10.7.26

Beddau Gwŷr Ardudwy- Rhan 7

Rhan olaf cyfres fer, am safle hanesyddol ym Mro Ffestiniog. Erthygl a sgwennais ar gyfer cyfnodolyn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn 2019, sef Rhamant Bro. 

Mae’r potensial o ddarganfod olion a chreiriau o gyfnod yn mynd yn ôl canrifoedd ar safle Beddau Gwŷr Ardudwy yn aruthrol. Onid yw hyn yn rheswm da i fudiadau a sefydliadau sy’n ymwneud ag archeoleg a hanes Cymru ddod at ei gilydd i wneud arolwg lawn o’r safle, gan ddefnyddio’r holl offer a thechnoleg fodern sydd ar gael y dyddiau hyn?  

Mae’n ddyletswydd ar sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan ein Senedd yng Nghaerdydd, o arian y trethdalwyr, i fynd ati i gloddio’r beddau. Wrth wneud hynny, cawn ninnau, bobol Cymru atebion i’r holl gwestiynau sydd wedi eu gofyn am Feddau Gwŷr Ardudwy a mannau hanesyddol eraill.  

A dim ond un safle hanesyddol ydi hwn, ymysg dwsinau yn yr ardal hon yn unig sy’n galw allan am astudiaeth o’r fath. Tra’n ymchwilio i hanes y safle hon, sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yn hanes ein cenedl, a’i chwedleuon hynafol, mi fûm yn holi’r sefydliadau sydd i fod yn gyfrifol am henebion a safleoedd hanesyddol Cymru am wybodaeth. Mi ges ateb cwrtais iawn gan ferch o swyddog gyda Cadw, â’m hysbysodd fel hyn – 

‘Annwyl Ms Parry Williams. Mae’r Comisiwn Henebion Cymru a’r Ymddiriedolaeth Henebion Archeoleg Gwynedd yn cadw archifau, felly awgrymaf eich bod yn cysylltu â hwy. Yn anffodus, nid oes gan Cadw cofnod o heneb o’r enw Beddau Gwŷr Ardudwy.’
Alyson Evans.

Mi atebais yn ddigon cwrtais, chwara’ teg, fel hyn – 

‘Annwyl Mr Evans,  Diolch am eich ymateb, Yn gywir Vivian Parry Williams (Mr).

Beth bynnag, onid yw’n siomiant deall nad yw CADW, sefydliad sy’n gyfrifol o nifer fawr o safleoedd ac adeiladau hanesyddol Cymru wedi clywed am un o safleoedd enwocaf ein llên-gwerin? 

Mae safleoedd 8 abaty Cymreig wedi ei nodi gan Cadw, gyda llaw, ond o gywilydd i’r sefydliad, nid oes sôn am Abaty Cwm-hir, lle gorwedd corff ein tywysog olaf, Llywelyn ap Gruffudd, y Llyw Olaf.  Wrth gwrs, nodir 40 o gestyll, y cyfan, am wn i, o symbolau o orthrwm, ond dim gair am Feddau Gwŷr Ardudwy a llawer safle arall o bwys i ni Gymry.

Mae gwaith mawr wedi’i wneud i ddarganfod hanes ein darostyngiad fel cenedl gan archeolegwyr a haneswyr dros y blynyddoedd yn y cestyll Normanaidd, arwyddion o’r darostyngiad hwnnw! Cywilydd arnom am beidio hawlio’r hyn mae English Heritage mor falch o wneud ar ran eu pobl yn Lloegr.

- - - - - 

(*Rhan 1 y gyfres) 

8.7.26

Beddau Gwŷr Ardudwy- Rhan 6

Cafwyd sawl adroddiad am y beddau yn y papurau newyddion a chylchgronau dros y blynyddoedd, ond ‘does yr un sy’n gallu cadarnhau dyddiad pendant i’r safle. Mae nifer o fersiynau o chwedl Llyn y Morwynion wedi eu hadrodd dros y degawdau, a’r stori ei hun wedi ei mabwysiadu gan chwedleuwyr a gwŷr y llysoedd ers canrifoedd. Wrth i’r hanes fynd o lys i lys, yn ddi-os bu newid yma ac acw, ac ychwanegu ychydig ar y stori, cyn iddi gael ei chofnodi rywdro yn yr oesoedd canol cynnar gan fynachod a’u tebyg fel rhan o’r chwedleuon byd-enwog.

