un ym mhob cymuned!) 

Cyhuddwyd Ifan droeon o fod yn geffyl blaen;
Yn wir, bu'r cyhuddiada' yn dipyn bach o straen
Ar iechyd un mor ffyddlon i achosion da y wlad,
Ac un mor gydwybodol dros bopeth, neno'r tad.

Er gwreiddiau digon syml a thlodi'r dyddiau pell,
Fe wnaeth pob dim y gallai i wneud ein byd yn well,
'R'ôl byw o'r llaw i'r genau, â'i gefndir digon tlawd,
Fe roddodd hwn wasanaeth rhagorol dros ei frawd. 

Ceid geiriau hyll amdano, 'rhen gr'adur caib a rhaw,
Am  bry' sy'n codi ucha', ac am y lle y daw;
Cenfigen ydi'r cyfan, ac fe glywsom lawer tro
Am rai o blith y werin â'u cyllyll ynddo fo.

Nid am ei fod o 'stabal werth chweil, na'i bedigrî,
Nac am ei ddawn o arwain cymdeithas, am wn i,
Y daeth rhen Ifan yntau, dros gyfnod, 'deud y gwir,
Yn ffefryn efo'r lêdis, rhyw fath o stalwyn sir,

Wrth geisio gwneud cymwynas â gwraig y Garreg Lefn, 
Fe' i 'nafwyd wedi baglu dros riniog y drws cefn;
Ei aberth dros ei bobl sy'n rhwystr iddo'n awr,
A'i gloffni yn gyfarwydd wrth gerdded y Stryd Fawr.

Ni fu erioed yn canmol ei hun fel ciw o frid,
Na'i allu i genhedlu, na'i ddawn i godi spîd,
Ond, eto, er pob pob malais, y 'ceffyl blaen', a'i sgwrs 
Oroesodd yr holl rwystrau, a chwblhau y cwrs.

Ers iddo gael ei ethol ar bwyllgor bach y côr
A hynny ym mis Ionawr, yn neintîn ffiffti ffôr,
Fe aeth o werthwr raffls, i ddyn gwneud tê y criw,
I'r safle 'mae o heddiw, yn llywydd eitha' triw.

Bu'n flaenor ers blynyddoedd, yn frenin y Sêt Fawr
Yng nghapel bach Bethania, nes tynnu hwnnw'i lawr;
Aeth wedyn draw i'r Eglwys, fel warden arni hi,
A fo sy'n canu'r clychau ar Suliau, welwch chi. 

Efe yw ysgrifennydd, hen law y papur bro,
(Na fyddai yn bodoli heblaw amdano fo);
Mae hefyd yn drysorydd ar elusennau'r Llan,-
Mae'n anodd ffrwyno rhywun sy'n sefyll dros y gwan. 

Mae'n un o gewri'r pentra', a ddaeth i rym ar sail
Ei hir wasanaeth drosom, un solat, heb ei ail.
Ac nid am ista'n llonnydd, ac nid ar chwara' bach
'Daw dyn yn glarc ar Gyngor Cymuned Abergwrach.

Petawn i'n ddyn sy'n betio, fe roeswn bunt ar hwn
I'w ddewis yn archdderwydd, (mae'n fardd difai, mi wn)
A phetai o'n cael ei urddo, rhaid peidio bod yn syn - 
Mae rhai salach na 'rhen Ifan wedi llenwi'r swydd cyn hyn.

Fel pob ceffyl sydd yn ufudd, yn ffyddlon wrth ei waith,
Mae Ifan wrthi'n ddygn yn llwybro hyd y daith;
A'r merlyn gaiff ei chwipio, yr un sy'n llusgo'r drol
A wnaiff ei dasg heb wrgnach, yn dawel a di-lol.

I'r diawl â'r holl ymgecru, a deud yn ddigon plaen,
- I 'neud i betha' ddigwydd, mae'n rhaid cael ceffyl blaen -
Yr hoelen wyth sy'n weithgar, ac un dderbynia rôl
I dynnu'r mulod diog, sy'n llusgo y tu ôl.

6.2.26

Gwersylla

Annwyl Mam,
    Dyma'r llythyr, fel 'r'addewais i
am hanes y gwersyll yn Southend-on sea.

Fel y cofiwch, mi fu'm yn Llangrannog y llynedd,
gan ddilyn traddodiad dros bum neu chwe mlynedd, 
fel hogyn diniwed, yn aelod o'r Urdd
mor falch o'i dreftadaeth, a'r coch gwyn a gwyrdd.

