29.8.25

Cerddi Cydwybod- Fy Hen Gymdogaeth

Erstalwm, a'r lle yn gnawd o gwmwd,
ar 'sgerbwd hen gynefin,
bu yma fwrlwm
o fyw am yfory.

Lle bu her yr addewidion
yn llenwi'r oriau
mewn lle nad oedd darfod yn bod.

Pob hewl a'i hafan o hwyl,
pob cornel yn helfa
i rannu'r wên 
o straeon cyn noswylio.

Erstalwm, ar erwau fytholwyrdd
roedd yno ardd Eden
o ddiniweidrwydd
am bethau'r byd.

Drannoeth y dihuno,
a chodi gorchudd yr ystrydeb
am ddyfnder gwreiddiau,
y bu'r wers am 'sgaru had,
ac am y medi aflan.

LLUN: Thomas, John. Parth Cyhoeddus, via Comin Wikimedia