23.10.26

Y Nafis : Damweiniau a Marwolaethau

Fel y gellid disgwyl, ar gynllunia' mor fawr a hyn (adeiladu'r rheilffordd trwy Ddyffryn Lledr), cafwyd nifer sylweddol o ddamweinia'.  Does gen i ddim cofnod llawn o faint laddwyd dros gyfnod y prosiect, ond yn sicr, roedd yn uchel. 

Mi wn yn ffaith fod pedwar wedi'u lladd yn y twnel yn unig erbyn Gorffennaf 1879, pan gofnododd y Carnarvon & Denbigh Herald (CDH) hanes marwolaeth Abraham Evans, Platelayer o  Fodorgan yn Ysbyty'r Oakley, gan ddiweddu'r llith gyda'r geiriau 'This makes it the fourth death.'    

Mae gen i gofnodion o thua hanner dwsin yn cael eu lladd, a llawer mwy yn cael eu hanafu tra yn gweithio ar y cynllun. Ond bu i ambell un golli bywydau allan o oria' gwaith.  Boddwyd rhai, yn benna' oherwydd eu bod dan ddylanwad y ddiod gadarn.  Collodd Wm. Bartley, gyrrwr car a cheffyl gyda chwmni Morris & Jones, contractwyr, ei fraich mewn damwain anffodus, pan fu i'w geffyl boltio, neu redeg yn wyllt. Cyfrannodd Bartley yn helaeth i'r damwain; cafwyd ef yn euog o fod yn feddw "in charge of a horse & cart"!

Y ddamwain gynhara imi weld cofnod ohoni oedd yn y Cambrian News ar y 15 o Ebrill 1874, yn nyddiau cynnar y cynllun, pryd yr anafwyd nifer o ddynion mewn ffrwydriad ar y gwaith darparu, rhywle rhwng Betws a Do’ddelan.

Ar y 12fed o Fehefin 1877, lladdwyd mab 13 oed William Rostron, peiriannydd ar y gwaith, wrth iddo deithio ar dracsiwn ger Roman Bridge, pryd y bu iddo geisio neidio oddiar y tracsiwn a hwnnw'n symud.  Fe ddisgynnodd dan yr olwynion, a thorrwyd ei gorff yn ei hanner.

Er gweithio ar safle beryg' iawn, yn uchel uwchben llifeiriant gwyllt yr Afon Lledr, ac er i nifer o'r nafis fod yn feddw ar y gwaith yn nyddiau cynnar adeiladu Pont Gethin, ni chafwyd yr un damwain angheuol o gwbl arni dros y cyfnod cyfa' o'i chodi, rhwng 1874 ac 1879.  Ond boddwyd un nafi tra yn ymdrochi mewn pwll o dan y bont, wrth iddo ddiodde cramp, a diflannu odditan y cerrynt.  Ychydig wythnosa'n ddiweddarach, boddwyd Owen Watkin o Lanwnnog wedi iddo ddisgyn 100 troedfedd i farwolaeth dychrynllyd i bwll ar waelod siafft 1 yn y twnel.

Allan o oria’ gwaith y boddwyd Gwyddel o nafi o'r enw Frank Smith, a oedd, yn ôl y CDH 'of intemperate habits', a hynny yn Rhagfyr 1876.  Y diwrnod hwnnw, roedd wedi bod yn bwrw'n arw, a'r dynion yn methu gweithio, ac wrth gwrs, yn diddori'u hunain yn nhafarna' Do’ddelan.  Roedd Smith wedi bod yn plagio Robert Dougall, ei gyflogwr am fwy o 'subs' i gael cario mlaen i yfed, ond gwrthodwyd ef.  Ar ei ffordd yn ôl i'w lety, mewn hen weithdy gofaint dros y ffordd i chwarel Prince Llywelyn, yn hwyr y noson honno, rhaid oedd iddo fo a chyfaill, Thomas Jones groesi hen bont, (yr un sy yno ar hyn o bryd amwni).  Yn ôl yr hanes gorfu i Thomas Jones arwain Smith dros y bont, gan nad oedd yn rhy saff ar ei draed, dan ddylanwad y ddiod. Wedi cyrraedd man cul ar y bont, doedd dim lle iddynt gerdded ochr yn ochr.  Meddai'r Gwyddel wrth Tom. "Gollwng 'mraich i, mi fedrai groesi fu hun wsti", ac ar yr un pryd mi gamodd oddiar y bont a diflannu.  (Famous last words, ta be?)  Rhedodd Thomas Jones yn ôl i'r pentra am help, gan gnocio ar sawl drws a gweiddi, "Ma Frank druan wedi disgyn i'r dŵr a boddi" Yn ôl y gohebydd, doedd o ddim yn siarad yn glir iawn, gan ei fod ynta' yn feddw.  Mi lwyddodd i ddeffro rhai o'r trigolion, ond ni allai gael neb i godi, gan fod trigolion Do’ddelan wedi hen arfer a chael rhai'n cnocio drysau arnynt oria mân y bora, a doedd neb yn rhoi llawer o sylw i'r twrw y noson honno.   Sydd yn rhoi rhyw fath o syniad ichi pa mor annioddefol oedd y sefyllfa byw yn yr ardal ar y pryd, a'r trigolion yn gorfod diodde aflonyddu fel hyn yn rheolaidd.  

Gan mod i'n sôn am Robert Dougall, un o'r contractwyr, doedd ynta fawr gwell na'i weithwyr 'chwaith, fel troseddwr, wrth weld ei hanes yn cael dirwy o 14/- gan ynadon Betws am sgota heb drwydded yn yr afon yn Awst 1877.

Daethpwyd o hyd i ddyn o Ddinas Mawddwy wedi marw yn N'ddelan yn Chwefror 1876.  Roedd ynta'n fynychwr rheolaidd yn nhafarnau'r pentra' hefyd, ac wedi bod yn yfed yn drwm y noson y daethpwyd o hyd i'w gorff.  Bu cryn amheuaeth i amgylchiadau ei farw. Ar un amser tybid iddo gael ei lofruddio, ond wedi ymholiadau trylwyr am beth amser gan yr heddlu, penderfynwyd na fyddai neb yn trafferthu lladd dyn heb geiniog i'w enw, a chafwyd rheithfarn o farw o'r oerni wedi iddo ddisgyn i gysgu yn feddw ar ôl trwytho'i hun gyda gormod o'r ddiod gadarn. Er gwrthwynebiad pobl ymneilltuol, ddirwestol Do’ddelan i ddiota, cafwyd ysbryd dyngarol ar ei ora' ganddynt wrth weld i gasgliad gael ei gwneud rownd y pentra tuag at ei gladdu, ac anfonwyd £5 i'w fam weddw yn Ninas Mawddwy. Rhoddodd y brodyr Dougall, ei gyflogwyr £1, arian cyflog dyledus iddo, tuag at y casgliad.

- - - - - - - - -

(LLUN- gweithwyr rheilffordd. Rhan o lun yn y parth cyhoeddus) 

Mwy tro nesa...