(Mae angen un ym mhob cymuned!)
Cyhuddwyd Ifan droeon o fod yn geffyl blaen;
Yn wir, bu'r cyhuddiada' yn dipyn bach o straen
Ar iechyd un mor ffyddlon i achosion da y wlad,
Ac un mor gydwybodol dros bopeth, neno'r tad.
Er gwreiddiau digon syml a thlodi'r dyddiau pell,
Fe wnaeth pob dim y gallai i wneud ein byd yn well,
'R'ôl byw o'r llaw i'r genau, â'i gefndir digon tlawd,
Fe roddodd hwn wasanaeth rhagorol dros ei frawd.
Ceid geiriau hyll amdano, 'rhen gr'adur caib a rhaw,
Am bry' sy'n codi ucha', ac am y lle y daw;
Cenfigen ydi'r cyfan, ac fe glywsom lawer tro
Am rai o blith y werin â'u cyllyll ynddo fo.
Nid am ei fod o 'stabal werth chweil, na'i bedigrî,
Nac am ei ddawn o arwain cymdeithas, am wn i,
Y daeth rhen Ifan yntau, dros gyfnod, 'deud y gwir,
Yn ffefryn efo'r lêdis, rhyw fath o stalwyn sir,
Wrth geisio gwneud cymwynas â gwraig y Garreg Lefn,
Fe' i 'nafwyd wedi baglu dros riniog y drws cefn;
Ei aberth dros ei bobl sy'n rhwystr iddo'n awr,
A'i gloffni yn gyfarwydd wrth gerdded y Stryd Fawr.
Ni fu erioed yn canmol ei hun fel ciw o frid,
Na'i allu i genhedlu, na'i ddawn i godi spîd,
Ond, eto, er pob pob malais, y 'ceffyl blaen', a'i sgwrs
Oroesodd yr holl rwystrau, a chwblhau y cwrs.
Ers iddo gael ei ethol ar bwyllgor bach y côr
A hynny ym mis Ionawr, yn neintîn ffiffti ffôr,
Fe aeth o werthwr raffls, i ddyn gwneud tê y criw,
I'r safle 'mae o heddiw, yn llywydd eitha' triw.
Bu'n flaenor ers blynyddoedd, yn frenin y Sêt Fawr
Yng nghapel bach Bethania, nes tynnu hwnnw'i lawr;
Aeth wedyn draw i'r Eglwys, fel warden arni hi,
A fo sy'n canu'r clychau ar Suliau, welwch chi.
Efe yw ysgrifennydd, hen law y papur bro,
(Na fyddai yn bodoli heblaw amdano fo);
Mae hefyd yn drysorydd ar elusennau'r Llan,-
Mae'n anodd ffrwyno rhywun sy'n sefyll dros y gwan.
Mae'n un o gewri'r pentra', a ddaeth i rym ar sail
Ei hir wasanaeth drosom, un solat, heb ei ail.
Ac nid am ista'n llonnydd, ac nid ar chwara' bach
'Daw dyn yn glarc ar Gyngor Cymuned Abergwrach.
Petawn i'n ddyn sy'n betio, fe roeswn bunt ar hwn
I'w ddewis yn archdderwydd, (mae'n fardd difai, mi wn)
A phetai o'n cael ei urddo, rhaid peidio bod yn syn -
Mae rhai salach na 'rhen Ifan wedi llenwi'r swydd cyn hyn.
Fel pob ceffyl sydd yn ufudd, yn ffyddlon wrth ei waith,
Mae Ifan wrthi'n ddygn yn llwybro hyd y daith;
A'r merlyn gaiff ei chwipio, yr un sy'n llusgo'r drol
A wnaiff ei dasg heb wrgnach, yn dawel a di-lol.
I'r diawl â'r holl ymgecru, a deud yn ddigon plaen,
- I 'neud i betha' ddigwydd, mae'n rhaid cael ceffyl blaen -
Yr hoelen wyth sy'n weithgar, ac un dderbynia rôl
I dynnu'r mulod diog, sy'n llusgo y tu ôl.