24.1.25

Gardd Deuluol

Rhois dro yma ac acw
i'r gwys, pan oedd raid,
rhwng chwynnu a thendio
a'r meithrin ddi-baid.

Maen't yma'n blodeuo,
yn dysteb i mi
o'r gofal a gafwyd
yn f'Eden fach i.

Daeth amser i fedi,
fel cynhaeaf ar ddôl,
a'r gost, ar ei chanfed
ad-dalwyd yn ôl.

-------------------------------------

Yr Ardd yn yr Haf

Yr egin. Llun o ddechrau'r wythdegau!


 

Egin. Blog y mab hynaf, Paul