Mae'n debyg fod pob un ohonom yn gyfarwydd á nifer o'r teimladau isod, dybiwn i.
Colli cyfeillion bore oes fesul un,
A cholli'r brawdgarwch, wrth fynd yn hŷn;
Colli cysylltiad â'r ddau neu dri
Sy'n weddill cyfoedion fy nyddiau i;
Colli perth'nasau y gadwyn glós,
Colli anwyliaid, mor drist, yn ddi-os;
Colli treftadaeth, a cholli iaith;
Colli parch at wleidyddiaeth, a'r newid a ddaeth
Yn natur cymuned - yn golled er gwaeth;
Colli cymdogaeth fu unwaith mewn bri,
Colli cymdeithas mor annwyl i mi;
Colli ysgol a chapel, a hen ffordd o fyw,
Colli traddodiad, a cholli Duw;
Colli amynedd â phawb ambell dro,
A cholli fy hyder yn nyfodol y fro;
Colli'r awydd i gerdded, wrth golli fy ngwynt,
A cholli brwdfrydedd y dyddiau gynt;
Colli fy nhymer a cholli ffydd,
A cholli fy hunan ar ddiwedd y dydd.