Ar ddiwedd y darn diwethaf mi soniais am un o weithwyr y bont, a garcharwyd am 15 mlynedd... dyma barhau'r hanes hwnnw.
Mae Tyddyn Cethin, cartre’ Gethin Jones, yn sefyll nid nepell o safle’r drosedd, Bryn Golau, Penmachno, lle trigai Henry Jones, un o Gerrigceinwen, Ynys Môn yn wreiddiol, a’i wraig, Anne, a’i blant. Byddai Henry, neu ‘Hari Ddu’ yn ôl ei ffugenw, wedi bod yn cyhuddo’i wraig o fod yn anffyddlon iddo ers tro, a helyntion rhyngddynt yn aml o’r herwydd. Beth bynnag, i dorri stori hir yn fyr, roedd plismon y pentra wedi cael ei alw i fyny i’w cartre’ ar fwy nag un achlysur i dawelu’r dyfroedd.
![]() |
| Bryn Goleu |
Wedi dod adre’ o’i waith ar y bont yn ddirybudd un pnawn, aeth Hari Ddu o amgylch y pedair tafarn ym Mhenmachno, a llenwi’i fol â’r ddiod gadarn. Erbyn amser cau, roedd yn feddw gaib, a chychwynnodd yn sigledig ar y daith filltir o hyd i fyny i Fryngola’. Pan gyrhaeddodd ei gartra, roedd y drws wedi’i gloi, a llais dyn i’w glywed oddi mewn. Yn ei gyflwr meddw, ciciodd Hari’r drws i lawr, gan feddwl rhoi curfa i garwr slei ei wraig. Ond wedi cael mynediad, ei dad-yng-nghyfraith oedrannus, Owen Griffith, oedd wedi dod i warchod ei ferch rhag cael curfa gan Hari oedd yno. Aeth yn ffrwgwd yn syth, a Hari’n dyrnu a chicio’r hen ŵr. Beth bynnag, llwyddodd ei dad yng nghyfraith i ddianc am adra. Ond ymhen wythnos roedd Owen Griffith yn farw wedi’r gam-driniaeth o ddwylo a thraed Hari Ddu.
Ymhen ychydig amser, yn Llys y Goron, Caernarfon, cyhuddwyd Henry Jones- Hari Ddu - o ddynladdiad. Roedd Hari’n amddiffyn ei hun yn erbyn y cyhuddiadau. Yn ystod yr achos gwnaeth y diffinydd ‘ddatganiad syfrdannol’ yn ôl adroddiadau yn y wasg Gymraeg, megis Y Faner, Y Genedl Gymreig a’r Herald Cymraeg, am anffyddlondeb ei wraig - a dwi’n dyfynnu rŵan – gyda gŵr adnabyddus o Benmachno. Gan fod Gethin mor uchel ei barch, yn amlwg, ni feiddiai’r un ohonynt ei ddinoethi’n gyhoeddus. Ond wrth ddarllen papurau wythnosol Cymreig a gyhoeddwyd yn Saesneg, megis y North Wales Chronicle, a adroddai am yr achos, fe enwyd Owen Gethin Jones fel y Romeo hwnnw.
Ategwyd yr amheuon am anffyddlondeb Ann ei wraig, a’r cysylltiad â Gethin, pan ddywedodd Hari yn y llys amdano’n deffro o drwmgwsg un noson, gan glywed lleisiau’n dod o hen dŷ gwag drws nesa. Wrth weld nad oedd Ann yn gorwedd wrth ei ochor, aeth i lawr y grisiau, a sylwi nad oedd yn y stafell fyw ‘chwaith. Aeth allan trwy’r drws i weld pwy oedd bia’r lleisia’n dod o’r tŷ gwag, a daeth ei wraig i’w gyfarfod allan o’r adeilad. Fel y datgelodd Hari i’r llys, dyma eiria Ann wrtho:
“Cer i dy wely Hari bach, rhag ofn i rywun dy weld yn dy grys nos, does na ddim byd yna wsti”
Ia, rhag ofn i rywun ei weld yn ei grys nos, am un ar ddeg yr hwyr, ganol gaea’ mewn llecyn anghysbell fel Bryngolau, heb fath o lwybr yn mynd heibio’r lle, a hithau fel bol buwch o dywyll!
Yn ddigon naturiol, cododd chwilfrydedd Hari, ac aeth ymlaen i mewn i’r tŷ gwag, gan glywed sŵn esgid yn crafu yn y simna’. Pwy oedd yno’n cuddio ond y dyn uchel ei barch yn y gymdogaeth – ia, dyna chi, - Owen Gethin Jones. Ac nid yn y simna’n chwilio am ‘slumod, nac yn arolygu’r gwaith plastro oedd o, am wn i.
![]() |
| Simdda Bryn Goleu |
Bu raid galw plismon y pentre’ i fyny i Fryngolau yn oriau mân y bora i dawelu’r dyfroedd, a Gethin wedi’i heglu hi am adra.
Yn y llys yng Nghaernarfon, er ei holl ymdrechion i geisio cyfiawnhau’r rhesymau dros yr ymosodiad ar ei dad-yng-nghyfraith, cafwyd Hari’n euog o ddynladdiad, a charcharwyd o i lafur caled am 15 mlynedd. Yn amlwg, doedd yr ymadroddiad crime of passion yn golygu dim y cyfnod. Mae hanes ei gyfnod yn y gwahanol garchardai yn fy meddiant, a thrist iawn oedd deall nad oedd Hari wedi cael cysylltiad o gwbl â’i wraig a’i 4 plentyn wedi hynny.
![]() |
| Hari Ddu yn y carchar |
Ym mhapurau wythnosol y cyfod, megis Baner ac Amserau Cymru, Y Genedl Gymreig, Yr Herald Cymraeg a phapurau eraill Cymraeg eu hiaith, ni enwyd Gethin Jones o gwbl, na’i ran fel un oedd wedi cyfrannu i’r rheswm dros ymosodiad a achosodd farwolaeth ei dad-yng-nghyfraith.
Yr unig awgrym a gofnodir yn y wasg Gymraeg am ran Gethin yn yr achos, ac anffyddlondeb ei wraig yw a dyfynnaf – “gyda gŵr amlwg o’r pentref.”
A dyna ragrith y wasg Gymreig ar y pryd. Oherwydd i Owen Gethin Jones fod yn ddyn mor flaenllaw yn y gymdeithas lenyddol a chrefyddol y cyfnod, ni feiddiai’r un golygydd fentro i’w enw gael ei grybwyll yn ymwneud â’r achos.
Mewn cyfnod pan oedd mwyafrif llethol o drigolion pentrefi a threfi Cymru yn uniaith Gymraeg, dim ond lleiafrif bychan o’r boblogaeth a darllenai golofnau’r Carnarvon & Denbigh Herald a’r Cambrian News, y North Wales Chronicle a’r papurau newyddion a argraffwyd yn yr iaith fain. Ac yn y papurau hynny yr enwid y Romeo hwnnw fel Owen Gethin Jones.
- - - - - - - - -
Y TRO NESA'- Rhan olaf hanes Gethin, Dyn y Bont
(Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn 43, 2024 Rhamant Bro, cylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, yn dilyn sgwrs roddais iddyn nhw)


