Rhan olaf stori'r Nafis ac adeiladu Pont Gethin a'r rheilffordd rhwng y Betws a'r Blaenau
Yn 1879, a'r gwaith yn No'ddelan wedi gorffen i gyd, a masnach wedi gwanhau'n arw, cwynodd Elis o'r Nant, yn rhagrithiol "Mae amser caled wedi gostwng llawer o deuluoedd, digon cefnog gynt, i fegera…" Roedd petha' cynddrwg fel y bu i'r tirfeddianwr lleol, y Farwnes Willoughby De'Eresby gyfrannu £10 tuag at gynnal cegin gawl -soup kitchen - yn y pentra'. Gofynnodd Thos Dougall y contractwr i'r pobydd lleol roi bara am ddim i'r tlodion, ac yntau'n cyfrannu punt i'r pwrpas hwnnw, gydag addewid am bunt arall ymhen yr wythnos. Gwerthai ambell siopwr fara chwecheiniog am rôt. Fel y dywedai un adroddiad "Daw'r ymwelwyr yma i gardota, nid i roddi. Mae cardotwyr yn bla yma. Daw'r crwydriaid yn ôl ac ymlaen. Mewn cyfnod da, roeddynt yn gweithio, yn ennill cyflogau da, ac yn ei wario fel petai dim yfory…"
Erbyn Mai 1879 rhoddwyd ugeniau mwy o ddynion ar y clwt yn wythnosol, ac effeithiodd y wasgfa ariannol ar fasnach yr ardal yn arw, a busnesau'n mynd i'r wal yn rheolaidd; Gwelid methdaliadau rif y gwlith, a'r siopwyr i gyd yn 'dead broke' yn ol y Cambrian News. Pan ddaeth Tachwedd y flwyddyn honno, a'r lein ar agor i deithwyr ers canol haf, roedd Elis o'r Nant yn isel ei ysbryd o ddifri ynghylch y sefyllfa ariannol. Er dymuno gweld cefnau'r nafis yn clirio o'i annwyl fro am byth dros gyfnod eu hymweliad â'r ardal, roedd yn orfod arno gydnabod eu cyfraniad i economi gwlad y gwcw. "Mae masnach yn wael", cwynai, "Does dim adfywiad i'w weld eto. Mae nifer o ddynion da a gweithgar yn ddi-waith." Ac er ei ohebu tanbaid yn erbyn y ddiod feddwol, ac am y rhai a fynychai dafarnau lleol, roedd ganddo hyn i'w ddweud yn y Cambrian News yn Nhachwedd 1879: "Sefyllfa Masnach: Mae masnach wedi chwalu, yn enwedig yn y llefydd yfed, mae amserau caled ar y ffordd i'r sawl sy'n cadw gwestai. Ni all pobl fforddio yfed…"
Yr Ionawr canlynol, cododd elusen ei ben unwaith yn rhagor yn y pentra' wrth i gannoedd o lo gael ei ddosbarthu am ddim i dlodion y plwy'. Ar ben gwaredu staff o'r lein yn lleol, roedd yr economi cenedlaethol dan straen hefyd, a'r chwareli lleol i lawr i bedwar diwrnod o waith yr wythnos, yn lle'r chwech arferol, ac yn talu dim ond 3/6 y dydd o gyflog. Roedd nifer o deuluoedd lleol yn ceisio goroesi ar 14/- yr wythnos, rhai i gadw teulu o chwech i wyth o blant.
Ond nid newyddion drwg yn unig a gaed 'chwaith. Datgelwyd yn Ebrill 1880 fod y trên Mail i redeg o Gyffordd Llandudno i'r Blaenau ar y 1af o Fai, i gyrraedd y dre hon am saith o'r gloch y bore. Fel dywed adroddiad colofn newyddion D'o’ddelan yn y Faner ar ar y pryd "Bydd hyn yn wellhad mawr. Bydd llythyrau yn cyrraedd Do’ddelan yn gynnar, ac fe'u dosbarthir am saith o'r gloch, ac mi fydd Swyddfa'r Post ar agor tan chwech y nos", gan orffen yn hyderus "Rydym yn martsio ymlaen yn y byd gwaraidd."
![]() |
| Pont Tanyrallt, neu Bont Gethin i roi ei henw mwy cyffredin |
Cafwyd amserlen y trên gynnar yr wythnos ddilynol: Cychwynai o'r Cyffordd am 5.10am, gan gyrraedd Do'ddelan am 6.25am a'r Blaena' am chwarter i saith. Dyna felly wybodaeth difyr am hyd y siwrnai gyda'r trên Mail gyflym honno - Awr a hanner drosodd. Ag anghofio ei ohebiaeth am ddirywiad Do'ddelan, a roddai'r felan ar bawb, roedd Elis o'r Nant ar ben ei ddigon.
"Dyna le ardderchog ydi Do'ddelan, mi ddyliwn ni a phawb o'r pentrefi sy ar fîn y lein roi gwobr am ddarn o farddoniaeth ar y pwnc" meddai'n orfoleddus, A'r rheswm am y gorfoledd? "Mae'r Post yn cau am 6 o'r gloch nid 3.30 fel cynt."!