A do, cefais ddigon o hwyl yn 'fan honno,
y swogs, Midnight Feasts, y cysgu a'r deffro;
y rhedeg, y baglu a chodwm dîn,
y pwll nofio, y gemau a'r trampolîn.

Ond wedi aeddfedu erbyn hyn, chwara' teg,

a minnau yn hogyn dros bedair ar ddeg,
cefais gyfle i fynd i ehangu gorwelion
a rhannu diwylliant â chyfeillion o Saeson.

Wedi cyrraedd de Lloegr, a'm bag dros fy ysgwydd,
cyflwynwyd fi'n fuan i'm ffrindiau o'r newydd.
Ac yna fe'm t'wyswyd dros weddill y camp,
ac yna i'r gwely, a hwnnw'n un damp.

Ond di-angen oedd poeni am bethau mor fach
a thamprwydd a chwain mewn awyrgylch mor iach.
Roedd pawb yn gyfeillgar tuag hogyn mor swil
ag enw mor syml a Chymreigaidd â Wil.

Oherwydd y cyffro, a hitha' 'di nosi
a finna' fel wimblad, yn troi ac yn trosi,
ce's gwmni dwy eneth yn f'ochor drwy'r nos,
rhai cynnes, groesawgar, 'Naughty Nita' a Rose.

Hen genod dymunol, twymgalon, siort ora,
â'm cadwodd yn effro nes gwawriodd y bora.
Ond, mam, ce's brofiada' y cofiaf tra'n fyw
am natur dynoliaeth a dynol ryw.

Fe ddysgais am love bites, a llawer iawn mwy,
mewn gwersi anffurfiol a roed gan y ddwy;
ond peidiwch a gofyn sut wersyll yw hwn,
nac am weithrediada'; am hynny ni wn.

Ni fum ar 'r'un ceffyl, na nofio'n y môr,
ni ymunais mewn gemau, na chanu'n 'r'un côr;
ond, diawcs, doedd dim pall ar yr hwyl gefais i
yn y gwersyll rhagorol yn Southend-on-sea.

Anfonaf fy llythyr â chofion cynhesa', -
mi wela'i chi rywdro y flwyddyn nesa'.
dwi'n falch ichi ollwng y ffrwynau 'na 'leni;
ac yn falch mod i yma,
            eich mab, William Henry. 

18.1.26

Ar Gerdyn Post

Annwyl Mam,

Dim ond gair bach reit sydyn -

Wedi cyrraedd yn iawn';
Torheulo bob bore
A chysgu'r prynhawn.

Er yr haul, mae'r hen blantos
Â'u hwynebau yn llwyd -
Methu'n lân â dygymod
Â'r sothach o fwyd.

Heblaw am y twrw
A'r stumog, a'r beil
Mae'r teulu a minnau'n 
Cael amser gwerth chweil,
Ond oherwydd y sunstrôc 
A'r poen yn y bol
Ni ddown ni byth eto
I'r Costa Del Sol.

Cofion, ar frys, 
Gwen.

16.1.26

Gêm o Ddau Hanner (Stori bron yn wir!)

Hanner Cynta'

Yn ystod Gorffennaf mil naw chwedeg pedwar
Cystadleuodd y Llan 'cw mewn gornest 'gyfeillgar'
Yn erbyn rhyw dîm o ochra' Manceinion
Ar faes wedi'i farcio ar gae rwdins Cors Wnion.

Dechreuodd y Saeson yn eu togs continental,
A ninnau, feidrolion, yng nghrysau'r siop gornal;
'Roedd ganddyn' nhw dalent, yn wir, chwara' teg, 
Gyda'u seren ddisgleiriaf yn Smith, eu rhif deg.

Fe gawsom ni wersi mewn chwara' pêl droed,
A hwythau'n llawn hyder yn pwyso'n ddi-oed;
Tra bo ni, yr hen wariars, fel ein teidia' gynt
Yn ceisio dygymod, yn cicio'r gwynt.

Roedd ymgais yr hogia' i rwystro'r pum gôl
Yn union fel ceisio troi'r llanw yn ôl
Ac erbyn hâff-teim, roedd yn edrych yn ddu 
Ar obeithion y Cymry yn erbyn y llu.
-------------------------------

Yr Ail hanner

Dros baned a ffag, fe gawsom bep-tôc, 
Rhag i'r Saeson ffroenuchel ein gwneud ni yn jôc;
Wil Huws, ein rheolwr, un brathiog ei eiria'
Â'n diawliodd, gan ddeud bod rhaid newid tactega'.

