![]() |
Ychydig iawn o luniau sydd ohonof yn blentyn; dymu un ohonof yn 13eg |
Gwrando oedd raid
Ddoethineb cynghorion
Yng ngeiriau ei daid,
Wrth dderbyn gwahoddiad
I gydio'n ei law
I'w ddwyn yn ddiogel
O ganol y baw.
Yn llencyn ugeinmlwydd
Yng nghwmni ei daid,
Ar lwybrau atgofion,
Arafu oedd raid,
I gynnig gwahoddiad
I ysgafnu'r baich,
Drwy roddi arweiniad
A chymorth ei fraich.