23.5.25

Trin Cerrig, y rhan olaf!

Dyma gyrraedd rhan olaf y gyfres, gan obeithio eich bod wedi cael boddhad o'i darllen. Cyfres o ddarnau ar gerrig nodedig lleol, yn seiliedig ar sgwrs i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog (tymor 2022-23) ac erthygl a ymddangosodd wedyn yn Rhamant Bro, cylchgrawn flynyddol y gymdeithas, yr unig un o'i bath yn y Gymraeg.

Carreg sydd bellach wedi mynd yn angof braidd yw’r un a gofnodwyd mewn erthygl gan y diweddar Ernest Jones yn Y Cymro (3 Tachwedd 1961), ac a ymddangosodd yn Rhamant Bro 2019, yw’r un ar bron pen uchaf ffordd Bwlch Gorddinen - y Crimea. Mae hon yn hynod am yr ugeiniau o enwau ysgrifwyr y gorffennol a gerfiwyd arni. 

Gan fod nifer o bobl yn cerdded y ffordd hon rhwng ‘Stiniog a Dyffryn Conwy, ymhell cyn agor y llinnell reilfordd gerllaw, byddai’r llecyn hwn yn gyfleus i orffwys cyn cario ’mlaen â’r daith. A dyna reswm i ddod â’r gyllell boced allan, a gosod enw’r teithiwyr yn daclus ar garreg a ddaeth megis cofeb i rai oedd yn rhan o’r genhedlaeth a fu yn y broydd dan sylw.

A chyda lwc, mae chwedlau’n ymwneud â’r cerrig a’r creigiau hyn yn dal i fod yn destun i gadw’r hen arferion yn fyw.  Pan fyddai’r bedair wyres a’r ŵyr cariadus sydd gen i yn dod draw acw i ‘weld nain a taid’ pan oeddynt yn llai, byddai’n arfer yn aml iddynt berswadio taid i fynd â nhw am dro i lawr i lwybrau Cwmbowydd gyfagos. 

Un o’r hoff deithiau oedd dilyn y llwybr o waelod y cwm i fyny tua Thyddyn Gwyn, a chael llawer o hwyl fel arfer yng nghwmni’n gilydd. Ar ben isa’r llwybr mae carreg wastad ar ei draws, a phant yn ei chanol. Un diwrnod, dyma un o’r plant yn tynnu sylw ati, a minnau’n ceisio creu ychydig o ddiddordeb yn eu mysg, gan gyfeirio at y siap, a’r maint, ac ati, a gofyn iddynt ddyfeisio enw arni. 

Ymhen dim, roeddynt wedi dod i gytundeb ymysg ei gilydd, ac wedi cyffelybu’r garreg i ffurf soser. A Charreg Soser  (SH453703) yw’r enw a roddwyd arni, tua ugain mlynedd, neu fwy, yn ôl bellach, a dyna’r enw a gaiff bob tro y bydd unrhyw un ohonom yn troedio dros y garreg hon ar lwybr Cwmbowydd. Gobeithio y caiff ei galw felly gan ein disgynyddion hyd ddydd y farn!      
- - - - -

RHAN 1