27.7.25

Cerddi Cydwybod -Adfail

Lle bu o gylch ei aelwyd
Sawl teulu'n werth y byd,
A'r croeso uwch ei glicied
Yn f'heniaith i o hyd;
Ond newid wnaeth hen ffordd o fyw,
A'r berllan heddiw sydd yn wyw.

Nid yw ond murddun bellach
A'i furiau'n hidlo'r gwynt,
A neb ar ôl i gofio'r
Difyrwch ddyddiau gynt;
Ond daw aderyn yn ei dro
I godi teulu dan ei do.

Er trist ei weld yn adfail
Er colli ŷd y wlad,
Mil gwell yw chwalu'r muriau
Nac iddo fynd yn rhad
I estron wennol godi nyth,
I newid ffordd o fyw am byth.



25.7.25

Cerddi Cydwybod -Craith

Cerdd arall sy'n cyfleu fy nheimladau am y sefyllfa sy'n bodoli yng nghefn gwlad Cymru'n gynyddol y dyddiau hyn.

Ni sylwai ar yr hagrwch
yn y tomenydd llwm - 
gweddillion gwaith y chwarel
yn gysgod dros y Cwm;
roedd yn baradwys iddo fo
wrth iddo lordio'i mewn i'r fro.

Ond ni all estron weled
y graith sydd yn fy nghôl,
a minnau yn hiraethu
am ddyddiau na ddaw 'n'ôl,
pan oeddem ni, drigolion gwâr
yn berchen ar ein milltir sgwâr.



2.7.25

Cerddi Cydwybod -Dada

Cerdd i ‘Nhad, William Hugh Williams 1890-1941

Nid oedd ond meidrolyn;
ond i mi yn arwr i'w addoli,
yn eilun o Farcsydd y bonc,
hen rebal o rybelwr
a adawodd ei farc ar blant ei yfory.

Â'i gŷn, yn ei gwman, 
wedi oes o wthio a phlygu, 
nid i swyddog, 
ond i straen y fargen ddima;
yn farnwr diwyro 
na ildiai air i'r stiward a'i gachwrs gynffonwyr,
a phob wagan-gynta'r-ryn.

Mae rheiliau rhydlyd ar lethrau Rhiw Bach,
lle bu dada’n un o bererinion y graig,
fel petaent yn wylofain y dadfeiliad,
yn atgof o’r fintai foreuol
o’r werin wargam ar glip yr inclên;
cam wrth gam o besychu
adlais llwch y gwaith 
ar benglog o graig.

Prin yw'r cof amdano, a'r llun yn brinnach;
y darlun hwn, o lwch oesoedd,
lle mae'r dwylo'n datgelu'r cyfan
o artaith ei deithi; 
digofaint wedi lapio'n dynn
yn y byd brwnt oedd yn bod.
Y dwylo crog na blethwyd mewn gweddi
fyth wedyn,
drannoeth ei brofedigaeth,
ac yntau heb dduw na'i hatebodd.

Wyneb di-wên fel petai'n mesur
pob modfedd o annhegwch 
y lladrad a ddwynodd Rhys bach i fedd.

Rhychau’r talcen yn achwyn o’r cyni,
a’r sgerbydau gweigion fu’n rhythu’r niwl
o anwybodaeth am anhegwch, 
ac am gwestiynnau ddi-ateb,
pan daenwyd tawelwch fel carthen wlân
ar wely angau’r felin.
Gwelaf osgo’r crefftwr yn ei bileri o freichiau,
a llymder ei wyneb yn arllwys dicter un
â chysgod tlodi’n fythol gwmpeini iddo,
a llidiardau gobaith i gyd ar gau.

O reddf, yn hen athronydd
a’i angerdd am iawnderau’n ingol,
heb unwaith ganlyn unffurfiaeth y dorf
i fegio o goffrau plwy’,
nac ymbesgi ar frasder cnawd afiach.

I mi, roedd rhin yr arwr
a rhuddin ein hil ynddo,
er hir loes ei gaethiwed
ar erwau ein hangen ninnau,
a thyndra’r gadwyn angen.

'Dada' ydoedd i ni, y nythaid wyth cyw,
y platŵn o ufudd-dod
na feiddiai yngan air i'w groesi
wrth barêdio yn rheng at fwrdd
caban o gegin,
heb gŵyn am lwydni'r fwydlen 
wedi taw y corn gwaith. 

Heddiw, nid yw ond sgriffiad ar gofeb
o lechen lâs,
megis cip ar feini y gorffennol.

'Dada' ydoedd, a 'Dada' fydd,
a'i stamp wedi sticio arna'i,

              ... y rebal anorffenedig. 