Y trueni mawr yw na fu cloddio archeolegol, swyddogol ar y safle’n gyfan gwbl erioed, er yr holl sôn am y lle, a’r cysylltiadau â’n hen hanes. Fel y nodwyd, cafwyd sawl enghraifft, fel ar safle’r beddau hyn, o rai diegwyddor yn torri’i mewn i feddau, cistfeini, cromlechi ac ati dros y canrifoedd, a’u difetha, gan amddifadu haneswyr heddiw o wybodaeth werthfawr am ein hynafiaid a’u ffordd o fyw. Mae’r hyn a ddywedir wrthym gan haneswyr ddoe yn rhoi darlun o’r hyn oedd i’w weld, a’r hyn a ddiflannodd o fewn ychydig flynyddoedd yn y 19ganrif. Fe wyddom i Richard Fenton ymweld â’r safle yn 1813, a nodi’r beddau. Erbyn 1851, dywedir fod y cerrig i gyd wedi mynd, ac erbyn 1870, roedd y twmpathau wedi mynd i ebargofiant.

Erbyn hyn, nid oes nemawr ddim i’w weld o’r hyd at 40 bedd honedig, os yw rhai fel Edward Llwyd, Thomas Pennant, W.H.Hancock a’r Twrne Llwyd ac eraill i’w coelio. Mae ar y safle ambell dwmpath bychan yma ac acw fyddai’n werth cloddio i mewn iddynt, petai’r caniatâd ar gael. 

Ond ar fapiau OS heddiw, ceir rhain eu nodi fel pillow mounds, sy’n golygu rhywbeth tebyg i dwmpathau mawn a adawyd ers dyddiau cloddio mawn am danwydd. Mae yno hefyd olion o be’ dybiwn sy’n gylch crwn o gerrig, ac ambell garreg a fedr fod yn rhan o gistfaen. Ond, gyda diffyg unrhyw brawf pendant, na dim cyfarpar proffesiynol i ymchwilio’r safle, efallai mai damcaniaethu ydw inna’.  Anodd felly ydi penderfynu’n union i ba gyfnod y mae Beddau Gwŷr Ardudwy, sydd â rhan mor bwysig yn chwedloniaeth Cymru, yn perthyn. Mae cysylltiadau â nifer o gyfnodau, o’r Oes Efydd, Oes Haearn, y Cyfnod Rhufeinig, yr Oesoedd Tywyll i’r Oesoedd Canol, yn bodoli ar y safle, ac o fewn tafliad carreg i’r Beddau. 

Mae cantref Uwch-Ardudwy, lle saif y safle, wedi ei gofnodi fel rhan o deyrnas Gwynedd yn yr Oesoedd Canol, ond yn fwy na thebyg yn deyrnas annibynnol ymhell cyn hynny. Mae Gwynedd yn dyddio’n ôl i o leia’r 5ed-6ed ganrif, oherwydd ceir cyfeiriad at yr enw Lladin o’r lle, Venedotia ar garreg fedd Cantiorix o’r cyfnod hwnnw sydd yn eglwys St Tudclud ym Mhenmachno [Gweler rhan 3].

Gan fod palstaf - bwyell efydd - wedi ei darganfod ar y safle, fe ellir hawlio efallai fod y safle’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd, dros 700 o flynyddoedd cyn Crist. Mae’r awgrym mai gweddillion cistfeini yw’r hyn sydd ar ôl o Feddau Gwŷr Ardudwy yn cryfhau’r honiad, yn enwedig yr wybodaeth dros y blynyddoedd am y mounds fu unwaith ar y safle. Byddai’r tomennydd rheiny wedi gorchuddio’r cistfeini, yn ôl trefn claddedigaethau’r Oesoedd Neolithig, Efydd neu Haearn, ambell waith.  Petaent yn feddau Rhufeinig, neu feddau Cristnogol cynnar, ni fyddai tomennydd yn gorchuddio'r rheiny, dim ond beddau wedi eu gosod ar y gwastad fyddai i’w gweld. Mae’r honiad mai o’r fan hon y daeth y garreg arysgrifiadol sy’n eglwys Penmachno yn awgrymu mai o gyfnod Cristnogaeth cynnar - tua’r 6ed ganrif yw cyfnod y beddau. Hefyd, wrth ddeall fod y rhan fwyaf o’r beddau, yn ôl llygaid-dystion yn gogwyddo Dwyrain-Gorllewin yn awgrymu mai beddau Cristnogol ydynt. 

