24.1.25

Cymeriadau Penmachno Gynt

Dim ond hel atgofion, wrth fyned yn hŷn
A wnes, am gyfoedion o ddoe, fesul un;
Wynebau erstalwm ddaeth eto yn fyw,
A’u lleisiau cyfarwydd a ddychwel i’m clyw.

-----------------------------------
Dei Soldiwr, bonheddwr, os bu un erioed,
Jôs Bwtsiar, Dei Wmffra a Dafydd Tŷ’n Coed:
Twm Ring a Guts Morus, Wil Dafis a Sem,
Fred Wood ac Aneurin, a Tomi, a Pem;
Richie Thomas, a’i gariad angerddol at fro
A’i magodd; er gofid, mae yntau’n y gro.
Hen fois ‘mysg y gora’ oedd Ifan Tŷ Rhos,
Wmffra Lloyd, Ifan Owen a’r unigryw Wil Jôs;
Ifor Jones, yr anwyla’, yn organydd o fri
Yn Salem, ac yntau dros ei nawdeg a thri.

Bu i rai gael eu ‘nabod wrth eu cartrefi gynt,
Ac enwau’r trigfannau’n atseinio’n y gwynt;
Tom London, Now Dolydd a ‘rhen Dei Bryn Glas,
A’r ddau ganwr, Twm Gorlan, ac Ifan y Plas;
Price Caffi, Stanli Machno a Robin Penffridd,
Ac Idwal Nant Crogwyn - pob un yn y pridd.
Dwalad Wilias, Tan’clogwyn, a’i barch at y Sul
A gadwodd mor ffyddlon i’r llwybr cul;
Owen Edwards, y Tyddyn, un arall o’r criw
A’i sêl at ei gapel mor deyrngar, mor driw.
Hen gyfaill caredig, - rhaid cyfri’ y gost
O’i golli o’i gownter, - ‘rhen Roger y Post;
John Robaits o’r Benar a Robat Dafis y Parc
Fu’n rhan o genhedlaeth wnaeth dipyn o farc;
Robat Wilias y Gwiga a Richie, Blaen Ddôl,
A Dei o Fryn Eithin - ni ddônt fyth yn ôl.
Roli Cefn - hen gymeriad, a Rolant Waen Llan;
Un o ‘Stiniog yn wreiddiol oedd Robin Coch Gwan.
Cymeriadau arbennig oedd Elis Tŷ’n Berth,
Ac Ifan, Cae Llwyd, amrhisiadwy eu gwerth.
Roedd amryw John Lloyd ym Mhenmachno, yn wir,
Sef o’r Henrhiw, Minafon a’r Derwen Dir,
A John Lloyd, Blaen Buarth; mae f’atgofion yn drwch
O straeon amdanynt, fel am John ‘Lias y Swch.
Dic Hafodwyryd a Bob Groesffordd, ei frawd,
O deulu niferus, a fagwyd mor dlawd;
Richard ‘r’Erw, Now ‘Sgwfrith, a Dei Hafod Fraith -
I gyd wedi myned ers amser maith.
Ac Iorwerth Blaenglasgwm, mae yntau’n y bedd,
Un  â hiwmor arbennig, yn gorwedd mewn hedd.

Rhaid peidio anghofio’r menywod o’u plith
Sy’ wedi diflannu o’r Llan rif y gwlith;
Lisi Bennar a Kitty, o hyn rwyf yn daer,
Na fu dwy mor liwgar â’r hynod ddwy chwaer.
Annie Ellis, Gwladys ‘Sgwfrith a hefyd ‘Lel-Lel’,
A Meri Felin, a fagwyd gan ‘rhen Anti Nel;
A phwy all anghofio, heb deimlo yn drist
Am Salem ac Amenio Ann bach Iesu Grist?
Magi’r ‘Henthriw’, Annie Tomos, ac Ann bach Tŷ’n coed,
Ac Annie Evans, athrawes, yr anwyla’ erioed.
Un arall a fu’n dysgu, capelwraig o fri,
Oedd Miss Lisabeth Evans, neu ‘L.K.’ i ni.

Daeth rhai’n adnabyddus trwy lysenwau’n mhob man,
Megis Welshi, Wil Chwalwr a Bob Margiad Ann.
Er na chafodd o neb o’i gyfoedion o’i blaid,
Ifan ‘Brenin’ oedd un a ddywedai’n ddi-baid
O’i ‘stafell ddi-sylw yn y ‘Sendy dlawd,
Mai ef oedd yn frenin, heb ofni ‘r’un gwawd.
David Davies, dyn tracsion, a aeth yn ‘Dei’Dei’ -
Mae’r cof am y cyfan yn fy ‘nghadw-mi-gei.’
Rhai enwau arhosodd oherwydd y lle
Y’i ganed, fel y teulu ddaeth yma o’r De;
Nid ‘Hwntws’ y’i gelwid, dywedaf yn glaer,
Ond Defi John South, a Blodwen ei chwaer.
‘Wa’ Penbedw, a’r Piwiaid - sef y teulu Pugh
Fu’n rhan o gymdogaeth mor annwyl, mor fyw,
Fel Sbrig a Thwm Cyrli a Robin Jôs Glo, -
Pob un yn rhan bwysig o hanes y fro.
Rhai ‘bach’ eu llysenwau - Dei Gwyndy a Sen,
Ond yn fawr eu cymeraid, fel Meurig a Len;
Ned ‘bach’ ga’dd ‘r’un enw, fel Dic ‘bach’ Ffor’ Cwm,
A Glyn, â’i ffugenw yn Glyn Cheeky Bwm.
Ond ‘r’enwoca o’r bychain a fu yn y Llan
Gyda’i straeon chwedlonol, oedd Crad bach Tan Lan.

Mor anodd yw derbyn nad yw eu henwau hwy
Nawr ond ‘sgrifen ar gerrig mynwentydd y plwy’.
Cymeriadau Penmachno, gwerinol a gwâr,
A’u gwreiddiau yn nyfnder eu milltir sgwâr.
Delweddau hen ddyddiau na ddônt byth yn ôl
Sy’n gadael rhyw hiraeth fel hyn yn fy nghôl.

Dim ond hel atgofion, wrth fyned yn hŷn
A wnes, am gyfoedion o ddoe, fesul un;
Wynebau erstalwm ddaeth eto yn fyw,
A’u lleisiau cyfarwydd a ddychwel i’m clyw.

----------------------------------            

Cyfansoddwyd tua 2010, er cof am rai o gymeriadau annwyl fy henfro. Heddwch i'w llwch.