Ail ran cyfres fer am safle hanesyddol ym Mro Ffestiniog
Efallai mai W.H.Hancock, ar ei ymweliad â’r safle yn ystod yr 1850au cynnar a wnaeth yr archwiliad swyddogol, cyflawn gyntaf o Feddau Gwŷr Ardudwy. Cyhoeddwyd ei adroddiad yn y cylchgrawn safonol Archaeologia Cambrensis yn 1851. Cyfeiriodd Hancock at adroddiad Edmund Gibson yn ei Britannia, a ddywedodd fod 30 o feddau i’w gweld yno yn nyddiau Gibson, (17eg ganrif), ac i eraill, yn fwy diweddar gyfeirio at dri dwsin o feddau. Ond ar ddyddiad ymweliad Hancock dim ond dwy garreg fedd oedd yn dal i sefyll, a dim un bedd arall i’w weld o gwbl. Cafodd gwmni ‘an intelligent peasant,’ oedd yn byw nid nepell o’r safle i’w arwain o amgylch y lle. Roedd y peasant hwn, neu hon, wedi trigo gerllaw'r beddau ers trigain mlynedd a mwy, ac wedi ymweld â’r safle hynafol gannoedd o weithiau, ac yn gwybod yn iawn am y chwedl a’r traddodiad a berthynai iddi. Ni chofiai weld llawer o gerrig beddau yno, ond efallai fod ryw ddwsin, a dim mwy wedi bod yno.
![]() |
| Awyrlun o'r safle, rhwng Tŷ Nant y Beddau ar y chwith, a'r gwaith trin dŵr ar y dde |
Roedd Hancock yn sicr o’r farn fod beddau wedi bod yno ar un adeg, a’u bod yn ymddangos mewn dwy gylch hirgrwn, ac wedi eu hamgylchynu â wal gerrig. Doedd dim gweddillion wal i’w gweld yn ystod ei ymweliad, heblaw ychydig o gerrig oedd i’w cael ar wyneb y tir yma ac acw. Nid oedd unrhyw drefn yng ngosodiad y beddau, meddai, gan ddweud mai ryw droedfedd oedd hyd y ddwy garreg oedd yn weddill, a’r ddwy yn cynrychioli dau fedd gwahanol. Ar y pryd, ‘doedd yr un garnedd i’w gweld, fel yr adroddwyd gan eraill o’i flaen. Nid oedd olion o lawer o gerrig o amgylch ‘chwaith, gan fod llawer wedi eu cario ymaith i godi adeiladau a waliau. Yr oedd ychydig olion o gloddio ysgafn wedi bod yno rywdro, heb fod lawer o amser yn ôl, meddai, ond ni welodd unrhyw dystiolaeth fod cyrff wedi eu codi oddiyno, na dim gweddillion eraill. Gwnaeth sylw prin o’r ffaith fod y beddau naill ochr i’r hen ffordd Rufeinig, Sarn Helen, ac roedd hynny’n awgrymu iddo mai beddrodau milwyr Rhufeinig oeddynt, a dim i’w wneud â’r chwedl enwog.
Cafwyd ateb i amheuaeth W.H.Hancock fod rhywfaint o gloddio wedi bod yno, a hynny, mae’n debyg’, dim ond ychydig amser cyn ei ymweliad â’r safle rhywdro yn 1851. Cyhoeddwyd llythyr gan un ‘Mervinian’, o Mona, dyddiedig 15 Ionawr 1851, yn y Carnarvon and Denbigh Herald a ddatgelodd ei fod o, a ffrind iddo wedi cloddio i rai o’r beddau, i ddyfnder o dair i bedair llath. Mewn ffaith, dyma’r dystiolaeth gynharaf, ar ddu a gwyn, o unigolion yn cyfaddef iddynt wneud archwiliad trwy gloddio i’r beddau. Er eu harchwilio, ni ddaethpwyd ar draws yr un stone coffins or bones yno. Ond yr oedd y ffaith fod pridd gwahanol i’w weld yn dangos ei fod wedi ei gymysgu ar ryw adeg.
Cyhoeddodd Harry Longueville Jones, un o sefydlwyr y Cambrian Archaeolegical Association, a chyd-olygydd y cylchgrawn archeolegol adnabyddus, sy’n dal i fynd, Archaeologia Cambrensis (Arch. Cambs.) erthygl swmpus dan y testun ‘Preservation of Welsh Antiquities’ yn y cylchgrawn hwnnw yn rhifyn Hydref 1853. Wrth drin y dinistr oedd yn dod i ran rhai o’r hen safleoedd hyn yng Nghymru, roedd ganddo hyn i’w ddweud:
Un a lofnododd ei enw fel ‘Cambrensis’ a ysgrifennodd lythyr, gyda’r dyddiad 13 Chwefror 1865, i’r Archaeologia Cambrensis. Roedd hwn wedi bod ar daith gerdded yn olrhain Sarn Helen drwy’r ardal, ac wedi sylwi ar safle Beddau Gwŷr Ardudwy. Cadarnhaodd hwn eto mai dim ond olion digon anweledig, ar y cyfan, oedd ar gael yno'r adeg honno. Roedd o’r farn hefyd fod y beddau wedi eu hagor, a’u dinistrio gan, yn ei iaith ei hun: hunters after curiosities - not archaeologists - several years ago.
I'w barhau!