Ond eto, gan fod Bryn Castell, y fryngaer Oes yr Haearn mor agos, tybed ai beddau o’r cyfnod hwnnw ydynt? 

I mi, mae’n ddigon posib’ mai o’r cyfnod hwnnw maent yn dyddio, a bod brwydr wedi digwydd yno rhwng carfannau, neu dylwythau o’n cyndeidiau. Ond pam fod y beddau wedi eu nodi gyda cherrig - oedd yr ymadawedig yn ddigon pwysig i’r cof amdanynt gael eu nodi fel hyn? Pwy oeddynt? Pryd y bu hynny sydd yn gwestiwn na fedrai ateb yn bendant, yn anffodus.

- - - - - -

Un bennod eto i ddod..!

Yn y cyfamser, dilynwch y gyfres efo'r botwm 'older post' isod.


26.6.26

Beddau Gwŷr Ardudwy- Rhan 5

Cafwyd adroddiad lawnach o’r gwaith archeolegol, a wnaed yn ystod Mawrth ac Ebrill 1990. Gwnaed archwiliad dopograffig o ryw 20 hectar o amgylch safle’r gwaith dŵr, ynghyd â ryw 250 metr o gloddio ar hyd linell gwely’r beipen ddŵr newydd. 

Cyhoeddwyd adroddiad fanylach o’r archwiliad hwnnw, gan David Longley, o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd (G.A.T.) yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd, 1996.  Ynddo, dywedir na chafwyd unrhyw dystiolaeth erioed fod y twmpathau hynny, neu’r mounds, fel y’i gelwid wedi dangos fod claddedigaethau wedi digwydd ynddynt. Ond ychwanegwyd fod y ffaith (amheus..?) fod y darganfyddiad o garreg fedd (Cantiori), yr hon oedd, ac sydd yn eglwys Penmachno, yn profi bod claddedigaeth wedi bod ar y bryniau hyn. Cyfeiriwyd hefyd at y garreg arysgrifedig yn wal eglwys Llan Ffestiniog, ac un a gaed ger chwarel Rhiwbach.

Roedd rhai twmpathau isel i’w gweld yr adeg honno (1990). Ond fel dywed Longley, peth anghyffredin fyddai cael beddau o gyfnod Cristnogol cynnar gyda thwmpathau drostynt. Er cloddio llwybr y beipen am 135 metr, a thorri ffos ar draws y llwybr hwnnw, ni ddaethpwyd o hyd i ddim olion o gwbl. Fe goddiwyd i mewn i un o’r twmpathau tua’r un adeg, gan ddod i’r penderfyniad mai tomen mawn oedd yno, ac nid claddfa. Fe ddynodwyd lleoliad ugain tomen arall, o wahanol faintioli, a’u harchwilio, gan ddod i’r penderfyniad eto mai tomennydd mawn oeddynt. 

Agorwyd dwy ffos (trenches) arall, un 5m x 1m, a’r llall yn 4m x 1m. i’r dde o ffordd y B4391 i archwilio tomennydd isel oedd ar lwybr y beipen. Ond eto, tomennydd naturiol oedd y rhain. Ond cafwyd beth a dybir i fod yn gwt crwn ar lwybr y beipen, a chytunodd Dŵr Cymru i wyrdroi llwybr y beipen yn y fan honno.   

