27.11.26

Iaith y Chwaral

Ail hanner yr ysgrif ar dafodiaith arbennig Stiniog

Wagan, nid wagen, ac yn sicr, nid wagon fyddai'n cario'r cerrig, sydd yn atgoffa dyn o'r dywediad ffraeth lleol am un sy'n gwthio'i hun i'r blaen, ac yn ystyried ei hun yn bwysig fel wagan gynta'r rýn. 

Ond cyn i'r astudiaeth hon fynd yn arolwg ar ymadroddion, fe drown yn ôl at dafodiaith ardal 'Stiniog, gan gadw golwg ar ddywediadau ac enwau'r fro ar yr un pryd. Wrth drafod y wagan, nid cael eu llusgo, eu cario, na’u tynnu i fyny’r inclêns fyddent, cofiwch, ond cael eu criwlio i fyny, gair na’i chlywir yn unman arall ond ‘Stiniog, dybiwn i.

Byddai ambell chwarelwr yn gweld ei fysidd yn mynd i'r byw, wrth weithio'n galad, yn enwedig os byddai'r fargan yn byta'i phen, sef yn rhan o’r chwarel â chynnyrch gwael. Fel y gweithiwrs a nodwyd eisoes, ceid llwythwrs, creigiwrs, fforddoliwrs a sawl un arall o’r wrs -yn hytrach na’r llwythwyr, creigwyr a’r fforddolwyr- ym mhob chwarel yn y cylch. 

Dro arall, wedi cael bargan dda, byddai'n bosib' gwneud cyflog golêw, ac wedi llwyddo i lenwi slediad, a gwneud digon i gadw ryw gelc bach naill ochor amball waith, heb i nacw, sef y wraig, gael gwybod. Yna, gyda lwc, ni fydda' cyfla'n dod heibio i gael dengid o'r gwaith, heb i'r stiward gael gw'bod, a chael mynd i foddi c'neua, neu cael sesh go iawn yn y dafarn. 

Roedd rhai chwarelwyr wedi sefydlu ryw ffynd bach yn y gwaith ar gyfer mynd â'r teulu ar wilia lawr côst, i Rhyl neu Landudno, a nifer yn ei gaddo hi o ddifri', ac yn gyrru arni er mwyn cyrradd y nod.  Ond, er i lawar ohonynt lwyddo i wneud hynny, roedd amball un yn gorfadd ar 'i chefn hi, ac yn ddiawliaid diog, ac yn amal yn cael eu hanfon adra wedi hannar stem, neu hanner diwrnod o waith mewn geiriau eraill. 

Bu i fwy nac un smit - gair a ddaw o'r Saesneg submit, effeithio ar waith y chwareli dros y blynyddoedd, pryd y gorfodwyd y gweithwyr i roddi'r tŵls o'r neilltu, am wahanol resymau, megis tywydd garw, prinder cerrig neu ryw anghydfod arall. Ac wrth sôn am dywydd garw, mae atgof o drychineb a ddigwyddodd yn 1895, yn ystod storm enbyd o eira ym mis Ionawr y flwyddyn honno, yn cael ei atgyfodi yn nisgrifiad rhai o'r chwarelwyr hyn wrth weld eira yn lluwchio o'n cwmpas. Heth Bob Robaits a ddefnyddir hyd heddiw ganddynt, er côf am Robert Roberts, y gŵr ifanc a gollodd ei fywyd yn y storm fawr honno ger chwarel Rhiwbach, a goroesodd yr ymadroddiad i'n dyddiau ni.

Ond rhag ofn i neb feddwl ‘mod i’n dechrau poitshio, sydd yn ‘Stiniog yn golygu rwdlan, neu wneud llanast, gwell fyddai efallai imi gyfeirio at eiriau traddodiadol y fro ar dermau sydd bellach mewn peryg’ o fynd yn angof. Enw a roddir ar damaid da o lechen yw clwt, neu clytia. I geisio rhoi cymorth i’r bechgyn ifainc gael dau ben llinyn ynghyd, byddai’n draddodiad yn y chwareli lleol i’r chwarelwyr profiadol roddi clwt diwadd mis iddynt i godi rhif eu cownt. Stolpyn - lluosog - stolpia, sy’n enw arall ar ddarn/au o lechfaen yn barod i’w drin.  “Mae’r cerrig yma fel coed, achan” oedd cwyn ambell un, wrth gyfeirio at lechi anodd i’w hollti. Cerrig fel gwêr oedd y disgrifiad am lechi oedd yn hollti’n dda.  

Gair diddorol na chlywir mohono yn y fro bellach, nad yw'n rhan o dafodiaith chwarelyddol, yw ofargrafangau, a fathwyd gan amaethwyr am ddarnau o bren a ddefnyddid i estyn maint llwyth trol o wair i'w gario o'r cae i'r das. Ond mi fyddai'n smonach go iawn petai'r llwyth hwnnw'n troi!

Wrth reswm, byddai bratiaith yn cael ei glywed yn yr agorydd dwfn yng nghrombil y mynyddoedd, ac yn y melinau a'r ponciau ym mhob chwarel flynyddoedd yn ôl, a'r arferiad wedi ei gario ymlaen i'n dyddiau ni. Mae sawl ffactor wedi cyfrannu at y newidiadau a ddaeth gerbron cymdeithas, diwylliant a ieithwedd 'Stiniog dros y blynyddoedd diweddaraf. Ac wrth stwna, neu chwilota o f'amgylch acw y dois i ambell ganlyniad. Collwyd cannoedd o chwarelwyr i arian mawr y gorsafoedd trydan ddaeth i'r ardal yn ystod y 1950-60au, achosodd i nifer o chwareli gau. Bu i ostyngiad yn niferoedd y chwarelwyr ifainc oedd yn mynychu lleoedd o addoliad wedi'r ddau ryfel byd effeithio'n arw ar y dafodiaith gynhenid yn y cabanau hefyd. Ond efallai mai dylanwad y teledu o'r 1960au ymlaen, ac effeithiau'r Seisnigeiddio yn ddiweddar sydd yn rhannol gyfrifol am ddirywiad sylweddol yn nhafodieithoedd a safonau'r iaith Gymraeg mewn ardaloedd a oeddynt gynt yn gadarnleoedd i'r iaith. Brwgaij, neu dyfiant blêr i chi, yn prysur dagu'r hen iaith flodeuog gynt! Beth bynnag, rhaid meddwl am gloi yr hyn o eiriau tafodieithol 'Stiniog, â nacw wrthi'n darparu'r swpar chwaral imi.

Er i niferoedd chwarelwyr ‘Stiniog ostwng i lai na hanner cant erbyn heddiw, i’w gymharu â’r pedair mil fu’n cael eu cyflogi yn yr oddeutu dwsin o chwareli yno ar droad yr 20fed ganrif, mae llawer o’r hen ymadroddion a ddefnyddiwyd gan y gweithwyr hynny yn dal i gael eu hymarfer. Mae’r iaith Gymraeg yn parhau yn ddigon cryf ar strydoedd y Blaenau, a’r termau a’r dafodiaith arbennig sy’n perthyn i’w dinasyddion i’w clywed o hyd yno. 

I’r rhai ohonoch sy’n byw y tu allan i’n bro, mynnwch ymweld â phrifddinas lechi'r byd, ac i glywed drosoch eich hunain!

- - - - -

(Ysgrif a anfonais i gystadleuaeth ‘Steddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffinau, 2013, ‘Ymdriniaeth â 50 o eiriau tafodieithol o un ardal benodol.’  dan y ffugenw Rybelwr Bach.)

Dolen at Ran 1