31.1.25

Cyfeillion

Pan deimlaf bwysau bywyd
Yn gwasgu arnai'n dynn,
Mi af am dro i'r mynydd
Â'm geilw, fel y mynn,
Ymhell o swn helyntion byd                
A'i anfoesoldeb oll i gyd.

Fe grwydrais y llechweddau,
Bum yno lawer gwaith,
Heb orfod dilyn cywair
Na llwybr cam ychwaith.
A dyna'r man y mynnaf fod,
Heb geisio ffafr, na derbyn clod.

Yn heddwch yr unigedd,
Caf leddfu ambell loes;
Caf ryddid i anghofio,
Am gyfnod, bryntni'r oes;
Rhydd hyn i 'mywyd hunan-nerth,
I sylweddoli maint ei werth.

A phan ddaw'r alwad heibio
I minnau fynd o'ch plith,
Gwasgarwch fy ngweddillion
I'r llethrau, 'mysg y gwlith,
Er mwyn i'r bryniau hyn a dyn
Fu'n gymaint ffrindiau, ddod yn un.

 

Edrych Tua Sarn Helen