Gwaith ar y gweill gan Dŵr Cymru 2013-14

Cyn cychwyn ar adeiladu estyniad i’r gwaith dŵr cyfagos yn 2013, anfonwyd dau archeolegydd, a dybir, gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, (CBHC) i archwilio’r safle lle y gosodwyd cabannau’r gweithwyr yn ddiweddarach. Ond wedi cwta ychydig ddyddiau yno, ymadawodd y ddau, gan adrodd nad oedd dim olion i’w gweld yno. Mae’r safle honno wedi ei gorchuddio a thunelli o weddillion cerrig cloddio’n estyniad newydd bellach.  [DAL DY DDŴR: Mwy o hanes y gwaith, gan Llafar Bro]

Nodwyd y safle mewn arolwg i safleoedd hanesyddol/archeolegol yn yr ardal rhwng y Manod Bach a’r Garnedd yn ystod hydref 2013 a gaeaf 2014 gan Richard Hayman a Wendy Horton. Gwnaed yr astudiaeth werthfawr hon ar ran Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a chofnodwyd dros fil o’r safleoedd hyn, yn dyddio o’r cynoesol i’r dyddiau modern, a chyhoeddwyd y cyfan gan y Comisiwn yn 2014. Ond ni chafwyd unrhyw wybodaeth am gloddio diweddar ar safle Beddau Gwŷr Ardudwy.
- - - -- 

I'w barhau

 

20.6.26

Awr yn nes...

Pennill fach a yrrais i golofn Rhod y Rhigymwr yn ein papur bro- Llafar Bro, yn ymateb i'r dasg o ychwanegu at y gwpled 'Diwedd Mawrth bu raid i ninnau / Ufuddhau i droi ein clociau...'

 

Diwedd Mawrth bu raid i ninnau
Ufuddhau i droi ein clociau
Awr ymlaen, ac awr yn hynach, 
Awr fydd ran ohonom bellach,
Awr i’n hebrwng at yfory,
Awr yn nes at ryddid Cymru!

  

Rali Annibyniaeth, Wrecsam, Gorffennaf 2022
Fi, Bethan y ferch, a Paul, un o'm meibion, efo'n baneri.


19.6.26

Beddau Gwŷr Ardudwy- Rhan 4

Dan bennawd ‘Chwedl Llyn y Morwynion’ yn y Genedl Gymreig ar 5 Gorffennaf 1877 cafwyd adroddiad fechan o’r hanes, ac am safle’r frwydr honedig. Cafwyd disgrifad tebyg iawn i’r hyn a nodwyd eisoes am fesuriad a nifer y beddau, gyda’r atodiad ‘Mae yn debygol y bu yno lawer yn ychwaneg ohonynt’. Hefyd dywedir megis ‘…Amgylchynid y cyfan gynt gan wal gerrig, yr hon sydd erbyn hyn yn ddrylliog, y cerrig wedi eu cludo ymaith a’u defnyddio at adeiladu tai, &c. Mai olion coffadwriaethol o laddedigion rhyfel mewn cyfnod tra boreuol yw y rhai hyn nid oes le i ameu, ond ar ba achlysur nid yw yn hawdd egluro.’ Aiff yn ei flaen i drafod hanes Gwŷr Ardudwy’n cael eu lladd gan ddynion Clwyd, a chrynhoi’r erthygl o gwmpas y chwedl honno.

Mae’r hyn sydd gan G.J.Williams, yn Hanes Plwyf Ffestiniog (1882) i’w ddweud yn ychwanegu rhywfaint am hanes y beddau. Wedi traddodi ar hanes y chwedl, gan feio’r mynachod am ffurfio chwedlau o’r fath, mae G.J.W yn ddigon plaen ei eiriau i ddweud hyn, ‘…fel y credwn mai chwedl ddisail yw hon a ffurfiwyd yn niffyg hanesyddiaeth am yr olion a geid yma.’  Aiff ymlaen i ddweud fod rhai yn ei gyfnod ef yn honni bod y beddau yn bodoli ers amser y Derwyddon, ‘…ond y mae y ffaith eu bod o bobtu i’r ffordd Rufeinig, yn brawf lled sicr mai ar ôl gwneud y ffordd y gwnaed hwy.’  Mewn ffaith, dyma’r unig adroddiad sy’n dweud fod y beddau naill ochr i Sarn Helen yn y fan honno. 

