Y tro dwytha roeddwn yn son am hoffter y Nafis am hel cwrw... dyma barhau'r hanes:
Roedd camweddau'r 'anwariaid' hyn, fel y gelwid hwy gan lawer, yn fwyd a diod i golofnwyr wythnosolion y cyfnod. Byddai gan Elis o'r Nant fantais dros y gweddill o newyddiadurwyr, wrth fod ar stepan drws y digwyddiada' ar y lein, fwy neu lai.
Nid yn unig y gwnaeth hwn gymwynas fawr trwy gofnodi'r helyntion gyda'r nafis, ond rhoddodd ddarlun byw iawn inni o fywyd cymdeithasol, ac awyrgylch plwy Do'ddelan a'r plwyfi eraill o amgylch ar y pryd.. Ac mi wnaeth hynny yn ddi-flewyn-ar-dafod.
Dan golofn newyddion Dolwyddelan yn Llais y Wlad ar y 12fed o Dachwedd 1875 cafwyd hanes gan ohebydd di-enw am un o'r gweithwyr yn cael dirwy o 5/- yn y llys ym Metws y Coed am fod yn feddw yn nhafarn y Gwydyr, a Mrs Williams, y dafarnwraig, hithau'n cael dirwy am gyflenwi diod iddo ac yntau dros ei fesur ers meitin. Yn yr un llys dirwywyd Richard Pritchard, tafarnwr yr Ellen's Castle 20/- (£1 i chi bobol ifainc!) a chosta' am fetio trwy dosio pres am gwrw efo chwsmeriad yn ei dafarn ei hun.
Roedd y term drunk and disorderly yn rhan o ieithwedd bob-dydd y Manlysoedd yn y Betws a Llanrwst, a dyna oedd y cyhuddiad mwya’ cyffredin a wynebai'r nafis yn rheolaidd. Roedd 'afreolaeth'; 'dan ddylanwad diod feddwol'; 'ymladd' a 'gwrthod gadael tafarn' yn achosion cyffredin iawn a ddaethai o flaen ynadon y llysoedd, a'r gosb yn drwm bob tro.
| Llun tafarndy’r Crimea (Llywelyn Arms) gan Francis Wynne-Finch, 1870 |
Cyhuddwyd Mary Rostron, gwraig peririannydd ar y lein o fod yn feddw yn y Llywelyn Arms- y Crimea, ac am wrthod gadael y dafarn yn Nhachwedd 1875. (Fe laddwyd ei mab 13 oed, William mewn damwain erchyll ar y lein ychydig yn ddiweddarach, ac fe'i claddwyd ym mynwent yr eglwys yn No'ddelan.)
Ond roedd dyfodiad y nafis fel manna o'r Nef i dafarnwyr y fro, wrth i fasnach y tai potas gynyddu'n aruthrol. I bwysleiso hyn, mi hoffwn gyfeirio at adroddiad yn y Cambrian News am drosedd yn y Llywelyn Arms yn Hydref 1875, wedi rywun dorri i mewn i'r dafarn a dwyn £13 mewn sofrenni aur. Dyma ddywed y newyddiadurwr:
"Nos Sadwrn - diwrnod tâl" (fe'i talwyd bob pythefnos, yn ôl pob sôn) "pan y mae oddeutu 200-300 yn arfer ymweld â'r Crimea Inn - fe dorrodd rhywun i mewn i un o'r llofftydd…"
John Evans, un o Dalsarna', a oedd wedi bod yn lojio yn y dafarn ar un adeg oedd wedi dwyn yr eiddo. Fe'i hanfonwyd i garchar am 18 mis o Frawdlys Caernarfon yr Ionawr canlynol. Yn yr un llys carcharwyd nafi o Lanfaircaereinion am saith mis am ddwyn par o 'sgidia yn No'ddelan. (Un o deulu'r Penny’s oedd tafarnwr y Crimea, gyda llaw.)
| Safle tafarn y Crimea fel mae heddiw, o lwybr Gorddinan. Llun Paul W |
Ac wrth sôn am y Llywelyn Arms, dois ar draws y pwt difyr hwn: Yn 1881, er i'r gwaith ar y twnel gael ei gwblhau ers dwy flynedd, roedd nifer o nafis yn dal o gwmpas yr ardal, yn gweithio ar sychu cors Glanpwll, ar y lein o gyfeiriad y Bala, a gwneud seidings yn y Blaenau ac ati, ac yn dal i fynychu'r dafarn ar ben Bwlch Gorddinan. Byddai'r helyntion yno yn destun poen i ynadon yr ardal; cymaint felly fel y bu i J.Ernest Greaves, Llechwedd, Ynad Heddwch blaenllaw, fynd i lys trwyddedu Betws yn swydd bwrpas ym Medi 1881 i wrthwynebu adnewyddu trwydded y dafarn. Fel y cofnododd yn ei ddyddiadur, roedd honno yn daith lwyddiannus iddo; meddai : "Been to the Petty Sessions at Bettws-y-coed and succeeded in putting an end to the Crimea."
Felly, nid yn unig yn llwyddiant i Greaves a'i debyg, wrth i ddrysau'r ffynnon gwrw honno gau am byth, mae'r nodyn hwn yn gofnod gwerthfawr i haneswyr lleol, sef dyddiad swyddogol cau'r hen dafarn golledig honno.
- - - - - - - - - -
Y tro nesa: parhau efo hanes y tor-cyfraith...