Trafodwyd (mewn iaith lafar) i griw cwrs 'Llên Gwerin', Plas Tan y Bwlch 5 Chwefror 2011
Croeso mawr ichi'i gyd i'r Cell yma yn y Blaena', a diolch am y gwahoddiad i mi roi rhyw fraslun o hanas diwylliant yn y fro hon. "Rhyw chwartar awr sy isio sti", medda Twm Elias wrthai ar y ffôn 'chydig yn ôl. I bawb sy fy nabod, brawddag ydi chwartar awr o sgwrs i un mor gegog â fi, fel arfar, ond mi dria'i 'ngora Twm, dan yr amgylchiada cyfyngol. Maen debyg yr ai rhyw 5 munud dros y cwota, mae gen i ofn!
Lle dwi'n dechra ydi'r broblam fawr ynte? Mewn ardal fel hon, sy mor enwog am ei diwylliant, ei llenorion, cerddorion a'i chymerida ffraeth, fe allwn i'ch cadw chi yma am oria ar y pwnc, ond rhaid cofio eich bod ar Full Board lawr yn y Plas 'cw, ac isio gwerth eich pres yno yn toes?
Fel mae pob un ohonoch yn sylweddoli, siawns, ardal ddiwydiannol ydi Blaena Ffestiniog 'ma, ond wrth newid rhyw un lythyren fechan, mi gawn ni weld ei bod yn ardal ddiwylliannol iawn hefyd, a'r diwylliant hwnnw wedi ei wreiddio'n ddyfn ymysg y tomenni llechi o'n hamgylch. Mi fu cabanna'r chwareli 'yma yn fagwrfa i dorreth o ddynion hynod ddiwylliedig, - dyma, mewn ffaith oedd prifysgolion y werin-bobl a fu'n gweithio'r garreg lâs am eu bara a menyn dros y blynyddoedd. Doedd gan rhain yr un lefel 'O' nac 'A' tu ôl i'w henwa' o gwbl. Yr unig lefela, efo llythrenna'n sownd wrthyn nhw a wyddent amdanynt oedd y lefelau a weithient ynddynt yng nghrombil y graig, y lloriau niferus hynny oedd yn disgyn cyn ised a lefel y môr mewn ambell chwarel. Trwy'r cyfarfodydd llenyddol a cherddorol a gynhaliwyd yn ystod yr hanner awr ginio bob dydd yn y cabanna' rheiny y tyfodd rhai o hoelion wyth y gymdeithas yn 'Stiniog. Rhain a ddatblygoddd i fod yn arweinwyr y gân a'r gerdd y nifer fawr o sefydliada, capeli, cymdeithasa, eisteddfoda a chora a'r bandia' a flodeuodd dros y degawda yn y fro. Tydi amsar ddim yn caniatau immi ddechra rhestru'r nifer fawr o ddynion a gafodd eu trwytho gyda diwylliant y cabanna', ond efallai y dyliwn gyfeirio at y math o betha a drafodwyd gan y chwarelwyr hynny yn y cabanna', wethiau gannoedd o lathenni dan wyneb y graig.
Cedwid cofnodion o'r digwyddiada dyddiol yn y cabanna' bwyd rheiny, gan ysgrifenyddion cydwybodol, ac mae rhai o'r cofnodion hynny wedi goroesi hyd heddiw, ac mi gawn flas o'r diwylliant rown i'n sôn amdano'n gynharach wrth ddarllen rhai o gofnodion yr ysgrifenyddion cydwybodol rheiny. Dyma ambell berl o un llyfr cofnodion Caban Sink y Mynydd, chwarel Llechwedd, sy'n dyddio'n ôl rhwng 1902 a 1904.
