Showing posts with label Chwarel. Show all posts
Showing posts with label Chwarel. Show all posts

12.12.25

Cerddi'r Chwarel -Llwch y Chwarel

Daeth diwedd y chwarel
Heb lawer o stŵr,
Mae’r felin yn dawel
A’r lefel dan ddŵr;
Yn dyst am ei beiau
Mae’r rwbel i gyd,
A pheswch ei gweithwyr 
A glywir o hyd.

Rhyw estron di-reswm
Fu perchennog y gwaith,
Hab barch at chwarelwr
Na chyd-ddyn ychwaith.
Nid oedd iechyd mor bwysig 
Ag angen y wlad –
Roedd pris uchel ar lechi
a bywydau yn rhad.

Am delerau anghyfiawn
Ac am gyflog mor wael
Rho’dd y cloddiwr ei lafur
I’r cwmni yn hael.
Aeth yn hen cyn ei amser
Dan bwysau y gwaith,
A’i gefn wedi camu
O’r llethu a’r llaith.

E’i gam yn arafach
A’i ysgyfaint yn drwch
O bowdr y llechi,
O effaith y llwch.
Aeth anadliad yn anodd,
Ei nerth yn gwanhau,
Beth yw’r ots gan y meistri – 
Mae’r chwarel ar gau

Bu’n diodde’ blynyddoedd
O ganlyniad y clwyf,
‘Nawr mae’n gorwedd dan garreg
Ym mynwent y plwyf,
A llechen yn gofeb
I gerflunydd y graig
A’r stad eto’n gwrthod 
Rhoi iawndal i’w wraig.

Ni ddyliwn anghofio
Annhegwch y byd,
Mae effaith y chwarel
O’n cwmpas o hyd.

- - - - - 

Cerdd a gyfansoddais ar gais rhai o rai o chwarelwyr yr ardal yn ystod streic 1985-86. 

Roedd ymgyrch cenedlaethol ar y pryd i geisio cael cyfiawnder ac iawndal i gyn-chwarelwyr oedd y dioddef o afiechydon yn ymwneud a thrin llechi.

Mae'r llinellau cyntaf i'w gweld ar y llechfeini ynghanol tref Blaenau Ffestiniog.

Ac mae'r gerdd ar gael yn y llyfryn 'Safwn Gyda'n Gilydd' 1986

5.12.25

Cerddi'r Chwarel - Adfeilion (chwarel Rhiwbach)

Fe welwn yr hagrwch
O'r chwalfa yn graith
Ar fwy na'r llygaid
Wedi darfod y gwaith,
Pan gwympodd y muriau i gyd, fesul un
I oferedd yfory’n bentyrrau di-lun.

A thybiwn im glywed
Dros chwibanu'r gwynt
Sŵn taro cynion
Yr hen hogia' gynt,
O weddillion y felin, a fu dawel gyhyd
Yn olion y cof, fel 'sgerbydau mud.

Ond wedi dryllio
Fy nychymyg brau,
Fe wyddwn innau
I'r seiliau wanhau,
A throais drachefn i gyfeiriad y Cwm,
Gan adael ar ôl yr adfeilion llwm.

Chwarel Rhiwbach ar y chwith, a Blaen Cwm. llun wedi'i dynnu o ffordd haearn Rhiwbach, gan Paul, y mab

14.11.25

Cerddi'r Chwarel - Diwedd Cymuned

Dim ond plwy’ bach Cymreig, mewn dyffryn di-nôd
Fu Penmachno i lawer, a hynny cyn dod
Y newid aruthrol ddaeth heibio ers tro,
I wyrdroi cymdeithas a iaith fy hen fro.

Lle bu, ers canrifoedd, fy hil ym mhob man, 
A phob un â’u gwreiddiau yn ddwfn yn y LLan
A’r Gymraeg ar bob tafod, mewn ysgol a gwaith,
Ond yn awr, mewn lleiafrif mae siaradwyr yr iaith.

Lle bu, ar un adeg, ei strydoedd yn llawn
O siopwyr cynhenid bob bore a ph’nawn,
A niferoedd y siopa’n ddau ddwsin, a mwy,
Nid oes bellach fasnachdy ar ôl yn y plwy’.

 

 

Nid oes gobaith ei adfer ‘n’ôl i’r dyddiau gynt,
Aeth delfrydau’n cyn-dadau ar goll yn y gwynt;
Ni fydd ond atgofion am r’hen ddyddiau ar ôl,
A’r hiraeth am hynny yn gwasgu’n fy ‘nghôl.

