Nid yw ond rhan o dirlun,
rhyw gilcyn bach di-nod,
ac er ei holl wendidau,
'fan hyn 'rwy'n mynnu bod;
y lle â'r ddawn i swyno dyn,
nid unrhyw fro; fy mro fy hun.
yn wir, mae'n werth y byd;
a chanmol yr hen ardal
ag angerdd wnaf o hyd;
hen ffordd o fyw, a'i phobl wâr
a fowldiodd gwrs fy milltir sgwâr.
Fel clwy' dros bob cynefin,
daeth newidiadau, do,
ond er wynebu creithiau,
yr un yw'r annwyl fro:
ac wedi pryder ambell waith,
mae'n dal i arddel yr hen iaith.
'Does obaith imi symud
ymhell o ffiniau’r dre,
can's yma mae fy nghalon,
can’s yma mae fy lle;
y lle nad oes ei well i mi,
a'r lle sy'n rhan ohonof i.
Un o gerddi a gyfansoddais rai blynyddoedd yn ól, wrth geisio gwerthfawrogi'r gymdeithas y bum yn rhan ohoni ers tro. Er i mi fod yn enedigol o Benmachno, a 'ngwreiddiau'n mynd yn ôl ganrifoedd yno, rwy'n ystyried fy hun yn Stiniogwr ers 1965, y flwyddyn y cyrhaeddais y dre'.
Dyma pryd y disgynnais mewn cariad â Beryl, a ddaeth yn wraig i mi yn 1966. Roedd yn rhan mawr o'r gynefin y dois yn rhan ohoni, ac yn rhan mwy o 'mywyd i, hyd ei cholli ym Mai 2023. Er cof anwylaf am Beryl, fy nghariad oes, yr hon yr wyf yn ei cholli yn anferthol.