 

29.6.25

Cerddi Cydwybod -Llidiart

Gobeithio fod y gerdd isod yn esbonio fy nheimladau, a theimladau nifer o nghyfoedion bellach. Daeth tro ar fyd ar ein cynefinoedd dros yr hanner canrif aeth heibio, yn sicr.

'R'ôl cyfri' a didoli,
Rhaid ydoedd sicrhau
Fod praidd yn ei gynefin
A'r llidiart wedi'i chau,
Er mwyn rhoi'r heidiau ar wahân
I gadw enwau’r brîd yn lân.

Ond collwyd cownt ar bennau,
Daeth pydredd i’r hen bren,
A drws y prif fynediad
Agorwyd led y pen';
Ysbeilio had ein porfa ni
Wna'r estron haid ddaw drwyddi hi.

Mynedfa Bryn Castell. Bryngaer Oes yr Haearn lleol, yn edrych trwy'r adwy at dirlun hanesyddol a welodd newidiadau rhyfeddol ac ymosodiadau a goresgyniad dros y canrifoedd


27.6.25

Cerddi Cydwybod -Iaith

Un arall o 'ngherddi sy'n adlewyrchu fy nadrithiad yn y drefn ieithyddol cefn-gwlad Cymru erbyn hyn. Wrth i ystadegau ddangos y dirywiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau, anodd yw bod yn galonogol. Miliwn o siaradwyr erbyn 2050? Gobeithio wir.

 

Carreg Cantiori (nid yr un wreiddiol) ger safle gwaith dẃr Llyn Morwynion
Pan oeddwn i yn blentyn
Ro'wn i o'r farn o hyd
Mai dim ond iaith fy aelwyd
A glywid trwy'r holl fyd.

Ond syndod oedd darganfod
Wrth fynd o gam i gam,
Fod gennyf fwy i'w ddysgu
Na iaith fy nhad a mam.

Rwy'f innau erbyn heddiw
Yn ymfalchïo'n iawn
Wrth siarad â nghymydog
Â'i eirfa ef yn llawn.

Ond, anodd yn fy libart,
Yw ceisio parchu'r dyn
Heb awydd ganddo'i siarad 
Ond uniaith - iaith ei hun.


4.6.25

Cerddi Cydwybod -Brwydr

Cerdd ddychmygol a gyfansoddais wrth weld pobl ddiarth yn symud i mewn i'm bro, a'r newid a fu yn y gymuned. 

Ni fu 'r'un cweryl rhyngom,
Na geiriau cas ychwaith,
Ac yntau yn gymydog
I mi ers amser maith;
Ond rhywsut, trawsnewidiwyd bro
Oherwydd ei ddyfodiad o.

Er estyn llaw o gymod
I'm c'warfod dros y bwrdd,
Encilio wnaiff, a gwrthod
Ddod hanner ffordd i'm cwrdd;
Ac yntau, estron, er y gwa'dd
Heb fath o erfyn, sydd yn lladd.

Ac er milwrio'n erbyn,
Mae pethau'n mynd yn waeth,
Nid hawdd i ni wrthsefyll,
Â'n dwylo ni yn gaeth;
Er ceisio brwydro, colled yw, 
Difroda hwn hen ffordd o fyw.

Llun gan Alan Hughes, trwy drwydded Comin Creadigol 2.0


2.6.25

Cerddi Cydwybod -Cysur Cymdogaeth

Cerdd sgwennais adeg gofid Covid, Hydref 2020

Ffordd o fyw a newidiodd yn sydyn,
mae’r effaith i’w weld ar bob stryd,
y gelyn a ddaeth yn ddi-rybudd,
i’n dychryn, ac i newid ein byd.

R’wyn colli cyfarfod ’rhen gwmni,
a ffrindiau dros sgwrs yn y dre’,
gan obeithio ’daw’r haul unwaith eto 
i godi’r hen hwyliau ynte.

Mae’n chwith am yr hyn oedd yn arfer
mewn lle sydd mor annwyl â hwn,
’does unlle’n y byd fel ein hardal
am wir gyfeillgarwch, mi wn.

A diolchaf bob dydd am gymdogaeth
a chymdeithas arbennig ein bro;
mae hynny yn eli i’r galon,
i f’anwesu yn llon, fel bob tro.

A phan ddaw yr haul dros ein bryniau   
i adfer yr hyn oedd yn bod, 
cawn ddiolch i Dduw am ein gwarchod,
a gweddïo am yr hyn sydd i ddod.

Cwm Teigl yn haul yr hwyr. Treuliais sawl awr yn y cynefin arbennig hwn.