A phwy fu’n gyfrifol am y newid hwn?
A’i gwnaed yn fwriadol, i’n trechu, ni wn?
Ni ddaeth r’un achubiaeth wedi’r chwarel ’na gau,
A diwedd hen yrfa, ym mil chwedeg dau.

Diboblogi yr ardal ddaeth i bwyso yn drwm,
A dirywio yn gyflym wnaeth poblogaeth y Cwm;
Hen iaith, hen dafodiaith, ddiflanodd o’r clyw -
Roedd yn ddechrau y diwedd yr hen ffordd o fyw.

Nid fydd sôn am gymuned, fu mor gynnes a chlos,
Na’r ymdeimlad o berthyn i le, yn ddi-os;
Lle bu unwaith ‘rhen Gymry, a phob un â pharch
At gymydog a chyd-ddyn – aiff y cyfan i’r arch.

Erbyn hyn, rhaid cydnabod mai colli y dydd 
Wnaeth fy nelfrydau innau, a chollais fy ffydd;
Diflannu o’r golwg wna’r atgofion lu,
A ninnau, fel hwythau, ‘mysg y pethau a fu.

- - -  

Llun- Stephen Elwyn RODDICK / Cwm Penmachno / CC BY-SA 2.0

Cerddi'r Chwarel - Ddoe a Heddiw

Casgliad o gerddi anfonais i Steddfod Mynytho dro'n ôl, dan ffugenw 'Hen Rybelwr'

Coleg Min Nos

Pan oedd llethrau'r Llan yn gomin o gân,
a chornel y Ring yn un dras o greigwyr,
roedd dysg 'rhen ddyddiau'r caban yn adlais
o ffraethineb y bonc.

I ni â'n clustiau astud, roedd yno wynfyd;
glaslanciau'r pumdegau pell,
â'u bryd ar sathru'r drefn
a blasu'r dŵr aflan,
yma'n cowtowio i'r cymêrs
wrth inni fwrw ati i lowcio'r geiriau, 
heb reg yn 'r'un ynganiad.

Ninnau'n myfyrio yn haelioni'r hwyl,
ar lwyfan yr hen ddireidi, 
a Dei Wmffra'n diwtor arnom,
yn chwarae i'r gynulleidfa,
a'i draethu’n taro deuddeg.

Drag ar yr Wdbein, ac yna'r glec, ...chwerthin,
a'r dosbarth yn ei ddybla' 
yn heulwen haf erstalwm.

Yn ddisymwth...
'r'ôl galw'r corn gwaith i'r gro, 
disgynnodd y cyrten yn anterth y wers,
i ganslo'r anterliwtiau.

Heddiw,
yng ngweddillion y weirglodd,
mae'r hen le mewn trwmgwsg ers tro,
a chreithiau'r alltudiaeth yn aros
fel hen hollt ar lethr wag.

Dychmygaf, ym merddwr y cof,
ei gweld yn fintai wargam
     yn igam-ogamu rhwng pyliau o beswch 
i gyrraedd y fargen ddima';
Wil Lloyd, a'i drwsus ffustion liw ffurat
yn arwain y frigâd
yn araf a phwyllog i derfyn y daith.

Nid hawdd derbyn fy nieithrwch bellach,
rhwng ffiniau'r hen adnabod;
wylaf am yr hyn a ddaeth, am lwfdra ffawd, 
ac am fachlud y pelydrau pell.


Fy Hen Gymdogaeth

Erstalwm, a'r lle yn gnawd o gwmwd,
ar 'sgerbwd hen gynefin,
bu yma fwrlwm
o fyw am yfory.

Lle bu her yr addewidion
yn llenwi'r oriau
mewn lle nad oedd darfod yn bod.

Pob hewl a'i hafan o hwyl,
pob cornel yn helfa
i rannu'r wên 
o straeon cyn noswylio.

Erstalwm, ar erwau fytholwyrdd
roedd yno ardd Eden
o ddiniweidrwydd
am bethau'r byd.

Drannoeth y dihuno
a chodi gorchudd yr ystrydeb
am ddyfnder gwreiddiau,
y bu'r wers am 'sgaru had,
ac am y medi aflan.


Tro ar fyd

(Wrth weld hen chwarel lechi yn cael ei haddasu'n faes chwarae i estron anturiaethwyr na wyddent ddim am galedi’r dyddiau gynt)

Bob bore, dan wawd y domen lechi,
daw'r gwenoliaid yn fflyd,
ymysg sarhad o gwmni i grombil yr agor, 
i wrando ar sŵn dripian y dwr 
yn torri ar fudandod y gwacter.

