18.3.26

Y Sesiwn Fawr

Ar raglen ar y weiarles, cyn toriad y wawr
Y clywodd Twm T'ucha am y Sesiwn Fawr;
Gwrandawodd yn astud, yn rong, hynny yw,
Am ddyfodiad y Sasiwn, er trymed ei glyw.
Hen lanc, bron yn neinti, un agos i'w le,
Yn sownd i'w gynefin, ac yn ddiarth i'r dre'
Oedd hwn; wedi cadw i'r llwybr cul,
Yn ffyddlon i'r moddion yn Salem bob Sul.

Dim ond camgymeryd llythyren wnaeth Twm,
'Roedd hynny'n naturiol, a'i glyw o mor drwm;
Mae acen Lanfachreth a'r fro, neno'r têd
Y dafodiaeth ryfedda' a glywir trwy'r wlêd.
Fel mae pawb yn yr ardal yn gwybod ynte,
Mae 'A' mewn sawl ystyr yn swnio fel 'E'.

Roedd yr ŵyl i'w chroesawu gan gapelwr fel fo -
Ni chynhaliwyd 'r'un Sasiwn fel hynny ers tro.
Fel un heb ddiddordeb ym mhethau y byd -
Wedi'i drwytho ar bregethau 'rhen gewri i gyd
Edrychai ymlaen, wrth roi'r tresi ar Pol 
Y ferlen, a'i gosod yn sownd yn y drol.

Gydag ef roedd ei Feibl (hen fersiwn, wrth gwrs,)
Llyfr Emynau, Atodiad, a phunt yn ei bwrs 
Ar gyfer y casgliad, gan ei fod o mor hael,
(At achosion enwadau mor hynod o wael.)
Roedd dewis Dolgellau'n ddelfrydol, yn wir,
Â'i gysylltiad â'r Crynwyr a chrefydd mor hir.

Wedi dychryn 'r'ôl teithio'r ffordd fawr ar ei hyd,
A rhyfeddu bod cymaint o geir yn y byd,
Cyrhaeddodd y Marian yn ddigon di-lol,
A holodd rhyw blismon lle 'ca'i i barcio ei drol.
"Mae'r dre' 'ma yn orlawn" atebodd y cop,
"Lle 'gosa 'di Ganllwyd, yn ymyl y siop".

I Twm, nid oedd hyn yn gwneud llawer o sens -
Cael Gŵyl Fethodistaidd ochr arall i ffens,
Ond cytunodd fod y Sasiwn yn wir, ddiymwad,
Yn dal yn boblogaidd gyda phobl y wlad,
Wrth weld y tyrfaoedd yn mynd ar eu hynt
Fel locustiaid yn hanes 'r'Hen Destament gynt.

Daeth geiriau'r sylwebydd, yn uchel ei lef,
Fel llais o'r anialwch, nid fel manna o'r Nef,
I atgoffa'r mynychwyr o'r arlwy o'u blaen, 
Ond dirgelwch o'r mwya', o hynny ymlaen
I Twm, oedd yn barod â'i Ganeuon Ffydd,
A'i borthiant o weddïau i'w gynnal trwy'r dydd.

Ni chlywodd erioed am y 'sgethwr Bryn Fôn,
Ai diwygwyr yw'r Moniars o Ynys Môn?
A phwy oedd y boi 'na o Benrhyn Llyn?
A'i brawd i Tom Nefyn, ymholai ei hun.
A phwy yw Twm Morys,- efengylwr o fri?
A ydi Meic Stevens yn Barchedig, D.D?

Siomedig gythreulig oedd yr ŵyl i'r hen frawd,
Wedi gweld beth oedd hanes y Sasiwn a'i ffawd.
Heb gael dweud yr un adnod na galw'r Amen,
Ac yntau yn uffern, a'r Diafol yn ben,
Hysiodd Poli tuag adre' i Dŷ Ucha yn syth,
A'i adduned yn datgan na ddychwelai o  byth
I'r SAsiwn yn Sodom; ac rwy'n sicr yn awr
Na welwn Twm eto'n y Sesiwn Fawr
 

15.3.26

I'r Pant y Rhed y Dŵr

Fe gafodd Twm ei eni
Yn lwcus, chwara' teg,
A llwyth o lwya' arian 
A sgleiniai yn ei geg;

Derbynodd holl fanteision
Y ddaear hon, o'r crud,
Heb fod erioed mewn angen,
Yn fodlon iawn ei fyd.

Ei gyfle ddaeth yn gynnar 
I flasu'r bywyd bras,
Pan briododd, yn ŵr ifanc
Ag unig ferch y Plas;
Fe etifeddodd gyfoeth
Y Major, a'i holl dir;
Y cwbl yn haeddiannol
A dweud yn hollol wir,
Am gael y weledigaeth
Mae'n rhaid edmygu'r dyn,
Am orfod rhannu gwely 
 dynes mor ddi-lun.

Dros lewyrch y blynyddoedd
Aeth hwn o nerth i nerth,
Ni allai gyfri'i ffortiwn,
Ni wyddai faint ei werth;
Drwy nawdd y sybsideiddio
A ffidlo ambell grant
Diddorol fydd tystiolaeth 
Ewyllys Twm i'w blant.

Fe werthodd, am ddwy filiwn,
Saith erw o dir gwael
I un ddaeth 'mewn i'r ardal, 
Rhyw Ianci eitha' hael,
A fu yn ddigon gonest
I dalu'r pris yn llawn
I goffrau Twm, oedd eisoes
Yn orlawn, orlawn iawn.

Onid yw'r byd 'ma'n greulon,
Mae'n anodd dallt y drefn,
A minnau'n ofergoelus,
Yn byw yn nymbar 7;
Er i mi weithio'n onest
Nid ydwi fymryn nes,
Rhaid cael y cash i ddechra' -
Mae pres yn magu pres;
Ac yma, yn fy nhlodi
Mi wn yn berffaith siwr
Mai gwir yr hen ddywediad,
'I'r pant y rhed y dŵr'.

13.3.26

Un ar ôl

Yma f’hun wyf yma druan,
Claf o serch yw ‘nghalon fechan,

Un ar ôl sy’n llawn o deimlad,
Lle bu dau yn llawn o gariad.
Unig ’rwyf ers iddi fyned,
Mawr yw’r ing, a mwy yw’r golled;
Llygaid trist yn llawn o ddagrau,
Anodd ceisio lleddfu’r angau.

Cerdd fach bersonol, yn cwblhau cwpled gan Iwan Morgan yng ngholofn Rhod y Rhigymwr, Llafar Bro, Mawrth 2026