Safle'r beddau ynghanol y llun, ac olion gwaith Dŵr Cymru (2016) yr ochr yma i'r ffordd

Cadarnhawyd yr hanes am y garreg a ddygid o’r safle i eglwys y Llan gan G.J.Williams, ynghyd â hanes na nodwyd gan neb arall, o Mr Vaughan, Hengwrt yn cloddio yno, ‘ond ni chafwyd dim gweddillion dynol’. 

Cafwyd hanes Hancock yn darllen papur am y safle o flaen cynulleidfa y Gymdeithas Hynafiaethol Gymreig yn Nolgellau ar 30 Awst 1850. Roedd hwnnw o’r farn mai beddau milwyr Rhufeinig, ac nid Prydeinwyr oeddynt.  Ond yr hyn a ddywedwyd wedyn oedd yn ddiddorol. 

…Yr un diwrnod ag y darllenwyd y papur hwn, arddangosid ymhlith eraill arfau bronze a ddygasid o Feddau Gwŷr Ardudwy gan Mr Lloyd, Penyglannau. El hyn, yn gystal â’r cylchau a’r carneddau, ymhell i brofi fod y beddau hyn wedi eu cloddio cyn y Canol Oesoedd…

Roedd yr wybodaeth am 'Mr Lloyd, Penyglannau’ yn atgoffa rhywun o’r ffaith mai hwn oedd y ‘Twrne Llwyd’, fel y’i gelwid, ac yn hynafiaethydd a chasglwr hen greiriau o fri. Mae hanes iddo fod yn berchen ar gwpan Trawsfynydd ar un adeg, tancard pren ac efydd yn dyddio’n ôl i thua 100CC. Mae honno bellach i’w gweld yn Amgueddfa Lerpwl. Digon hawdd felly yw dychmygu un fel hwn yn ysbeilio’r beddau, a dwyn y creiriau ar gyfer ei gasgliad personol. Tybed i ble aeth gweddill ei greiriau?

Aiff G.J.W ymlaen i sôn am garreg Cantiorix [gweler rhan 3] a honnir iddi ddod o’r safle hefyd. Dywedodd fod y garreg wedi bod ym meddiant Wynne, Voelas Hall, Pentrefoelas, ac iddi fod erbyn hynny yn eglwys y plwyf, Penmachno. Eto, rhaid gofyn cwestiwn. Sut ddaeth y garreg i feddiant un o deulu bonedd o ardal Pentrefoelas, nad oedd ganddo gysylltiad â ‘Stiniog, nac yn berchen ar dir yn y fro hon, yn dra gwahanol i rai o’i gyfoedion bonheddig?

Ni chafwyd archwiliad nac adroddiad wedyn o’r safle o gwbl tan ddechrau’r 20fed ganrif. Ar 5 Medi, 1913 ymwelodd Arolygwr o Gomisiwn Brenhinol Henebion â’r safle. Dyma ddywedwyd:

…four mounds were noticed which were more or less protected by flat stones on each side of the mounds… Eleven other mounds, from which the protecting stones seemed to have been removed, were noticed. They were on an average about 16 feet by 10 feet, and as a rule lay east and west. Among them, but not directly connected with any mound, was an upright stone, 1 foot high, and 1 foot 6 inches broad at the base. It is now impossible to trace any arrangement of the mounds into two groups, or of the small bank which earlier investigators speak of as enclosing each group. They lie on a slope immediately below a new pumping station, and are with difficulty distinguished in the long coarse grass of the moorland.

A dyna hi, dim mwy o hanes, na gwybodaeth am unrhyw gloddio yno, gwaetha’r modd. Y sylw nesa’ a geir yw un byr gan David Longley yn Archaeology Wales, rhifyn 30, yn 1990. Comisiynwyd Ymddiriedolaeth Archeoleg Gwynedd (Y.A.G) gan Ddŵr Cymru i archwilio rhan o’r safle, cyn gosod peipen ddŵr i lawr.  