A hithau yn gyfnod yn arwain at Ddiwygiad Mawr 1904-05, prin y byddai wsnos yn mynd heibio nad oedd trafod un o gymeriadau'r Beibl gan fynychwyr Caban Sink y Mynydd. Tua diwedd Awst 1903, treuliwyd wythnos gyfan yn gwrando ar ddau gydag enwau digon addas, Ioan a Phedr - John Jones a Peter Morris, yn trafod hanes Elias (Ac nid Twm dwi'n sôn amdano, tydio ddim cweit mor hen a hynny, cofiwch ). Roedd trafodaeth ar Ioan Fedyddiwr, cwestiynau ar yr ysgrythyr ac anerchiad ar Sacrament y Swper Olaf a llawer testun tebyg wedi eu hen drafod dros yr wythnosa blaenorol. Roedd amball un a draddodai rhyw araith neu'i gilydd yn amlwg hirwyntog, wrth ddarllen am farathon o gystadleuaeth un wythnos. Testun y gystadleuaeth oedd 'Crynodeb goreu o hanes Pedr o'i alwad hyd y croesholiad', a dim ond dau'n ymgeisio, - Robert Jones a John Jones. Dechreuodd Robert ar y dydd Llun, a threulio'r hanner awr ginio hwnnw, y dydd Mawrth canlynol a rhan o ddydd Mercher yn traethu. Cymrodd y llall, John Jones, y gweddill o'r amser cinio hwnnw, dydd Iau a dydd Gwener yn rhoi ei druth. Y dydd Llun canlynol daeth y feirniadaeth gan y beirniad, gyda'r sylw
fod y gystadleuaeth hon wedi bod yn fwy tebyg i bregeth nag i grynodeb o hanes, ond nid oedd ef yn beio'r siaradwyr am hyn, yr oeddynt wedi siarad yn ardderchog, ac yn wir gymwys i fod yn siarad mewn lle uwch na'r fan hon...
Wn i ddim os mai sôn am lefel uwch yn y chwarel oedd y beirniad, ynteu lle uwch yn ddiwyllianniol! Beth bynnag, dyna'r math o gystadlaethau a gynhaliwyd ar hanner awr ginio yn rheolaidd yn y cabanna', a hynny am rhyw ddwy hen geiniog o wobr. Cynhaliwyd eisteddfodau tanddaearol yn flynyddol, a'r cystadleuwyr hyd at daro bron, cymaint oedd y brwdfrydedd a gynhyrchwyd yno.
Byddai dadlau chwilboeth ar bynciau'r dydd yn y cabannau'n rheolaidd, a gwleidyddiaeth yn un o'r pynciau poetha'. Disgrifwyd araith un D.R.Wiliams, un amlwg plaen ei eiria gan ysgrifennydd y Caban fel hyn.
'Yr oedd yn araeth yn llawn o dân; condemniai yn llym y masnachwyr am eistedd ar fyrddau cyhoeddus. Dywedodd fod y giwiaid ofnadwy hyn y dosbarth mwyaf cribddeiliog ac annuwiolaf y gwyddai ef amdanynt'.
Does ryfedd bod Blaenau wedi ei galw'n dre radical erioed, wrth ddarllen am sylwada' rhai o'n hynafiaid di-flewyn-ar-dafod penboeth! Ond rhaid gadael hanes Caban Sink y Mynydd i drafod elfennau eraill o ddiwylliant yr hen dre annwyl hon.
I ddechra, rhaid sylweddoli pwysigrwydd Blaenau Ffestiniog fel tre ddiwydiannol y dyddia' fu. Gyda'r holl chwareli o amgylch y dre', a thua 4,000 yn gweithio ynddynt yn gyfan gwbl, a bron i ddwyfil o rheiny yn y chwarel lechi fwya' yn y byd, yr Oakeley ar un adeg, fe allwch synhwyro'r bwrlwm o le oedd y Blaena'. Un ffaith ddiddorol gwerth ei nodi yw :- ganrif yn ôl, dyma'r ail blwy mwya yng ngogledd Cymru o ran poblogaeth, Roedd mwy yn trigo yma yn 1901 nag yn Llandudno, Bae Colwyn, Rhyl, Bangor, Caergybi a'r gweddill, fel ag yr oeddynt radeg hynny. A byddai hynny'n cael ei adlewyrchu yn y gweithgareddau oedd yn cael eu cynnal yma.