Anturwyr ffug yng nghragen yr agor,
a'u dileit mewn creiriau rhydlyd;
- hen ebill heb dyllu ers tro
a chorryn o gadwyn yn pendilio
yr amser uwchben,
lle bu'n ddolen i greigiwr unwaith,
heddiw'n ddwylath o ddim.

I'r rhai hyn y mae'r twll yn we
i ymnadreddu drwyddo,
i'w tywys drwy wythiennau tanddaearol fy hepil,
a thros artaith y byrwyntog gynt. 

Heb orfod ymbaratoi
y bara llwyd o gynhaliaeth
dan gannwyll geiniog,
na phrofi chwerwder y smit,
maent yma'n paderu am yr hyn
nad yw ond eco iddynt.

Rhyw gogio porthi'r dyrfa
â phregeth am gwymp a chwalfa,
gan besgi ar dosturi'r plwy',
ac ar wely angau 'nghymdogaeth,
heb sylwi ar y gwlith yn hen lygad y graig,
a llygad hen chwarelwr.

Cerddi'r Chwarel - Cymdogaeth

Gan fy mod yn enedigol o ardal chwarelyddol, addas fyddai cynnwys rhai o fy ngherddi'n ymwneud á'r diwydiant hwnnw, sydd wedi hen ddiflannu o f'henfro.


Ni sylwai ar yr hagrwch
Yn y tomenydd llwm
O rwbel yr hen chwarel
Uwch pentre' bach y Cwm;
Roedd yn baradwys iddo fo
Wrth iddo lordio'i mewn i'r fro.

Ond ni all estron weled
Y graith sydd yn fy nghôl,
A minnau yn hiraethu
Am ddyddiau na ddaw 'n'ôl,
Pan oeddem ni, drigolion gwâr
Yn berchen ar ein milltir sgwâr.

Pentre' Rhiwbach

Dilynwch gyfres 'Cerddi'r chwarel' trwy glicio ar y label 'Chwarel' isod, neu yn y rhestr 'Themau' ar y dde. (Os ydych yn darlen hwn ar ffôn, efallai y bydd raid sgrolio lawr a chlicio 'web view'.)

 


25.7.25

Cerddi Cydwybod -Craith

Cerdd arall sy'n cyfleu fy nheimladau am y sefyllfa sy'n bodoli yng nghefn gwlad Cymru'n gynyddol y dyddiau hyn.

Ni sylwai ar yr hagrwch
yn y tomenydd llwm - 
gweddillion gwaith y chwarel
yn gysgod dros y Cwm;
roedd yn baradwys iddo fo
wrth iddo lordio'i mewn i'r fro.

Ond ni all estron weled
y graith sydd yn fy nghôl,
a minnau yn hiraethu
am ddyddiau na ddaw 'n'ôl,
pan oeddem ni, drigolion gwâr
yn berchen ar ein milltir sgwâr.



2.7.25

Cerddi Cydwybod -Dada

Cerdd i ‘Nhad, William Hugh Williams 1890-1941

Nid oedd ond meidrolyn;
ond i mi yn arwr i'w addoli,
yn eilun o Farcsydd y bonc,
hen rebal o rybelwr
a adawodd ei farc ar blant ei yfory.

Â'i gŷn, yn ei gwman, 
wedi oes o wthio a phlygu, 
nid i swyddog, 
ond i straen y fargen ddima;
yn farnwr diwyro 
na ildiai air i'r stiward a'i gachwrs gynffonwyr,
a phob wagan-gynta'r-ryn.

Mae rheiliau rhydlyd ar lethrau Rhiw Bach,
lle bu dada’n un o bererinion y graig,
fel petaent yn wylofain y dadfeiliad,
yn atgof o’r fintai foreuol
o’r werin wargam ar glip yr inclên;
cam wrth gam o besychu
adlais llwch y gwaith 
ar benglog o graig.

Prin yw'r cof amdano, a'r llun yn brinnach;
y darlun hwn, o lwch oesoedd,
lle mae'r dwylo'n datgelu'r cyfan
o artaith ei deithi; 
digofaint wedi lapio'n dynn
yn y byd brwnt oedd yn bod.
Y dwylo crog na blethwyd mewn gweddi
fyth wedyn,
drannoeth ei brofedigaeth,
ac yntau heb dduw na'i hatebodd.