- - - - -

I'w barhau

 

12.6.26

Beddau Gwŷr Ardudwy -Rhan 3

Cafwyd adroddiad am ymweliad un arall, dienw, â’r safle ar dudalennau 128-9 A Handbook for Travellers in North Wales (1868), oedd yn ailadrodd yr hyn a geir gan Gibson parthed nifer y beddau ac ati. Wedi trafod hanes y chwedl, gorffennwyd megis 

…however pleasing the tradition, it is most probable that it only served as a place of internment for some defunct Roman soldiers…

Yn yr 1870au, cyhoeddwyd arweinlyfr Blacks Picturesque Guide to North Wales, ac ar dudalen 197 ceir disgrifiad o leoliad a chynnwys safle Beddau Gwŷr Ardudwy, gyda gwybodaeth a oedd yn debygol o fod wedi ei godi o gyhoeddiadau cynt.  Dywedir fod yno rhwng 30 a 40 o bentyrrau hirsgwar, oedd rhwng dwy a thair troedfedd o uchder, yn 6 troedfedd o hyd a 15 modfedd o led. Roedd carreg fechan yn sefyll ar ddau ben y tomennydd bychain hynny, meddid, ynghyd â charnedd a nifer o gylchoedd cerrig gerllaw. Dyma’r lle y claddwyd Gwŷr Ardudwy wedi’r ymladdfa, meddai awdur yr adroddiad.

Un o’r ffynhonellau gorau o’r cyfnod a oedd yn trafod y safle arbennig hon yw’r adroddiad yn An Inventory of the ancient monuments in Wales and Monmouthshire, vol VI - County of Merioneth, a gyhoeddwyd gan Syr John Rhys a Syr E.Vincent Evans yn 1921.  Yn y gyfrol hon cawn ychydig mwy o fanylder ar ambell agwedd ar y safle. Ynddi, ceir gwybodaeth fod yr enw wedi ei weld mewn cylchgrawn archeolegol yn yr Iwerddon yn yr 1870au. Yn y Royal Historical and Archaeological Association of Ireland 1872-3, cyfres 4, cyf. 2, t. 528 cyfeiriwyd at lythyr a anfonwyd i’r gymdeithas honno yn trafod Beddau Gwŷr Ardudwy. Gan un o’r enw Mr Burchett oedd y llythyr, a oedd yn cyfeirio at ymweliad rhywun â’r beddau. 

Dywed amdano’n siarad â gwraig Tŷ Nant y Beddau gerllaw, a ddywedodd bod yr holl gerrig wedi eu cario oddiyno i godi waliau o amgylch y tyddyn. Derbyniodd yr ymwelydd wahoddiad i fynd i weld tystiolaeth o’r hyn a ddywedwyd wrtho, ac iddo sylwi ar weddillion y beddau. Cafwyd disgrifiad manwl ganddo o un garreg, brin, ar ben un bedd, ac arni arysgrif o ryw fath. Maint y garreg oedd 20 modfedd wrth 6 modfedd, gyda’r marciau wedi eu torri arni’n ofalus, yn ôl ei ddisgrifiad, a gwnaeth sgets ohoni. Aeth ymlaen i archwilio rhai o gerrig a oedd, yn honedig, wedi eu defnyddio yn y waliau o amgylch. Daeth ar draws un garreg yn y wal, ac aeth ati i wneud sgets ohono hefyd, a chynhwyswyd y llun hwnnw yn y cylchgrawn. Awgrymwyd gan yr ymwelydd hwnnw mai marciau ‘Ogam’ oedd y llinellau a dorrwyd, ganrifoedd ynghynt, ar y garreg honno.

Yn yr adroddiad gan aelod o’r Comisiwn Henebion dywedwyd ei bod yn amlwg fod y tomennydd pridd oedd yn gorchuddio’r beddau wedi diflannu erbyn 1870.  Ond ar yr ymweliad hwnnw, na roddir dyddiad ar ei gyfer, daeth i benderfyniad ynglŷn ag ambell agwedd ar y safle. Dywedodd fod pedair tomen i’w gweld, gyda cherrig gwastad bob ochr iddynt.  Rhoddodd fanylion o’r tomennydd - (1) 26 troedfedd x 10 tr., 3 tr. o uchel, yn gogwyddo gogledd-ddwyrain a de-ddwyrain. (2) 8 tr. x 8 tr. a 2½tr. o uchder.  (3) 23 tr. x 14 tr, gyda gogwydd dwyrain i’r gorllewin, gyda charreg yn y ddau ben. (4) 26 tr. x 21 tr, gogwydd dwyrain i’r gorllewin eto, gyda charreg ar y ddwy ochr.  

