17.8.25

Cerddi Cydwybod -Treftadaeth

Mae'n hen arferiad wel'di
i roi ryw bwt i lawr,
cofnodion am ein llinach
mewn 'sgrifen ar y clawr;
ryw hen ddefosiwn fu yn rhan
o'n tylwyth yma yn y Llan.

Pob gair yn ddolen gyswllt
o'r gadwyn ar ei hyd,
y rhai fu ar 'r'un llwybrau
â'n cylchdaith yn y byd;
pob un ohonynt, weli di,
yn rhan ohonot ti a fi.

A gwel tu fewn i gloriau'r
'rhen Feibl yma, Siôn,
mae yno stôr o hanes 
hynafol, 'n'ôl y sôn,
sy'n mynd ymhell tu hwnt i'r plwy', 
a'r teulu ynddo'n llawer mwy.