20.5.25

Trin Cerrig, Rhan 8

Yn uchel i fyny’r llethrau, ar y ffin rhwng plwyfi Penmachno ac Eidda saif murddun unig o’r enw Yr Wylfa, lle, ar un adeg, trigai William Jones a’i ddau frawd – tri o hen lanciau, gyda’u mam weddw – a William druan wedi ei gofnodi fel lunatic ar fanylion cyfrifiad 1891. 

Mae hanes amdano yn ardal Penmachno fel crefyddwr gorffwyll, ac wedi colli’i ben yn llwyr â chrefydd. Roedd, er pan yn ifanc, wedi byw trwy ddiwygiad mawr 1859 ac un 1904-05, a dylanwad rheiny wedi bod yn drech arno. Er yn byw mewn lle mor anghysbell, byddai’r teulu’n mynychu capel Ebeneser, ym Mhenisa’ Penmachno yn rheolaidd. Ond mynnai William ddatgan ei deimladau dwys mewn modd anarferol yn unigrwydd y mynydd-dir uchel ger ei gartref. Tua hanner milltir o’r Wylfa, daeth ar draws darn o graig fechan o garreg las, a’i hwyneb yn ddigon llyfn iddo allu torri geiriau o’r Ysgrythur arni. Dyma oedd cysegrfa - teml breifat Wil, lle cai lonydd i geisio cysylltu â’i Dduw trwy lofnodi ei enw a darnau o adnodau o’r Beibl gyda chyllell ar y garreg. Yn amlwg, treuliodd oriau lawer ar ei bengliniau yma yn unigedd y mynydd yn cerfio a gweddïo. 

Y Garreg Adnod

Er treigliad nifer fawr o flynyddoedd ers hynny, mae’r geiriau a gerfiwyd arni yn dal yn hollol glir hyd heddiw. Gwelir yr arysgrifau ...Na ladd;  Iesu a Wulodd; Popl bach Towch yma; O Ous i Ous ac eraill a gamsillefir hefyd yn dysteb o ddatganiadau ysbrydol gŵr a ymgollodd ei hun yn ei grefydd. Er mai ond ychydig o bobl a ŵyr am leoliad y garreg unigryw hon, mae’r Garreg Adnod (tua SH507816) yn rhan annatod o hanes lleol yr ardal honno.

Dros y blynyddoedd rwyf wedi arwain ambell unigolyn a chriw i weld y garreg, a bu i un ohonynt, Arwel Emlyn Jones, gyfansoddi tri englyn am ei brofiad o gael cyswllt â’r Garreg Adnod. Dyma’r olaf o’r tri:

O naddu’r unigeddau – a gosod
      hen gysur ar greigiau,
down o hyd i’r adnodau
a’i eiriau Ef sy’n parhau.

Yn dilyn erthygl a ‘sgwennais mewn cylchgrawn rai blynyddoedd yn ôl, a ddaeth i sylw’r sylwebydd teledu. Wil Aaron, bu i’r Garreg Adnod gael sylw cenedlaethol, pan ddarlledwyd ei hanes ar raglen un noson.

Rhyw ddwy filltir ar draws y dyffryn y rhan isa hwn o blwy’ Penmachno, ger ffermdy hynafol Coed y Ffynnon, saif carreg arall sy’n rhan o chwedloniaeth yr ardal honno, sef y Maen Siglo (tua SH532803).

Bu hon ar goll i nifer am rai blynyddoedd, wedi i’r Comisiwn Coedwigaeth blannu’r felltith goed conifferaidd o amgylch Coed y Ffynnon. Ond wedi peth chwilota, daeth Paul, fy mab, a finna’ o hyd iddi, ac mae llun gennym yn rhywle o Paul yn ei dringo. 

Y Maen Siglo

Diolch i drefn, ymhen ychydig fisoedd wedyn, torrwyd y coed, a daeth y Maen Sigl i’r golwg i bawb oedd â diddordeb ynddi. Mae sawl stori’n ymwneud â hon. Eto trown at eiriau Owen Gethin Jones i gael blas ar yr hyn oedd yn adnabyddus yn ei fro ei ddyddiau ef. Awn am dro yn ei gwmni, a chael cyfarwyddiadau, eto yn ieithwedd ei ddydd:

...Dyma ni yn awr yn ymyl y Maen Siglo, Coed y Ffynnon; ac yn ei daraw yn ei dalcen a chareg lled fawr nes yw yn ysgwyd fel corsen, er ei fod yn llawer o dunelli o bwysau. Saif hwn ar graig noeth, a dywed traddodiad yr arferi grynu bob tro y canai y gloch; a diamau fod yma addoliad yn cael ei gyflwyno gan y Derwyddon...

Sôn am gloch yr eglwys oedd Gethin uchod, ac er bod eglwys bresennol y plwyf yn Llan Penmachno, tua dwy filltir i fyny’r dyffryn, a mwy o safle’r Garreg Siglo, mae awgrym fod eglwys arall gerllaw wedi bod yn y dyddiau gynt. Islaw Coed y Ffynnon, saif gweddillion annedd a elwir yn Buarth Taneglwys, neu ‘Buarth Tan’glws ar lafar, sy’n awgrymu bod hen eglwys arall wedi bod o fewn tafliad carreg i’r Garreg Siglo. 

Cyfansoddodd y bardd enwog lleol o’r 16 ganrif, William Cynwal englyn i’r Maen Sigl. A dyna brawf bod y chwedl am y garreg ar gael ym Mhenmachno yn ganrifoedd yn ôl. Dyma ddywed Cynwal yn ei englyn:           

Ai hwn yw’r maen graen gryno llwydwyn
     Rhwng Lledr a Machno?
Geill dyn unig ei siglo,
Ni chodai fil a chwedyn fo.

A dyna sy’n arbennig am yr hen ddywediadau gynt, ac yn ychwanegu at naws yr hen chwedloniaeth y dyddiau fu i’r safleoedd hyn. Maent yn enghreifftiau da o sut y bu i’r enwau hynafol hyn ar ambell garreg gael eu cofnodi gan haneswyr lleol yr amser a fu. Mae yma ymdrech i ddangos y rhesymau dros fedyddio’r cerrig a’r creigiau hyn, a’r chwedlau wedi eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth dros ganrifoedd di-rif. 

A dyma’r gymwynas fawr a wnaeth haneswyr lleol y dyddiau gynt â ni, y sawl sy’n dal i ymddiddori yn chwedloniaeth ac enwau lleol ein cenedl. Yn sicr, mae yna nifer nad ydwi wedi cyfeirio atynt, ac mae nifer wedi mynd yn angof dros y blynyddoedd. Byddai’n gymwynas fawr i haneswyr heddiw, a’r dyfodol, petawn ni i gyd yn mynd ati  i restru’r enwau sydd ar gerrig fel hyn, sy’n nodweddion arbennig o’r fro, a phob bro arall yng Nghymru.