15.4.25

Trin Cerrig, Rhan 5

Parhau â'r gyfres am gerrig y fro, gan aros ar y Migneint 

Ar ochr dde i’r ffordd, tua chwarter milltir i gyfeiriad Penmachno/Ysbyty Ifan o Lyn Dubach, ychydig wedi chwarel Croes Ddwy Afon, daw creigiau i’r golwg a elwir yn Cerrig yr Ieirch. (SH426758) 


Mae hyn yn ein hatgoffa am fath o geirw bychain, Roebuck yn Saesneg, ‘Iwrch’ unigol, oedd yn troedio’r Migneint yn y fan hon y dyddiau fu. Yn amlwg, diflannodd yr anifeiliaid hyn o’r ucheldir yma lawer blwyddyn yn ôl. Ond erys yr enw, diolch am hynny. Mae enwau anifeiliaid ac adar ar greigiau a mannau eraill y Migneint yn arwyddocâol hefyd. Cawn yr enwau Bryn yr Hyrddod,  Clogwyn y Wenci, Nant yr Ŵyn, Cerrig Llwynogod, Pwll Hwyaid a Charnedd y Frân ar rannau eraill o’r mawndir uchel hwn, ynghyd â’r nifer o’r pile of stones a godwyd gan ein hynafiaid yma ac acw am wahanol resymau. Ond gwelir cerrig eraill heb fod ymhell o ‘Stiniog, sydd â chysylltiadau hanesyddol yn mynd yn ôl ganrifoedd. Rhai ohonynt yn rhan bwysig o chwedloniaeth ein cynefinoedd, a’r storïau’n mynd â ni yn ôl i oesoedd ein cyndeidau’r dyddiau gynt. 

Oddeutu hanner milltir i gyfeiriad Ysbyty Ifan o Ffynnon Eidda mae pont fechan yn croesi nant mewn man a elwir yn Rhyd y Cerrig Gwynion. (SH436769) 


Yn naturiol, mae’r enw hwnnw yn treiddio’n ôl i gyfnod cyn codi’r bont. 


Roedd y rhyd ar lwybr a ddefnyddid gan deithwyr dros y canrifoedd, megis  porthmyn a’u hanifeiliaid ar eu teithiau i farchnadoedd Lloegr hyd at ganol y 19 ganrif. Mae’r cerrig cwarts gwynion i’w gweld o amgylch y rhyd, ac ambell rai wedi cael defnydd fel meini i’r bont fechan. Yn y gyfrol Methodistiaeth Dwyrain Meirionnydd,  ac ambell ffynhonnell arall, ceir cyfeiriad o gyfarfod crefyddol yn cael ei gynnal yng Ngorffennaf 1808 mewn lle o’r enw ‘Corlan Mynydd Gwynion’ ar y Migneint. Roedd hyn yn nyddiau cynnar Methodistiaeth yn yr ardal, a’r deffroad crefyddol yn ei anterth. Dyfynnaf o’r erthygl, dan bennawd Cyfarfod Mawr ar fynydd Migneint yn 1808.

    ...Yn  Sasiwn y Bala, Mehefin, 1808, cynlluniwyd i gadw Cyfarfod Ysgolion ar ben Mynydd Migneint ar y Sabboth cyntaf yn Ngorphenaf (sic.) Yn ôl y cynllun, yr oedd y ddwy fintai i gyfarfod ar y mynydd, ysgol Ffestiniog i ddyfod at Dynewydd y mynydd, ac ysgol Ysbytty ar gorlan Mynydd Gwynion...

Aeth yr awdur ymlaen gyda mwy o fanylion parthed yr ysgol Sul arbennig honno, gan ychwanegu bod yno oddeutu tri chant o fynychwyr. Er nad yw’r enw Corlan Mynydd Gwynion yn gyfarwydd i ni erbyn heddiw, gwyddom mai enw arall ar Ffynnon Eidda yw’r Tŷ Newydd y Mynydd y cyfeirir ato. Er nad oes prawf o hyn, tybiaf mai sôn am y cerrig gwyn yn Rhyd y Cerrig Gwynion - chwarter milltir o’r ffynnon a wneir yn yr erthygl.
- - - - - - -

[Dolen at Rhan 1 y gyfres]