Rwyf wedi gwirioni ar enwau lleol ers tro, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny yr ydw i’n gyfarwydd â hwy. Mae pori trwy hen fapiau yn obsesiwn, bron, gennyf. Yn aml, byddaf yn dod ar draws enw neu gyfeiriad ar yr hen fapiau ’ma nad oeddwn wedi sylwi arnynt gynt. Yna, rhyfeddu at yr enwau hyn, a cheisio dyfalu pwy fedyddiodd y ffos/afon/cae/bryn/llwybr neu beth bynnag â’r enwau. Mae rhai yn dyddio’n ôl i’r Oesoedd Canol, a chynt.
Yng nghyfrol Owen Gethin Jones, Gweithiau Gethin, (1884) mae’r awdur yn trafod enwau nifer o gaeau ym mhlwy’ Penmachno, ac ar dudalen 255, mae’n cyfeirio at un yn benodol. Wrth fynd â’r darllennydd ar daith drwy’r plwy’ mae’n dod at Ddôl Pen y bryn – gelwir hi eto gan hen bobl yn 'Ddôl y Muriau Poethion'.
Aiff Gethin yn ei flaen i ychwanegu bod yno fyddin wedi bod unwaith (un Gymreig) yn gwersyllu, ‘a bod yma adeiladau coed, pryd y taniwyd hwy gan y Saeson’. A dyna sylfaen enw’r cae ‘Dôl y muriau poethion’, lle llosgwyd yr adeiladau a’r cloddiau pren o’u hamgylch. Aeth ymlaen i ddweud bod y Cymry wedi gorfod encilio o’r gwersyll tanllyd i gyfeiriad lle saif Pen y bont heddiw, lle bu brwydr fawr, a choncrwyd y Saeson. Dywedodd bod caeau ym Mhen y bont ers yr adeg honno yn cael eu galw dan yr enwau arwyddocaol Cae’r Piser hir, Pant y trensiau a Dôl handy bwa. Roeddwn yn cymryd diddordeb yn yr enwau, ond yn amau safbwyntiau Gethin ychydig, a’i ddychymyg rhamantaidd.
‘Gadlas Ddôl’ oedd yr enw ar ‘Ddôl y muriau poethion’ gennym ni, drigolion Penmachno yn fy nghyfnod i yno, a chynt, am wn i. Mae’r cae gerllaw Pont Oernant, sy’n croesi afon Machno. Nid oedd dim byd arbennig am Gadlas Ddôl y cyfnod hwnnw, heblaw iddo fod yn lle da i fynd i bysgota’r afon.
Efallai mai un o’r ffynonellau gorau o enwau lleol yw’r mapiau degwm a gofnodwyd ym mhob plwy’ yng Nghymru. Mae’r rhai o Benmachno yn dyddio’n ôl i 1842, ac yn drysorau o hanes lleol. Ynddynt ceir enwau pob eiddo yn y plwy’, ynghyd ag enwau’r perchenogion, tenantiaid, a maint pob cae a phob darn o’r eiddo yn ystod 1842. Hefyd, nodir ffeithiau eraill yn ymwneud â’r ochr drethiant ac ati’r eiddo. Ymysg enwau caeau Pen-y-bryn, Penmachno ar y map Degwm y flwyddyn honno gwelir cae, ychydig dros 11 erw o faint o’r enw Dôl y Mieri poethion, sy’n codi mwy o gwestiynau!
Ond, rhai blynyddoedd yn ôl bellach, a minnau ar un o ’nheithiau ymchwilio yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth y dois ar draws yr enw hanesyddol hwn ar gae ym Mhenmachno ymysg tiroedd oedd yn cael eu gwerthu yn 1586. Yn y ddogfen, (Wigfair 536) gwelais brawf o’r hyn yr oedd Gethin wedi’i gofnodi yn Gweithiau Gethin, bron i dri chant o flynyddoedd yn ddiweddarach, o fodolaeth cae o’r enw Dôl y Muriau Poethion yn y plwy’.
Felly, dyna brawf pendant o fodolaeth darn o dir oedd wedi ei fedyddio ag enw oedd yn bodoli yn yr 16 ganrif, ac yn debygol yn mynd yn ôl ganrifoedd cyn hynny. Ac yn fwy perthnasol, yn profi bod yr enw efallai yn cyfeirio at ryw ddigwyddiad lleol, a’r hanesyn lleol wedi goroesi ar lafar ymysg y trigolion am o leia tair canrif.
A dyna reswm arall i’r dychymyg ofyn y cwestiwn pwy oedd yr unigolyn hwnnw a roddodd enw ar gilcyn o dir bro Machno a barhaodd dros y canrifoedd.