Nodwyd 11 o olion tomennydd eraill hefyd, gyda’r cerrig wedi eu codi ymaith ohonynt. Ar gyfartaledd, eu maint oedd oddeutu 16 tr. x 10 tr, ac ar y cyfan yn gogwyddo o’r dwyrain i’r gorllewin. Yn eu mysg yr oedd carreg yn sefyll, tua throedfedd o uchel ac yn droedfedd a hanner o led yn ei bôn. Roedd ei ddisgrifiad o leoliad y safle yn gymorth i ymchwilwyr oedd i’w ddilyn, yn sicr.  Dyfynnaf o’r iaith yr ysgrifennwyd yr erthygl:

They lie on the slope immediately below a new waterworks pumping station, and are with difficulty distinguished in  the long coarse grass of the moorland. The course of the Roman road running in the direction of Tomen y Mur is plainly traceable on the south side of the Festiniog-Bala road, but is not so easily followed on the north side of the road and in the direction of the mounds. Visited 5th September 1913.

Ni wyddys beth ddaeth o’r cerrig arysgrifedig hynny, ond ychwanegwyd gwybodaeth fod palstaf efydd wedi’i darganfod yno hefyd, ac i honno gael ei rhoi i’r Amgueddfa Brydeinig.  


 

Dywedir hefyd fod carreg arysgryfedig, a elwir yn garreg Cantiorix, wedi ei darganfod ar y safle, ond sydd heddiw yn cael ei harddangos ymysg casgliad o gerrig arysgrifedig eraill yn eglwys St.Tudclud ym Mhenmachno.  Nid oes unrhyw brawf dogfennol ar gael mai o’r safle hon y daeth y garreg, ac enwir safleoedd eraill fel y man y darngfuwuyd carreg Cantiorix gan haneswyr.  Carreg Gristnogol yw hon, yn dyddio’n ôl i’r 6ed ganrif, ac mae copi ohoni wedi ei gosod yn ddiweddar ar wal amgylchynnol yn y gwaith puro dŵr gerllaw i Feddau Gwŷr Ardudwy. 

- - - - - -

I'w barhau
 

5.6.26

Beddau Gwŷr Ardudwy: colli'r cerrig

Ail ran cyfres fer am safle hanesyddol ym Mro Ffestiniog

Efallai mai W.H.Hancock, ar ei ymweliad â’r safle yn ystod yr 1850au cynnar a wnaeth yr archwiliad swyddogol, cyflawn gyntaf o Feddau Gwŷr Ardudwy. Cyhoeddwyd ei adroddiad yn y cylchgrawn safonol Archaeologia Cambrensis yn 1851. Cyfeiriodd Hancock at adroddiad  Edmund Gibson yn ei Britannia, a ddywedodd fod 30 o feddau i’w gweld yno yn nyddiau Gibson, (17eg ganrif), ac i eraill, yn fwy diweddar gyfeirio at dri dwsin o feddau. Ond ar ddyddiad ymweliad Hancock dim ond dwy garreg fedd oedd yn dal i sefyll, a dim un bedd arall i’w weld o gwbl. Cafodd gwmni ‘an intelligent peasant,’ oedd yn byw nid nepell o’r safle i’w arwain o amgylch y lle. Roedd y peasant hwn, neu hon, wedi trigo gerllaw'r beddau ers trigain mlynedd a mwy, ac wedi ymweld â’r safle hynafol gannoedd o weithiau, ac yn gwybod yn iawn am y chwedl a’r traddodiad a berthynai iddi. Ni chofiai weld llawer o gerrig beddau yno, ond efallai fod ryw ddwsin, a dim mwy wedi bod yno.