Cafwyd cynllun gan Wil ar sut i adfer y sgôr
-Nad oedd dim byd i'w wneud â ffôr-tŵ-ffôr,
Ond cynllun hen-ffasiwn, effeithiol dros ben
Ar sut i fygu talentau eu nymbar ten.

Wil Stalwyn, mawr, solet, ein cefnwr de
A gafodd yr arwydd i roi'r boi yn ei le;
A phan ddaeth y cyfle, fe gyflawnodd y gwaith
Heb fath o ymdeimlad, na chydwybod ychwaith.

'Doedd yno 'r'un cam'ra nac action replay
I ddangos i'r dyfarnwr be' aeth o'i le;
Dim ond eiliad a gymrodd y digwyddiad chwim
A loriodd y seren, a chododd o ddim.

I'r tîm o Fanceinion aeth pethau yn waeth
Wedi colli'r prif sgoriwr, a hwnnw yn gaeth 
Ar y fainc ar ei orwedd, wedi'r dacl unfair
(Ni allai o sefyll heb iws ei ddwy ffêr.)

Aeth y system ail-hanner yn ei blaen yn ddifai,
 niferoedd y tîm arall yn mynd yn llai;
Fe sgoriwyd saith gôl gan flaenwyr y LLan,
Wrth i'r gelyn cwympedig fynd 'lawr ym mhob man;

Dim rhyfedd ein bod ni yn griw ofergoelus,
Yn ein seithfed nef, yn bobol mor ffodus;
Mae saith yn rhif lwcus, i bawb ond i Saeson,
Fel y saith oedd yn glwyfus o'r tîm o Fanceinion.

Trwy chwarae yn galed a rhyfedd wyrth,
Fel yn hanes 'r'hen Samson, fe chwalwyd y pyrth,
A threchwyd y gelyn, a chafwyd cyfiawnder
Mewn gornest gofiadwy - y gêm o ddau hanner.

14.1.26

Iechyd a Diogelwch

Rhyw fwthyn diaddurn oedd nghartre' bach clyd,
Heb foethusrwydd o gwbl, na steil, na dim byd;
Codi dŵr glân, iachusol, o ffynnon fach hardd, 
Gyda chloset, (un â bwced), yng ngwaelod yr ardd.
Dim math o garthffosiaeth, na dim i'w ymdrin
Na phapur sidanaidd i sychu 'r'un tîn.

Bum yn byw yn gyfforddus, er braidd yn ddi-lun
Yn fy mwthyn hen-ffasiwn, ar ben fy hun.
Cefais lonydd i drigo, heb letrig na ffôn,
Ymhell o'r oes fodern (a'i boen, 'n'ôl y sôn),
Hyd nes styrbio fy heddwch - ni fedrwn ei 'sgoi,
Gan rhyw ddyn biwroctaidd, hen 'sglyfath o foi.

"Mae'n ddrwg gen i'ch 'styrbio fel hyn", meddai'r gŵr
"Dwi'n 'dod wythnos nesa' i destio eich dŵr".
(A bod yn reit onest, doeddwn i ddim yn dallt,
Fod 'na rywbeth yn rong, heblaw 'fod o'n hallt.)
"Y dwr yn eich ffynnon, dwi'n feddwl, siwr iawn,
Mi ddo'i ar ôl cinio, rhyw dro yn y p'nawn."

Roedd o'n ymddwyn fel Napoleon, yn wir, ar fy llw,
Gyda'i bwyslais ar doilet, a'i Water-loo.
"Ac mae'n erbyn y gyfraith i neb droi ei glôs
Mewn cwt nad yw'n fflyshio, a hynny'n y nos. 
Nid yw'r daith 'na i waelod yr ardd at eich lles,
A byddai pan wrth y drws 'ma yn llawer iawn nes." 


 

"A daeth cwyn gan rhyw Saeson eich bod yn ddyn ffôl
Ac yn iwsio'r Observer i sychu'ch pen ôl;
A mae hynny yn wrthyn, ac yn groes i ddeddf gwlad,
Ond cewch iwsio Y Cymro, heb gosb, neno'r tad.
Tydi hynny ddim yn torri deddf hiliaeth G.B.,
A dim ots am ypsetio rhai croendena' fel chi"?

