30.10.26

Cyfnod y Nafis yn dod i ben...

Pan feddyliwch am y peth, roedd yna rhywbeth trist iawn mewn achos o farwolaeth ymysg y nafis.  

'Doedd gan nifer fawr ohonyn nhw ddim cartre' sefydlog yn unlle, a'r barics neu'r lojins, neu gwaeth fyth hen sgubor ac ati fyddai'r lloches mewn safle benodol, nes gorfod symud ymlaen i ddilyn y gwaith i ran arall o'r wlad, ac ail-ddechrau'r broses ddigalon unwaith yn rhagor.  Ond pan fyddai un yn marw yn ystod cyfnod y gontract, byddai yn cael angladd hollol syml, tlodaidd, heb neb ambell waith ond y clerigwr ac un neu ddau o gydweithwyr efallai i'w hebrwng ar ei daith ola’, heb na charreg na chroes i nodi eu bodolaeth ar y byd 'ma erioed.  Cafwyd engrhaifft o hyn mewn adroddiad yn y Cambrian News ar y 18fed o Fai 1877. Dyma fras-gyfieithiad o'r hanes:

Daeth gyrfa hen nafi i'w derfyn cynnar mewn beudy ynghanol twmpath o fanus ddydd Mercher diwetha'.  Y Sul cynt yr oedd yng nghwmni rhai eraill yn yfed a chanu mewn gwahanol dafarnau.  Byddai pob ceiniog a gawsai yn cael ei wario ar gwrw cry', a phan ddaeth salwch heibio, doedd ganddo'r un geiniog ar un ochr.  Yr unig loches a gawsai hyd iddo oedd beudy, a'r gwely gora' oedd twmpath o fanus.  Ond daeth angau heibio i'w ryddhau o'i boenau bydol.  Nos Sadwrn, yn hwyr, fe'i claddwyd ym mynwent y plwy'. Roedd yno rai meddw, yn rhegi i'r cymyla, ac yn anealladwy wrth siarad.  Fel y cyrhaeddodd y clerigwr y rhan yn sôn am atgyfodiad yr enaid, dyma un nafi chwîl yn gweiddi.."Myn  d…. mae o'n ddigon saff, chodith o byth eto."  Fel y darllenwyd "Mi glywais lais o'r Nef yn dweud"..mi waeddodd yr un nafi,  "Na myn d… chlywaist ti ddim byd o'r fath."  Ar y pwynt hwnnw, rhuthrodd y ficer allan o'r fynwent.

Mewn adroddiadau eraill am farwolaeth ymysg y nafis tua'r un adeg cyfeiriwyd at William Davies, neu Wil Fyngys, fel y'i gelwid, a ddarganfyddwyd yn farw ar y ffordd rhwng Betws a Do’ddelan.  Dim esboniad be ddigwyddodd iddo, dim ond 'found dead', a dyna ddiwedd ar y mater.  Ond felly roedd hi. I feddyliau cul y gohebwyr hynny, roedd nafis yn neb, yn is na baw.

Un ffaith ddiddorol y dois ar ei draws oedd cyfeiriad ymysg cofnodion hen 'sbyty Oakeley. Dywedai fod yr LNWR wedi talu ffioedd o £23.6s yn Rhagfyr 1877 am ofalu am Edward Jones, a anafwyd yn ddifrifol yn ystod cyfnod adeiladu'r lein. 

Llun gyda chaniatâd Steffan ab Owain -o'i lyfr 'Hanes y Twnnel Mawr a Rheilffordd LNWR 1872-1881'. Rhai o'r gweithwyr a'r periannau drilio ym mhen deheuol y Twnnel Mawr ger Pant yr Afon, Blaenau Ffestiniog.

Erbyn diwedd 1878, roedd rhan fwya o'r twnel, a'r siafftia' wedi'u cwblhau, a'r gweithlu wedi'i ostwng o'r 1,100 a gyflogid ar ei ucha', i thua 800 o ddynion.  Mae'n debyg fod y costau yn achosi pryder i'r contractwyr, wrth i'r cyflog ostwng o ddwy geiniog y dydd.  Roedd yr arafu yn y gwaith yn destun poendod i ddynion busnes fel Elis o'r Nant ac eraill.  Mor gynnar ag Awst 1876, prin dwy flynedd wedi cychwyn ar y gwaith roedd Elis yn dweud yn y Cambrian News, (cyfieithiad)

Mae nifer o ddynion yn gadael ar hyn o bryd fel y prinha'r gwaith ar y lein, ond bydd yn rhaid aros am beth amser eto cyn y gwelwn unrhyw beth tebyg i drên yn rhedeg rhwng y fan yma a Betws y coed.  Mae pobl yn codi adeiladau drudfawr gyda ground rent tebyg i'r hyn a delir yn Lerpwl.

O fewn blwyddyn, yng Ngorffennaf 1877, dan newyddion Do’ddelan yn y C.N, roedd Elis yn swnio'n orfoleddus wrth ddatgan y newyddion fod y nafis wedi mynd i gyd (h.y., o Do’ddelan)  "Nid yw'r bobol eisio'u gweld byth eto, tra bu'r genhedlaeth hon yn fyw", meddai, gan gwestiynu doethineb cael dau blismon i'r pentra, pryd mewn ffaith nad oedd angen un erbyn hynny, ychwanegodd.

Ond, yn baradocsaidd, er ei orfoledd yn gweld y nafis yn gadael, mi sgwennodd adroddiad yn Y Faner yn fuan wedyn fel petai yn wirioneddol golli'r nafis.  Daw yr adroddiad hwnnw syniad inni o gyfraniad y gwaith, a'r nafis, i economi Do’ddelan ar y pryd:

Pan oedd yma luoedd o nafis, ac o weithwyr eraill y llinell, yr oedd yn lled hawdd gwerthu pob math o nwyddau bwytadwy ac at ymwisgo am brisiau tra uchel: ond erbyn heddyw mae y rhan fwyaf o weithwyr y ffordd haearn wedi clirio ymaith, ac eraill yn dilyn eu hol yn barhaus. Gellir dweud fod rhyw bedwar cant, a arferant brynu y rhan fwyaf o'u hymborth a'u dillad yma, wedi chwalu ymaith o ardal y gog…Y pryd hyny yr oedd pris uchel am lafur…Yr oedd yn hawdd gwerthu yr oll o'r nwyddau a erchid, gan sicrhau elw da. Tybiodd rhai y parhai felly holl ddyddiau y ddaear; ond yn anffodus yr oeddwn yn digwydd bod yn dipyn o amheuwr.  Gwelwn yn barhaus elfennau o adfeiliad yn yr ardal.  Dim arwyddion o gynnydd…Anogais amryw i ymbwyllo; ond nid felly y gwnaethant.  Anhawdd iawn cael gan ambell un gredu y bodda hyd nes y byddo wedi gwneud…
- - - - - - - - - - - - -

Mwy tro nesa'