Pennill fach a yrrais i golofn Rhod y Rhigymwr yn ein papur bro- Llafar Bro, yn ymateb i'r dasg o ychwanegu at y gwpled 'Diwedd Mawrth bu raid i ninnau / Ufuddhau i droi ein clociau...'
Diwedd Mawrth bu raid i ninnau
Ufuddhau i droi ein clociau
Awr ymlaen, ac awr yn hynach,
Awr fydd ran ohonom bellach,
Awr i’n hebrwng at yfory,
Awr yn nes at ryddid Cymru!
| Rali Annibyniaeth, Wrecsam, Gorffennaf 2022 |
| Fi, Bethan y ferch, a Paul, un o'm meibion, efo'n baneri. |