24.3.25

Trin Cerrig, rhan 2

Dim ond crafu’r wyneb wna’i gyda’r gyfres hon; dim ond cyfeirio at rai o’r cerrig rydw i’n gyfarwydd â hwy. 

Ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn golygu rhywbeth i mi. Gwn fod nifer ohonoch yn gwybod am enwau cerrig eraill, sydd wedi tynnu eich sylw’n bersonol.  Felly gofynaf ichi geisio rhoi manylion amdanynt ar gof a chadw, er mwyn cadw rhan bwysig o draddodiadau lleol yn fyw. Felly, dyma finna’ am gychwyn yr hyn sy’n wybyddus i mi: 

Cyfeirir at gerrig yn lleol mewn enwau adnabyddus ar greigiau megis Carreg Blaen-Llym, (SH442665) ger Llyn Stwlan, sy’n ddisgrifiad o’r pigyn main ar y copa, mae’n debyg. Eto, mae Carreg Flaenllym  uwchben Rhiwbryfdir, yn agos at Graig Nyth y Gigfran. 

Yna’r Garreg Ddu, (SH461702) craig sy’n gysgod ar ganol tre Blaenau, yn dywyll ei lliw, a’i natur. Roedd yn dywyllach nag arfer dros haf 2019, yn dilyn y tân niweidiol fu’n llosgi am gyfnod maith ym mis Gorffennaf 2019. 


 Mae Carreg Lwyd, (SH426731) yn Llan Ffestiniog yn enw ar fferm a’r mynydd gerllaw, a’r enw’n egluro’i hun. Gwelwn gyfeiriad at nifer o enwau lleol yn cynnwys y geiriau ‘Clogwyn’ a ‘Chraig’ neu ‘Maen’ hefyd. Ond ceiso canolbwyntio at y geiriau Carreg a Cherrig ydw’i am wneud am y tro.

 


Ym mhen uchaf Cwm Teigl mae Bwlch Carreg y Frân (SH449722) yn adnabyddus fel rhan o’r olygfa ar y daith o ‘Stiniog i gyfeiriad chwareli Bwlch Slatars a Chwt y Bugail, Blaen Cwm a Rhiw Bach. Ac ydi, mae’r frân a’i theulu’n  hoff iawn o loetran ar garreg, neu gerrig y bwlch.

Mewn ffaith, roedd y llwybr hwn yn bwysig iawn i deithwyr a phorthmyn gyda’u gwartheg neu foch dros flynyddoedd maith. Ar un adeg, dyma un llwybr uniongyrchol dros y ffin i Benmachno, ac ymlaen drwy Gapel Garmon i Lanrwst a’i marchnad. Yn ddiweddarach, dyma’r llwybr a addaswyd i gario llechi chwarel Rhiw Bach i gwrdd â chychod yng Nghei Cemlyn ar yr Afon Ddwyryd tua 1830, a throi Bwlch Carreg y Frân yn rhan bwysig o drafnidiaeth fasnachol y fro.
- - - - - 

Rhan 1