Rhan un o gyfres newydd
Gan fy mod wedi cofnodi ychydig hanes Owen Gethin Jones yn codi Pont Gethin yn yr 1870au, dyma geisio dod â hanes y nafis a fu’n rhan o’r cynllun i gwblhau’r rheilffordd rhwng Betws y Coed a’r Blaenau yn ystod yr un cyfnod.
Pwrpas y cofnodion hyn ydi i geisio ail-greu'r awyrgylch a fodolai yn yr ardal dan sylw yn ystod adeg hynod gyffrous yn hanes Do'ddelan. Ond cyn imi symud ymlaen mi f'aswn yn leicio cyfeirio ychydig at gefndir y gontract fawr o agor y rheilffordd o'r Betws i'r Blaenau, ac yna mi awn ymlaen i drafod hanes y nafis, a'u heffaith ar ardal dawel, agos at ei lle fel Do'ddelan tua chwarter ola'r 19ganrif.
Ond yn gynta', be ydi, neu be' oedd 'nafi'? Wel, mae'r gair 'nafi' yn deillio o'r enw navigator a gyflogid yn wreiddiol ar adeiladu'r camlesi a flaenorai oes y rheilffyrdd. Roedd rhai cannoedd o nafis wedi bod wrthi dros drigain mlynedd ynghynt yn gweithio ar ffordd fawr Telford - yr A5, oedd bron yn cyffwrdd â gwaelod Dyffryn Lledr ger y Betws. Ni ellir ond disgrifio eu harferion mewn lleoedd fel hyn fel isel iawn, fel y gwelwn yn y man. Ond, wedi dweud hynny, ni ddylid peintio pob nafi gyda'r un brwsh, 'chwaith. Yn wir, gwnaed adroddiad gan yr heddlu i ystusiaid Bangor yn ystod gwneud y rheilffordd yn yr ardal honno fod wyth i ddeg o fyfyrwyr coleg (Normal) a oedd yn lojio ym Mangor yn fwy o drafferth iddynt na'r oll o chwe i saith gant o nafis a gyflogid ar y lein o fewn terfynau'r ddinas ar y pryd. Ond…nid Bangor oedd Do'ddelan!
| Nafis Pont Gethin |
Roedd lein y Llanrwst & Bettws-y-coed Railway wedi cyrraedd Betws yn 1868, a bu'r syniad o estyn y lein i Stiniog ym meddyliau cwmniau rheilffyrdd y cyfnod ers tro. Y fasnach lechi oedd y prif atyniad, wrth gwrs, ond roedd potensial y fasnach deithwyr o beth oedd ar y pryd yn un o ardalaoedd mwya' poblog Gogledd Cymru yn dynfa hefyd. Byddai dyfodiad y lein hon, a'r un o gyfeiriad y Bala i'r Blaenau yn ergyd drom i'r Lein Fach. Fel y dywedodd y Caernarvon & Denbigh Herald (CDH) ym Mai 1879, a'r cynllun bron ar orffen.. .
'The traffic of the new line will be chiefly mineral, and will be drawn from the Ffestiniog slate quarries, the profitable monopoly so long enjoyed by the Portmadoc railway being now swept away.'
Cymaint y galw am wasanaeth rheilffyrdd i'r dre, fel y bu cynllunia' i gael cysylltu'r Blaena' â lein y Cambrian yn Nhalsarna hefyd ar y pryd, ond ddaeth dim o'r syniad hwnnw.
Ond, lleoliad daearyddol y Blaenau oedd yr anfantais fawr i'r cynllun o'r Betws, a'r angen am arbenigedd beirianyddol yn enfawr. Mi oedd yna gynllunia' wedi bod ar y gweill i fynd â'r lein trwy Benmachno yn wreiddiol, a'r fasnach lechi sylweddol yno, ynghyd â phoblogaeth tipyn uwch na Do'ddelan ar y pryd. Ond, roedd y cynllun hwnnw hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol na chynllun Dyffryn Lledr, ac yn y pen draw, pasiwyd Deddf Lywodraethol yn 1872 i ddewis y llwybr hwnnw, er mawr hyfrydwch i Ddo'ddelan. Ac ac er colled enfawr i Benmachno….ond oedd hi, mewn difri'?