Awyrlun o'r safle, rhwng Tŷ Nant y Beddau ar y chwith, a'r gwaith trin dŵr ar y dde

Roedd Hancock yn sicr o’r farn fod beddau wedi bod yno ar un adeg, a’u bod yn ymddangos mewn dwy gylch hirgrwn, ac wedi eu hamgylchynu â wal gerrig. Doedd dim gweddillion wal i’w gweld yn ystod ei ymweliad, heblaw ychydig o gerrig oedd i’w cael ar wyneb y tir yma ac acw. Nid oedd unrhyw drefn yng ngosodiad y beddau, meddai, gan ddweud mai ryw droedfedd oedd hyd y ddwy garreg oedd yn weddill, a’r ddwy yn cynrychioli dau fedd gwahanol.  Ar y pryd, ‘doedd yr un garnedd i’w gweld, fel yr adroddwyd gan eraill o’i flaen. Nid oedd olion o lawer o gerrig o amgylch ‘chwaith, gan fod llawer wedi eu cario ymaith i godi adeiladau a waliau. Yr oedd ychydig olion o gloddio ysgafn wedi bod yno rywdro, heb fod lawer o amser yn ôl, meddai, ond ni welodd unrhyw dystiolaeth fod cyrff wedi eu codi oddiyno, na dim gweddillion eraill. Gwnaeth sylw prin o’r ffaith fod y beddau naill ochr i’r hen ffordd Rufeinig, Sarn Helen, ac roedd hynny’n awgrymu iddo mai beddrodau milwyr Rhufeinig oeddynt, a dim i’w wneud â’r chwedl enwog.

Cafwyd ateb i amheuaeth W.H.Hancock fod rhywfaint o gloddio wedi bod yno, a hynny, mae’n debyg’, dim ond ychydig amser cyn ei ymweliad â’r safle rhywdro yn 1851. Cyhoeddwyd llythyr gan un ‘Mervinian’, o Mona, dyddiedig 15 Ionawr 1851, yn y Carnarvon and Denbigh Herald a ddatgelodd ei fod o, a ffrind iddo wedi cloddio i rai o’r beddau, i ddyfnder o dair i bedair llath.  Mewn ffaith, dyma’r dystiolaeth gynharaf, ar ddu a gwyn, o unigolion yn cyfaddef iddynt wneud archwiliad trwy gloddio i’r beddau. Er eu harchwilio, ni ddaethpwyd ar draws yr un stone coffins or bones yno. Ond yr oedd y ffaith fod pridd gwahanol i’w weld yn dangos ei fod wedi ei gymysgu ar ryw adeg.

Cyhoeddodd Harry Longueville Jones, un o sefydlwyr y Cambrian Archaeolegical Association, a chyd-olygydd y cylchgrawn archeolegol adnabyddus, sy’n dal i fynd, Archaeologia Cambrensis (Arch. Cambs.) erthygl swmpus dan y testun ‘Preservation of Welsh Antiquities’ yn y cylchgrawn hwnnw yn rhifyn Hydref 1853. Wrth drin y dinistr oedd yn dod i ran rhai o’r hen safleoedd hyn yng Nghymru, roedd ganddo hyn i’w ddweud:

 Felly, dyna brawf pendant gan archeolegwr proffesiynol fod y beddau wedi cael eu dinistrio, a’r cerrig wedi eu defnyddio ar gyfer codi waliau, mor gynnar â 1853. Awgrymir yma fod y safle wedi ei dinistrio rywdro rhwng cyfnod Edward Llwyd, ar ddiwedd yr 17g. a chyfnod Hancock a Longueville Jones yn yr 1850au. Fe all dyn wneud difrod mawr i henebion dros gyfnod o 150 o flynyddoedd, yn amlwg!

Un a lofnododd ei enw fel ‘Cambrensis’ a ysgrifennodd lythyr, gyda’r dyddiad 13 Chwefror 1865, i’r Archaeologia Cambrensis. Roedd hwn wedi bod ar daith gerdded yn olrhain Sarn Helen drwy’r ardal, ac wedi sylwi ar safle Beddau Gwŷr Ardudwy. Cadarnhaodd  hwn eto mai dim ond olion digon anweledig, ar y cyfan, oedd ar gael yno'r adeg honno. Roedd o’r farn hefyd fod y beddau wedi eu hagor, a’u dinistrio gan, yn ei iaith ei hun: hunters after curiosities - not archaeologists - several years ago
 

I'w barhau!