Wyneb di-wên fel petai'n mesur
pob modfedd o annhegwch 
y lladrad a ddwynodd Rhys bach i fedd.

Rhychau’r talcen yn achwyn o’r cyni,
a’r sgerbydau gweigion fu’n rhythu’r niwl
o anwybodaeth am anhegwch, 
ac am gwestiynnau ddi-ateb,
pan daenwyd tawelwch fel carthen wlân
ar wely angau’r felin.
Gwelaf osgo’r crefftwr yn ei bileri o freichiau,
a llymder ei wyneb yn arllwys dicter un
â chysgod tlodi’n fythol gwmpeini iddo,
a llidiardau gobaith i gyd ar gau.

O reddf, yn hen athronydd
a’i angerdd am iawnderau’n ingol,
heb unwaith ganlyn unffurfiaeth y dorf
i fegio o goffrau plwy’,
nac ymbesgi ar frasder cnawd afiach.

I mi, roedd rhin yr arwr
a rhuddin ein hil ynddo,
er hir loes ei gaethiwed
ar erwau ein hangen ninnau,
a thyndra’r gadwyn angen.

'Dada' ydoedd i ni, y nythaid wyth cyw,
y platŵn o ufudd-dod
na feiddiai yngan air i'w groesi
wrth barêdio yn rheng at fwrdd
caban o gegin,
heb gŵyn am lwydni'r fwydlen 
wedi taw y corn gwaith. 

Heddiw, nid yw ond sgriffiad ar gofeb
o lechen lâs,
megis cip ar feini y gorffennol.

'Dada' ydoedd, a 'Dada' fydd,
a'i stamp wedi sticio arna'i,

              ... y rebal anorffenedig. 

 

17.2.25

Arwr

Ni fyddai byth yn trafod
am gwrs y byd, a'i hynt,
am angen, nac am gyni
a thlodi dyddiau gynt;
ond dysgais am ei werthoedd o,
heb gael, er eisiau lawer tro.

Fe wyddai am drallodion
ac am greulondeb ffawd
a ddaeth gerbron ei dylwyth,
a'i gyfyngderau tlawd;
er ei golledion lawer dydd
ni surodd ddim, na cholli ffydd.

Sut na fu iddo ddigio,
a pham na throdd ei gefn
ar anghyfiawnder bywyd
ac ar flinderau'r drefn?
Ymysg eilunod, ddau neu dri,
hwn oedd yn arwr mawr i mi.

Ac er fy holl gwestiynu,
ni chefais ateb 'chwaith;
o, na chawn eto gyfle
i'w g’warfod ar y daith;
fe ro'wn y byd i gydio'n dynn
yn llaw fy nhad i ofyn hyn.

- - - - -

Llun o chwarelwyr Rhiwbach, a dynnwyd ym 1938.

Ymddangosodd yn y papur bro yn yr 80au, un o ychydig iawn o luniau a welais o 'nhad William Hugh Williams (saeth).

Trwy gyd-ddigwyddiad rhyfeddol, mae Moss Wyatt, tad Beryl fy ngwraig ynddo hefyd (smotyn). Doedd yr un ohonom ni'n ymwybodol fod y ddau wedi bod yn gyd-weithwyr; fy nhad yn cerdded yn ddyddiol i'w waith o Benmachno, a Moss yn cerdded o'r Blaenau. Dyna ymroddiad!




18.1.25

Plwy’ Penmachno ddyddiau gynt

Cyfansoddwyd yr isod wrth sylweddoli y newid a ddaeth i gynefin fy ngeni wedi cau'r chwareli yng Nghwm Penmachno.


Tynged 'Cwm Carnedd'
(Stori wir; Gwel Awdl fuddugol Tilsley, Llangefni 1957)

Nid hawdd ydyw adrodd fy stori, frawd,
Am hanes cymdogaeth werinol, a'i ffawd;
Lle bu 'nhylwyth yn britho y 'Cwm cau',
Heddiw, i'w cyfri' yn un neu ddau.

-----------------------------------

Bu yno bron ddwyfil yn trigo un tro,
O Gymry cynhenid, o bridd yr hoff fro;
Cymeriadau anwylaf, a hen ŷd y wlad,
Heb achos i boeni am yr iaith, na'i pharhad. 