"Y fi yw'r awdurdod, welwch chi",meddai'r ffŵl,
"A deddf yw gorchymyn, a rheol 'di rŵl;
Mae eich iechyd yn bwysig, mae'n deud yn fan hyn
Na chewch fynd yn sâl, mewn du a gwyn.
Mae rhaid ichi newid eich ffordd gyntefig o fyw,
I gael dod yn rhan normal o ddynolryw."

Bu raid imi wario rhai cannoedd, yn wir,
I gyd-fynd â holl ddeddfau Helth & Seffti y sir.
Mae'r lle chwech hynafol fu unwaith mewn bri, 
Fel geudy i'r teulu, a lle i bi-pi
Yn adfail, ers i minnau orfod dilyn y drefn,
A chael tap dwr a thoilet tu mewn i'r drws cefn.

Dwi wedi cael digon, fel pawb arall, mae'n siwr
O reola' am fwydydd, ac am ansawdd y dŵr;
Am wahardd chwarae concyrs, fel y dyddiau gynt;
Am sledio mewn eira, ac am ollwng gwynt.
Rhaid cael ffens rownd yr oriel mewn capel yn awr,
I atal hen gojars rhag disgyn i'r llawr.

Oes gennych chi drwydded i anadlu yr aer
Sy'n mynd drwy eich ffroenau, gofynnaf yn daer?
Mi fydd angen cael leisans i fyw, neno'r tad;
A chewch chi ddim marw heb gael caniatâd;
A'r dyn Helth and Seffti, nad oes ganddo ddim parch,
Fydd yn dweud yn derfynnol os y cewch fynd i'r arch.
- - - -

(Llun Carey Jones, Chwarel Bwlch)

 

9.1.26

'Dathlu Calan 2000', neu'r Milenium Byg

Cyflwynaf y gyfres hon o gerddi hwyliog fel rhywbeth i godi calon. Mae hon wedi'i chyfansoddi ar droad y ganrif.

Tra roedd pawb yn y wlad 'ma, â'u holl gybôl
Yn croesawu Ddydd Calan, rhai blynyddoedd  yn ôl,
Roeddwn i yn y selar efo'r teulu i gyd
Yn aros yn ofnus am ddiwedd y byd.
Roedd gennym ni ddigon o fwyd yn y lle
I borthi pob Cymro o'r gogledd i'r de,
I'n cadw ni'n fodlon am flwyddyn neu ddwy,
Ac emergency rations am lawer iawn mwy.

'Dach chi'n gweld, cefais gyngor gan gyfaill ryw dro
Am ddydd Armagedon oedd yn dod, medda' fo;
Yn ôl Nostradamus Methusala Smith,
Dim ond y rhai parod fyddai yma am byth.
Mewn sgwrs yn y dafarn, yng nghornel y snug,
Cyfeiriodd 'rhen gyfaill at y mileniwm byg,
Ac fel yr oedd peryg' i bawb sydd yn fyw,
Ac am effaith y chwilen ar holl ddynolryw.

Rhagwelai ddinistrio'r dinasoedd mawr
Yn chwilfriw, â'u gadael fel lludw, i'r llawr;
Proffwydai alanas dros wledydd di-ri',
Heb fath o achubiaeth, ond i deulu fel ni.
Tra roedd gweddill dynoliaeth i gyd yn mwynhau
Gweld dyfodiad y milflwydd yn brysur nesáu,
Roeddem ni dan y ddaear, fel tyrchod mewn tail,
Yn aros am y diwedd hyd Ionawr yr ail.

Ddigwyddodd 'na affliw o ddim, medda' nhw, 
Heblaw am ryw straen anghyffredin o flu;
A ninnau'n y selar, yng nghanol y chwain
Heb glywed 'r'un nodyn o Auld Lang Syne.
Mi gollais i noson arbennig, 'nôl rhai,
A phawb wedi 'joio'r dathliadau'n ddi-fai.
Ond fe ddysgais un wers, un sicr, mai myth
Oedd gair Nostradamus Methusala Smith.

Os y gwyddoch am rywun sydd eisiau, ar frys, 
Dwy dunnell o datws a phum cant tun pys, 
Siwgwr a menyn a chaws n'ôl berfâd, -
A llwythi o nwyddau fel hyn, ddigon rhad, 
Anfonwch air ataf, neu os caf fod mor hy'
Dewch draw gyda'ch cynnig, fe 'nabodwch y ty -
Yr un efo selar ym mhen ucha'r stryd,-
A hynny ar fyrder, cyn diwedd y byd.