7.8.26

Helyntion Adeiladu Pont Gethin

Rhan 4 hanes Owen Gethin Jones

Yn ei anterth, cyflogid dros 1,100 o weithwyr yn gyfan gwbl ar y cynllun dros gyfnod y gwaith rhwng 1874 ac 1879. Oherwydd i’r chwareli lleol gyflogi rhai miloedd tua’r un amser, roedd prinder gweithwyr lleol yn golygu ei bod yn orfod ar y contractwyr ar y gwaith gyflogi nafis o bob rhan o Brydain ac Iwerddon. 

Oherwydd natur afreolus llawer o’r nafis hyn, roedd yr ardal wedi ei newid i le tebyg i’r gorllewin gwyllt dros gyfnod y gwaith mawr. Byddai’r tai potas yn yr ardal yn gwneud busnes mawr, a’r nafis yn gwario pob dima’ a enillwyd ar y ddiod feddwol, a thrigolion agos at eu lle Dolwyddelan yn gorfod diodde’ meddwdod, cwffio a thor-cyfraith yn rheolaidd. 

Yng nghysgod y bont yr oedd Gethin a’i griw yn gweithio arni, roedd tafarn, a elwid yn Fish Inn, oedd yn fan cyfarfod rheolaidd gan y nafis. Ac oherwydd oriau agor y dafarn honno, sef chwech o’r gloch – na, nid gyda’r nos, ond yn y bore, roedd nifer o’r nafis yn chwil yn cyrraedd y gwaith ar y bont, yn uchel uwchben afon Lledr, a hynny’n fater o gonsyrn i Owen Gethin Jones. Roedd yn trefnu ambell steddfod fechan, neu gyfarfod llenyddol ar bwys y bont ar gyfer y nafis, a cheir adroddiadau yn y wasg amdano’n cynnal un ym mis Ionawr un flwyddyn.  Ond dwi’n dal i ddeud y byddai fil gwell gan y nafis fod yn eistedd yn yfed cwrw o flaen tanllwyth o dân yn y Fish Inn na chael eu trwytho mewn diwylliant Cymraeg ar fore rhynllyd o Ionawr. 

Ond mi gafodd Gethin syniad un diwrnod, a phrynu’r dafarn, a llosgi’r drwydded. Roedd yn argyhoeddedig mai dyna oedd y can punt gorau iddo wario ar y gwaith, ac ni chafodd drafferth gyda gweithwyr meddw wedi hynny, a chwblhawyd contract Pont Gethin ar amser. 

 

Ond eto, oherwydd prinder gofod, rhaid gadael y rhan hon o hanes Gethin, gan geisio egluro ystyr teitl fy llyfr ‘Owen Gethin Jones, ei fywyd a’i feiau.’ Rwyf wedi bras gyfeirio at ran o’i ‘Fywyd’, ond beth am ei Feiau?  

Do, fe wnaeth sawl gelyn iddo’i hun trwy amryfal ffyrdd. Er iddo fod yn Gymro i’r carn, a’i achau’n mynd yn ôl i wreiddiau’r Esgob William Morgan ym Mhenmachno, a hwnnw’n hawlio perthynas â llinach tywysogion Gwynedd o’r 12fed ganrif, roedd Gethin, fel gŵr busnes, yn arddel Torïaeth, yn hollol groes i Ryddfrydiaeth y mwyafrif llethol o drigolion Penmachno a Dyffryn Conwy’r cyfnod. 

Byddai adroddiadau yn y wasg yn aml amdano’n mynychu cyfarfodydd gyda’r Torïaid a chrachach bonedd y Dyffryn. Doedd hynny ddim yn ei anwylo tuag at y chwarelwyr lleol yn sicr.  Cafodd ei gyhuddo gan drigolion Penmachno o arall-gyfeirio’r ceffyl haearn o ddyffryn Machno, a’r llewyrch fyddai’n dod yn ei sgîl, gan gyfeirio’r lein drwy Ddyffryn Lledr a Do’ddelan. Ond doedd gan y creadur ddim rhan yn y penderfyniad hwnnw- cwmni rheilffordd L.N.W.R oedd yn gyfrifol am hynny. Ond Gethin gafodd y bai. Mewn oes, ac ardal mor ddirwestol â Phenmachno’r cyfnod, er iddo arddel dirwestiaeth am gyfnod, roedd yn hoff o godi bys bach yn achlysurol, ond yn sleifio’i mewn i’r tafarnau drwy’r drws cefn. Doedd hynny ddim yn plesio swyddogion a’i gyd- aelodau’n nghapel Bethania’r Wesleaid yn y Llan o gwbl.

Ond roedd un rheswm arall i’w gyfoedion lleol droi yn ei erbyn, a hwnnw’n rheswm dilys dros ben, fel y cewch weld.  Yn ystod un o fy nifer fawr o ymchwiliadau i hanes fy mhlwy genedigol, mi ddois ar draws hanes dyn-laddiad ym Mhenmachno yn Chwefror 1875,  a’r gwaith ar y lein yn ei anterth. Hanes am un o weithwyr codi’r bont, a garcharwyd am 15 mlynedd am y drosedd,  a welais ym Maner ac Amserau Cymru.

Wrth wneud ymholiadau o amgylch y pentre’ doedd neb arall o Benmachno’r adeg hynny wedi clywed am yr hanes. Roedd y stori wedi’i chladdu’n gyfleus gan gymdeithas gul yr 1870au, cyfoedion Gethin, rhag codi cywilydd ar y gymuned, efallai...

- - - - -

TRO NESA: Hanes dadleuol Hari Ddu