Ond yn ôl i'w ohebu melancolaidd yr aeth yr wythnos ddilynol. "Mae amser hyn yn ddrwg, dim arwydd o oleuni. Crwydriaid, cardotwyr, fel yr Arabs, dros y wlad" meddai. (Oni roddwyd y sac i Kilroy Silk o'i swydd fras am ddeud rhywbeth tebyg deudwch? ) A iawn o beth hefyd.
Erbyn Hydref 1880, roedd pethau mor ddrwg yn No'ddelan nes y bu raid i rai siopau lleol werthu dodrefn i gadw'r blaidd o'r drysau. Rhoddwyd y tai lojins, a fu mor broffidiol i'r perch'nogion am bum mlynedd y gwaith ar y lein, ar werth. I roi rhyw syniad ichi pa mor ddrwg oedd y sefyllfa economaidd yn No'ddelan, mi ddyfynai gyfieithiad o adroddiad y Cambrian News yr adeg hynny.
"Mae cnoc ar y drws yn gwneud i bobl grynu a throi'n welw. Rhenti heb eu talu, biliau'r groser ac ati…mae'r dyfodol yn dywyll iawn" a gorffena gyda phroffwydoliaeth Dydd y Farn megis "Tlodi enbyd fydd etifeddiaeth pawb, fwy na thebyg."
Ar yr 28ain o Fehefin 1879, dywedodd y Mining Journal fod Mr McGregor, prif beiriannydd y Bettws-y-coed & Ffestiniog Railway wedi dod â'r injan gynta drwy'r twnel ychydig ddyddiau'n gynharach, Yn drychinebus, ychydig ddyddiau'n ddiweddarach, lladdwyd dau weithiwr yn y twnel wrth glirio a thacluso am y tro ola ynddo, y ddamwain angheuol ola' ar y cynllun mewn ffaith. Fis yn ddiweddarach, ar y 27ain o Orfennaf 1879, datgelwyd fod y lein ar agor i deithwyr, ac i'r gost o gwblhau'r gwaith peryg a chymhleth hwn gyrraedd dros hanner miliwn o bunnau, a hanner o'r arian wedi mynd ar waith o dyllu'r twnel.
Heb os, trawsnewidiwyd Do'ddelan, a'r ardaloedd o amgylch yn ystod cyfnod adeiladu'r rheilffordd trwy Ddyffryn Lledr. Lle, cyn dyfodiad y nafis, a oedd yn ardal dawel, heddychlon, gyda dim ond ychydig iawn o enghreifftiau o dor-cyfraith o flwyddyn i flwyddyn, a newidiodd i fod yn bentre tebyg i rai'r gorllewin gwyllt. A doedd hynny ddim at ddant y trigolion cynhenid a gadwent i'r llwybr cul.
Fel yn hanes dyfodiad contractau mawrion eraill yn nes ymlaen, megis cynllyn heidro Maentwrog yn y 1920au; cynllun Tanygrisiau a Thrawsfynydd yn y 50au a'r 60au, roedd cyflwyno cymaint o wynebau newydd i ardaloedd cefn-gwlad fel hyn yn sicr o greu anawsterau cymdeithasol i'r cymunedau. Ond, roedd yn hwb enfawr i economi ardaloedd di-freintiedig fel rhain. Crewyd cannoedd o swyddi cyflogau da am nifer o flynyddoedd, a ddaeth a swyddi parhaol yn eu sgîl. Cyfoethogwyd masnachwyr Do'ddelan, am gyfnod, o leia, gan chwant y nafis am nwyddau, fel masnachwyr Maentwrog, Traws, Llan a'r Blaenau flynyddoedd yn ddiweddarach.
Ond roedd awyrgylch yr 1870au yn hollol wahanol, a'r lein o Betws i Blaenau oedd rhagflaenydd pob cynllun gwaith mawr a'i dilynodd i'r ardal. Felly, rhaid cydnabod mai Do'ddelan oedd y gymuned gynta’ yn y rhan hon o'r wlad i orfod wynebu'r realiti fod llewyrch ariannol tymor byr yn dod â phris i'w ganlyn. Ac i bobl fel Elis o'r Nant a thrigolion duwiol Do'ddelan, roedd y pris hwnnw'n rhy uchel o lawer.
Arhosodd nifer o'r nafis yn yr ardal am gyfnod wedi cwblhau'r lein i gyd, ac fe arhosodd rhai yn barhaol, yn ddiau. Fe gyflogwyd nifer ar wneud seidings i'r stesion newydd ger Glanpwll, a gwblhawyd yn 1881. Ar yr un pryd, roedd cannoedd o nafis eraill ar fin cyrraedd Blaenau Ffestiniog o gyfeiriad y de, gan ddod â rheilffordd y Great Western o gyfeiriad y Bala i'r dre.
Ond stori arall ydi honno.
.jpg)