Y tamaid cynta' o newyddion yn ymwneud â chychwyniad y cynllun i estyn y rheilffordd o'r Betws a welir yw'r un yn y Cambrian News ar y 29ain o Dachwedd 1873. Yn ôl yr adroddiad hwnnw, dyna pryd y cychwynwyd ar y gwaith ar y twnel, pan yr oedd rhwng 60-70 o ddynion yn gweithio ar y siafftia' awyru ar ochr Do'ddelan i Foel Dyrnogydd. Y contractwr gwreiddiol ar gyfer y gwaith i gyd oedd Owen Gethin Jones, nad oes raid i mi ymhelaethu ar ei orchesta', i chi, o bawb. I'r sawl ohonoch sy' wedi trafferthu prynu, neu ddarllen fy nghyfrol ar Gethin, fe gofiwch iddo brisio'r gwaith o wneud y lein i gyd, gan gynnwys y bont aruchel a'i hanfarwolodd, a'r twnel, y stesions a phopeth am £120,000.
Ond, roedd y graig mor galed ar Foel Dyrnogydd fel y bu raid i Gethin, heb y cyfarpar iawn ar gyfer drilio'r graig, roi gora iddi, a gorfu i gwmni rheilffordd y London and North Western Railway gyflogi dynion yn uniongyrchol i gario 'mlaen. Bu raid prynu dril pwrpasol, a oedd wedi bod ar ddefnydd mewn twnel o dan yr Alpau i oroesi'r graig galed ar Foel Dyrnogydd. Beth bynnag, bu helynt rhwng Gethin a'r LNWR, a thynnodd yn ôl o'r gontract fawr i gyd, gan wneud rhannau ohoni, gan gynnwys Pont Tan'rallt- Pont Gethin heddiw.
Fel yr elai'r gwaith ymlaen ar y lein, felly y cynyddodd yr adroddiada' newyddiadurol am weithgaredda'n ymwneud â'r gwaith, ac nid bob amser yn newyddion da, fel y gwelid. Roedd cyflwyno cymaint o newydd-ddyfodiaid, llawer ohonynt gyda safonau moesol digon amheus, i ardal mor grefyddol, agos at ei lle fel Do'ddelan y cyfnod yn ddim llai na chwyldro, a deud y gwir. Cymaint gonsyrn aeloda' Llys Chwarter Sir Gaernarfon nes y bu raid penodi plismon ychwanegol i gadw llygaid ar yr oddeutu 900 o nafis, ar gyfartaledd, a weithient o fewn y gymdogaeth.
Nid yn unig yr oedd cymdeithas y plwy' yn teimlo effaith cyrhaeddiad contract y lein, roedd ffyrdd a phontydd y lle yn teimlo'r pwysa hefyd, a gorfu i'r LNWR wario ar gryfhau Pont y Llan yn No'ddelan oherwydd y drafnidiaeth drosti. Ond, wedi deud hyn, roedd ysbryd o obaith am ddyfodol llewyrchus i'r ardal yn bodoli mewn sawl man oherwydd dyfodiad y rheilffordd; cymaint felly fel y cychwynwyd ymgyrch yn y plwy' gan neb llai na Mr Williams, asiant chwarel Prins Llywelyn i gael ysbyty i wasanaethu'r ardal, ac fe addewidwyd arian gan nifer o bwysigion y dyffryn tuag at ei chodi a'i chynnal.
"Mae dynion o bob man yn dod yma i gael gwaith ar y rheiffordd" meddai un adroddiad yn y Cambrian News, gan gyfeirio hefyd at y tywydd difrifol a ddioddefwyd ar y pryd. "Mae'r nafis wedi'u gorfodi i roi gora' i'w gwaith ers dyddiau oherwydd y glaw. Mae nifer ohonynt ar fin newynnu" meddai'r gohebydd yn ei adroddiad Saesneg, ac mewn dewis anffodus o eiriau, "they are a class of people that do not lay anything by for a rainy day."
Aiff ymlaen yn bregethwrol gan obeithio iddynt ddysgu gwers o hyn, ac i sobrwydd ac nid y ddiod gadarn reoli yn y dyfodol. Mor ddychrynllyd o naïf oedd y gohebydd hwnnw.
- - - - - - - - -
Y tro nesa: prinder llefydd i'r nafis fyw, a'u harferion yfed y ddiod gadarn!