Un arall o 'ngherddi sy'n adlewyrchu fy nadrithiad yn y drefn ieithyddol cefn-gwlad Cymru erbyn hyn. Wrth i ystadegau ddangos y dirywiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn ein cymunedau, anodd yw bod yn galonogol. Miliwn o siaradwyr erbyn 2050? Gobeithio wir.
![]() |
Carreg Cantiori (nid yr un wreiddiol) ger safle gwaith dẃr Llyn Morwynion |
Ro'wn i o'r farn o hyd
Mai dim ond iaith fy aelwyd
A glywid trwy'r holl fyd.
Ond syndod oedd darganfod
Wrth fynd o gam i gam,
Fod gennyf fwy i'w ddysgu
Na iaith fy nhad a mam.
Rwy'f innau erbyn heddiw
Yn ymfalchïo'n iawn
Wrth siarad â nghymydog
Â'i eirfa ef yn llawn.
Ond, anodd yn fy libart,
Yw ceisio parchu'r dyn
Heb awydd ganddo'i siarad
Ond uniaith - iaith ei hun.