2.10.26

Y Nafis- cosb a charchar

Heblaw am achosion o ddwyn manion megis caws a bara o'u lojins, cawsai eitemau o dillada' eu dwyn yn aml, fel yn achos nafi o'r enw Thomas Johnson, a garcharwyd am 3 mis gan ynadon Betws am ddwyn par o drawers, 'nol yr adroddid - na, nid y dodrefn ond dillad isa'.  

Carcharwyd un arall am fis gan yr ynadon hynny am ddwyn poteli o Ginger Beer.  Cafwyd adroddiad doniol am un nafi oedd wedi gadael ei waith ar ôl chwarter diwrnod, gan fynd rownd y tafarnau yn rhoi sialens i bawb gwffio.  Roedd hyd yn oed colofna' newyddion Penmachno, Betws, Llanrwst a ‘Stiniog 'ma yn cario pytia'n rheolaidd am ddrwg ymddygiad ymysg y nafis.  Cymaint yr helyntion yn y Blaenau yn Hydref 1875 fel y gwnaeth un gweinidog o'r dre' sylw iddo deithio'r byd, ond ni welodd ddim i'w gymharu â'r golygfeydd meddw a welodd ar y strydoedd yma y nos Sadwrn blaenorol.

Hysbysebion dau o dafarnau Dolwyddelan

Mae hanes am ddau nafi yn dwyn arian o'r Elen's Castle yn 1877 ac yn dianc, yn swnio fel 'Wild West chase' yn y pictiwrs erstalwm.  Wedi cymryd £10 mewn sofrenni aur, cymerodd y ddau y Baltic Coach for Festiniog, chwedl yr adroddiad. Ar ôl darganfod y lladrad aeth y ddau blismon pentra i'r Benar View yn No'ddelan a llogi buggy y dafarn i… - a dwi'n dyfynnu rwan - "to give the deilinquents a chase." - 

Gallwch ddychmygu'r llun yn glir, y ddau 'sherriff' yn y bygi yn stryffaglio i fyny Bwlch Gorddinan ar ôl y  'Stagecoach', neu'r Baltic Coach yn hytrach. Yn nhraddodiad ora' y ffilm gowboi gyffrous, arestiwyd un o'r drwgweithredwyr, George Kay, gan y ddau 'sherriff', yng ngorsaf Diffwys, ac yntau ar fin prynu tocyn i rywle - ni wn pa le - i wario'i loot. Daliwyd y llall ym Maracs rhif 2, ac anfonwyd y ddau i'r celloedd ym Metws, i'w cosbi'n drwm y dydd canlynol, yn ddiau.

Fel y disgwylid, lluchio'r bai ar y mewnfudwyr afreolus am yr helyntion fyddai'r newyddiadurwyr yn rheolaidd, fel yn adroddiad Elis o'r Nant am ymladd yng ngwesty'r Benar View yn Chwefror 1876.  Roedd y dafarn dan ei sang, yn llawn o nafis oedd yn methu gweithio oherwydd tywydd anffafriol.  Fe alwyd ar y plismon lleol i geisio cael trefn ar bedwar nafi meddw, ond mi ga'dd ei daro ar ochr ei ben gan un ohonynt.  Fel y dywed Elis, daeth saer lleol, Samuel Roberts i geisio achub yr heddwas, ond mi drawyd hwnnw i lawr hefyd.  Aeth yn bandemoniwm, a galwyd am gymorth rhai o'r pentrefwyr, a daeth dwsina' yno i gadw trefn, ac fe lwyddwyd i dawelu'r dyfroedd. Y tu allan, disgynnodd un o'r nafis i bwll o fwd, ac heb sylwi pwy, na be' oedd yn y twll, yn honedig ddamweiniol, fe sathrwyd arno i'r gwaelod. 

Wrth ddiweddu, meddai Elis, braidd yn rhagfarnllyd, "Rhoddwyd cyffion ar y pedwar…Dywedir mai Sais oedd Edwards, y gwaetha' o'r ryffians,"  Fe'u rhoddwyd mewn coets, a'u hanfon i'r lock-up yn Betws, lle yr ymddangosant mewn llys arbennig y diwrnod canlynol, ac fe'u hanfonwyd i garchar, gyda llafur caled am dri a phedwar mis.  Gyda llaw, derbyniodd Sam Roberts, y saer oedd ddigon dewr, neu gwirion, i ymyrryd yn yr helynt wobr o £20, swm sylweddol ar y pryd gan Lys Chwarter y sir ddeufis yn ddiweddarach.  Ond roedd y creadur angen pob dima' o'r arian hwnnw.  Fe'i anafwyd yn ddifrifol yn yr ymladd; roedd ganddo fil meddygol mawr i'w dalu, ac roedd wedi colli £13 o gyflog yn yr amser y bu adre o'i waith.

Ond nid y mewnfudwyr o Saeson, Albanwyr na Gwyddelod oedd yr unig rai i greu helynt, fel y tystiai cyfenwa' nifer a ymddangosent o flaen eu gwell.  Mewn ymateb i'r helynt yn y Benar View, ymddangosodd llythyr yn y wasg Seisnig yn ceisio amddiffyn cam y troseddwyr.  Meddai, a chyfieithiaf o'r llythyr, gan 'Eyewitness': 

Allwch chi gredu hynny, os yw dyn yn sathru ar un arall, nad oedd o'n gwybod y gwahaniaeth rhwng carreg, darn o bren, neu fod dynol?  Er mai dim ond nafi oedd o, roedd o'n llawer gwell dyn na'r rhai oedd yn ei gamdrin fel hyn. Mae eich newyddiadurwr yn ddigon gofalus i beidio sôn am farbareiddwch y trigolion cynhenid. Ddaru o ddim sôn gair ar sut y bu i'r nafis druan gael eu cicio nes oedd eu pennau'n llifo mewn gwaed…

Felly, dyna chi, mi roedd 'na thygs ymysg pobl Do'ddelan hefyd yn 1876!

Wrth gwrs, roedd yn ofynnol i Elis o'r Nant ateb y cyhuddida yr wythnos wedyn yn y Cambrian News: Meddai: (cyfieithiad)  

"Yn amlwg, roedd 'Eyewitness' o dan rhyw ddylanwad rhyfedd, fel ei bedwar cyfaill…Nid yw'n haeddu sylw.  Mae ei fath o yn gadael ein pentre' heddychlon yn gyflym, a byddent wedi mynd gyda hyn.   O, bendithied y dydd."
- - - - - - - -

Mwy -fel maen nhw'n ddweud- y tro nesa!