17.10.26

Cymharu ymddygiad y Nafis i rialtwch meddwol Rhufain!

Cyhoeddodd y Carnarvon and Denbigh Herald lythyr, dan y pennawd 'Navvies Have Feelings', gan un a alwai'i hun 'A Navvy', a'i gynnwys yn amddiffyn ei gyd-weithwyr. Soniai am fachgen ifanc a laddwyd yn y twnel, ac wedi clywed am amgylchiadau tlawd ei deulu, fe gasglwyd swm sylweddol ar ddiwrnod tâl, i'w anfon i rieni'r bachgen.  Gorffenai ei lythyr, a dyfynnaf yn yr iaith y sgwennwyd o: 

"After all, the navvies are not the barbarians some people choose to portray them before the world…"

Ond barn hollol wahanol oedd gan 'Sylwedydd' yn ei lythyr yn Y Dydd, 23 Chwefror 1877: Dyma ran o'i gynnwys, sydd yn rhoi darlun pur gywir o feddylfryd dinasyddion yr ardal tuag at y newydd-ddyfodiaid hyn, er yn rhagfarnllyd ei naws, i mi, mae'n deud y cyfan am awyrgylch Do'ddelan rhwng 1874 ac1879. 

“…mae gwneuthuriad y rheilffordd trwy'r gymdogaeth wedi achlysuro cydgasgliad pob math o gymeriadau i'r lle, a'r rhai hyny trwy eu pechodau ffiaidd wedi newid agwedd foesol, yn gystal a masnachol y lle i raddau dychrynllyd… Ym mhersonau y dosbarth isel yma, dangosodd meddwdod ei holl erchylltra.  Daeth rhegfeydd, ymrafaelion ac ymladdau yn bethau cyffredin…Yr iaith isel a glywid wrth iddynt dramwy ein ffyrdd, mae yn merwino y glust, ac yn gwaedu y galon.  Maent yn addolwyr selog o dduw Bacchus.  Llanwant ei demlau…Ni welwyd dynoliaeth yn cael ei chwyrnellu gan genllif meddwdod tua'r trobwll diwaelod hyd nes daeth y cymeriadau hyn i'r ardal…Er nad oes fawr o obaith eu diwygio hwy, gellir gwrthweithio dylanwad eu hesiampl ar drigolion yr ardal…Amlwg yw fod Satan ar ei egni yn gosod ei fyddinoedd ar waith i ddinystrio muriau Seion…”

I'r anghyfarwydd, y duw Bacchus y cyfeiriodd 'Sylwedydd' ato oedd Duw natur a gwin y Groegwyr, a oedd yn cynrychioli pob math o fywyd anfoesol, ddi-chwaeth a fyddai yn hollol groes i natur Anghudffurfiol y 19 ganrif. 

Wn i ddim be ydi'r gair Cymraeg am orgies, ond mae rhyw, noethni ac yfed ac yn y blaen yn rhan o ddefodau i'r duw hwnnw.  Mor anfoesol oedd y defodau, nes i Ŵyl Bachanalia, gŵyl Bacchus, yn Rhufain gael ei dileu'n llwyr yn 186 CC.  

Felly, dyna gymhariaeth un o gyfoeswyr y cyfnod â'r math o le oedd Do'ddelan yn 1877 yn ei farn o! Orgies et al !


 <LLUN: Gloddest a Rhialtwch! 'Baccus ans Silenius' gan John Duncan (Hawlfraint- delwedd yn y parth cyhoeddus)

 

Ond, mi oedd yn No'ddelan garfan o bobl dda oedd yn dal i gredu y byddai achubiaeth i eneidiau'r nafis, neu o leia, am gyfnod gweddill eu harosiad yn yr ardal.  Ar fwy nag un achlysur, cynhaliwyd swper ar gyfer y nafis, un yn Ionawr 1877, yng nghapel yr Hen Gorff yno, a darparwyd gwledd i 120 ohonynt.  Pwrpas yr holl beth oedd i geisio gwareiddio'r barbariaid, fel y gwelai rhai hwy, a'u troi oddi wrth y ffordd anfoesol o fyw a arferant. Byddai pregeth neu ddwy, neu dair, neu fwy wedi'r wledd, gan weinidogion yr Efengyl, rhai yn Saesneg a rhai'n Gymraeg, a rhybuddion yn erbyn y ddiod felltith yn cael eu gosod i lawr i'r nafis.  Does dim cofnodion ar gael ar faint o droedigaeth a brofwyd ganddynt, os bu un o gwbl, yn dilyn yr arwyddion hyn o garedigrwydd rhai o'r dinasyddion lleol.

Yng Ngorffennaf 1877, ymddangosodd Capt. Pearson, Prif Gwnstabl Sir Gaernarfon o flaen Pwyllgor yr Arglwyddi ar Anghymedroldeb (Lords Committee on Intemperance).  Datgelodd fod 906 o ddynion a 106 o ferched wedi'u dirwyo am feddwdod yn sir Gaernarfon yn 1876.  Pryderai oherwydd i'r ystadegau saethu'i fyny wedi cyrhaeddiad y cynlluniau rheilffyrdd.  Dywedodd fod y cyfloga' ar y pryd yn uchel iawn, gyda labrwrs cyffredin yn ennill gymaint â 5/- y dydd.  Credai y byddai agor y tafarnau am saith, yn hytrach na chwech - na nid y nos- ond y bore - yn fendith i'r gweithiwr a'i deulu.  "Ar hyn o bryd," meddai, "mae'r cyfle i brynu cwrw ar y ffordd i'r gwaith yn drysu llawer ohonynt am y diwrnod, os nad am fwy o amser." Ychwanegodd fod y trigolion cynhenid yn y pentrefi bron oll yn tee-total, ac mai'r newydd-ddyfodiaid i'w plith oedd y troseddwyr.

Hen dafarn y Ffish Inn, yn 1874

Fe gofiwch, rai ohonoch imi sôn fel yr oedd Owen Gethin Jones yn cael trafferth gyda'r nafis oedd yn gweithio ar Bont Gethin, wrth iddynt adael y gwaith yn ystod y dydd i gael peint neu ddau - neu ddeg yn y Fish Inn gyfagos. Ac mi wyddoch hefyd am y stori amdano yn prynu'r dafarn a llosgi'i thrwydded. 

I geisio lleddfu rhywfaint ar y golled o weld eu ffynnon gwrw'n cau, mi drefnodd Gethin ambell gyfarfod llenyddol, rhyw fân 'steddfoda’ ac ati, ac yntau'n beirnadu neu'n llywyddu. Mi welir adroddiadau yn y wasg ar y pryd o'r cyfarfodydd hynny yn cael eu cynnal ar bwys y bont, yn yr awyr agored, un ohonynt ym mis Ionawr 1877.  A dwi'n dal i ddeud y byddai'n fil gwell gan y nafis fod yn llyncu peintia o flaen tanllwyth o dân yn y Fish Inn na chael eu trwytho mewn diwylliant Cymraeg allan yn yr awyr agored ar b'nawn rhynllyd o Ionawr.!
- - - - - - - - - -

Mwy i ddod..!