A pham rhaid gofidio am rhywbeth fel iaith
A dynion y pentre'n ddiogel mewn gwaith?
Nid oedd angen pryderu, roedd popeth yn iawn,
A'r chwarel yn ffynnu, a'r pocedi yn llawn;

Roedd yno wyth capel i gynnal y nwyf
O ddiwylliant ysbrydol, grefyddol y plwyf,
A chwe' ysgol ar gyfer y sawl oedd â chwant
Am rywfaint o addysg ar gyfer eu plant.

Cyflenwid anghenion y bobl i gyd
Dros gownteri stribedau o siopau y stryd,
Heb reswm i deithio i farchnad y dre'
Ond unwaith yr wythnos, petai galw ynte?

Dros rif y blynyddoedd, roedd meddyg ar gael,
A'i wasanaeth diflino i'w gleifion yn hael,
Gyda nyrs y gymuned - bu honno yn gefn,
Fel yr heddwas oedd yno i warchod y drefn.

Roedd yma fasnachwyr a chreftwyr di-ri',
A phob peth oedd ei angen at ein cynnal ni;
Dyma le diwylliedig, a ninnau i gyd
Mor falch o'n treftadaeth, mor fodlon ein byd.

Bu derbyn cymwynas yn rywbeth mor hawdd
 sgwrs rhwng cymdogion dros ymyl y clawdd.
A'r fro yn ddi-ymdrech yn gwarchod yr iaith,
Fel y gwnaed gan gyndeidiau ers amser maith.

Nid oes raid ymhelaethu, mae'r stori yn hir, -
Roedd yn bentre' llawn bwrlwm, ym mhen ucha'r sir;
Pob teulu yn ddedwydd, heb eisiau dim mwy -
Nid oedd sôn am alltudio 'mysg bobl y plwy'.

---------------------------------------------------------


Ond daeth diwedd y chwarel heb lawer o stŵr,
Aeth y felin yn dawel a'r lefel dan ddŵr.
Yn dyst am ei beiau, mae'r rwbel i gyd,
A pheswch ei gweithwyr a glywir o hyd.

Ond er ei gwendidau, bu'n gyfrwng i roi
Rhyw nerth i'r ffon-fara, ac i arian grynhoi
Ymysg y trigolion; ac wedi ei chau
Mae olion dirywiad yn dal i barhau.

Disodlwyd y gofaint, a daeth diwedd ar ddydd
O wasanaeth y pobydd, y teiliwr a'r crydd;
Gollyngwyd y gafael, aeth yr edau yn frau,
A llaciwyd y pwythau, yn lle eu tynhau.

Dau w'nidog a ficer, mor uchel eu parch -
Does 'r'un acw bellach, â chrefydd mewn arch;
Dim ond ugain o blant sy'n ateb y roll
Yn yr un ysgol gynradd sydd yno ar ôl.*

Aeth mwy 'dan y morthwyl na chymuned ar drai,
A'r mil o atgofion, pan werthwyd y tai;
Bu farw cymdogaeth ddiwylliedig a chre',
A hunllef ddiwylliant a ddaeth yn ei lle.

Lle bu lleisiau 'r'hen Gymry ar strydoedd y Llan
Geiriau estron a glywir yn awr ym mhob man;
Mae'n anodd dygymod...a theimlaf yr ing
O golli'r cwmpeini ar gornel y Ring.

    ---------------------

Daeth geiriau y Prifardd yn greulon o wir
Broffwydoliaeth o'r hyn fyddai'n digwydd cyn hir;
Cwm Carnedd a Thilsley ill dau sy'n y bedd,
Fel cymdeithas y plwyf, ar ei newydd wedd.

                         
  * Ar ddechrau’r 20fed ganrif ‘roedd cymaint â chwe’ ysgol yn y plwyf yn dysgu dros 400 o disgyblion.

Llan Penmachno –  Un Ysgol y Cyngor, agorwyd 1909 gyda 155 disgybl yn mynd drwy’r drysau ar y diwrnod cyntaf o’r hen ysgol eglwysig. Arhosodd 35 plentyn yn yr ‘Hen Ysgol’. Cyfanswm o 190 yn y Llan yn gyfan gwbl.  Y rhif uchaf yn Ysgol Cwm Penmachno oedd 117 ym Medi 1909. Ar yr un pryd roedd ysgol wedi agor ar gyfer plant oedd yn byw ym mhentre’ Rhiwbach, gyda 25 yn mynychu, a rhif tebyg yn Ysgol y Cyfyng, yng ngwaelod y plwyf. Defnyddiwd Capel Carmel i dderbyn niferoedd gormodol yn ysgol y Cym am gyfnod cyn y Rhyfel Mawr hefyd.