Ni ddaw yr un cyfeilydd,
Na neb i'w arwain, 'chwaith,
A phob aelod wedi'i drwytho
Mewn cerdd ers amser maith;
Ac ambell un, yn swanc ei siwt,
Mor rhwysg ei gân â'i swynol ffliwt.
Yr un yw'r gân blygeiniol -
Newidiwyd dim o'r dôn,
Na phatrwm gwisg y canwyr
O'r dechrau, 'n'ôl y sôn;
A'u miwsig hwythau, ers cyn co'
Yn codi calon, fel pob tro.
-------------------------------------------------