Fe godwyd Neuadd Gyhoeddus urddasol yn y dre yn 1864, gyda pherchenogion y chwareli yn cyfrannu'n hael tuag at godi'r adeilad. Roedd lle i 1,200 o fynychwyr yn yr hen 'Hall', fel y'i gelwid, a doedd ddim trafferth o gwbl gael pobl yr ardal i'w llenwi, hefo'r holl bethau oedd yn mynd ymlaen yma. Ymysg rhai o enwogion a ymddangosodd, ac a areithiodd yn y Neuadd oedd Keir Hardie, Syr Edward Grey - Gweinidog Tramor a Liberal mawr; Lloyd George, Morgan Lloyd, y twrne:Y Gwyddel gweriniaethol, Michael Davitt a Sybil Thorndyke. Rhaid cofio bod neuadd gyhoeddus arall yn LLan Ffestiniog, dair milltir lawr y ffordd hefyd. Roedd tair sinema yma yn y 1930, os allwch chi ei alw'n ddiwylliant, a dangoswyd lluniau ar sgrîn, trwy ddull y magic lantern cyn troad yr 20fed ganrif.
Un o'r cofnodion cynharaf am gôr mewn tre mor enwog am ei chora yw'r un am y côr cymysg gyda'r enw crand hwnnw, y Ffestiniog Philarmonic Society, enw nad oedd gan yr aeloda syniad be oedd Philarmonic yn ei olygu maen debyg, mewn cyfnod unieithog Gymraeg fel hwnnw. Roedd côr ar gael yn y chwareli, ac ym mhobcapel yn yr ardal, bron, yn y dyddiau cynnar, ac un o'r enwoca oedd côr Cadwaladr Roberts, Buarth Melyn, côr Carmel, Tangrisia'. Bu' côr Dwalad Roberts yn ymddangos mewn llawer man, gan gynnwys Lerpwl yn 1884, ac yn ddiweddarach yn Crystal Palace gyda chôr o gantorion o Stiniog a Thrawsfynydd.. Yn ddiweddarch wedyn, daeth i arwain côr Meibion Tanygrisia, a Chôr Meibion Blaenau Ffestiniog. ac fe' gwahoddwyd i deithio dros y Werydd, ac fe gafwyd taith hynod lwyddiannus yn 'Merica, nôl y sôn. Bu'r côr hwnw ar ddwy daith arall dros yr Iwerydd hefyd, i Merica a Chanada, cyn y Rhyfel Mawr. Daeth cynulleidfaoedd enfawr o Gymry alltud i wrando ar y cora' hynny dros yr wythnosa y buont yno.
Roedd y cythra'l canu rhwng y cora yn bodoli radag hynny, yn union fel mae heddiw, gyda Chôr y Moelwyn yn cystadlu yn erbyn Côr Blaenau Ffestiniog yn yr eisteddfoda'. Bu yma nifer o wahanol gorau ers hynny, yn gorau meibion, merched a chymysg, a phob un ohonynt yn gorau o safon. Bu amryw gôr plant yma hefyd ar un adeg, gyda chôr plant Tanygrisiau'n nodedig am ei lwyddiant eisteddfodol.
Parhaodd y traddodiad corawl yn y Blaenu hyd heddiw, gyda Chôr y Moelwyn a Chôr y Brythoniaid wedi dod â sawl gwobr cenedlaethol yn ôl i'r hen dre dros y blynyddoedd. Roedd côr merched Rhiannedd y Moelwyn, dan arweiniad Dorothy Edwards yn adnabyddus iawn ar lwyfannau Cymru o'r 1930au i thua chanol y 70au, ac roedd gan y delynores Gwenllian Dwyryd gôr cerdd dant da iawn, a bu parti cyngerdd teulu Dwyryd yn enwog trwy Gymru ar un adeg. Mae yma gôr cymysg da iawn yma hefyd ar hyn o bryd, dan arweiniad Gareth Jones, Manod, a chorau eraill yn y dalgylch. Yn anffodus does dim amsar i nodi pob un côr, nac yn wir, yr holl unigolion cerddorol a fagwyd yn ardal Stiniog 'ma. Ond, dyna ddigon ar y cora, mi drown rwan am 'chydig o hanas y bandia' yn yr ardal.
Sefydlwyd seindorf Gwaenydd, a ddaeth yn fand yr Oakeley, neu The Royal Oakeley Band yn ddiweddarach, cyn belled yn ôl â'r flwyddyn 1864, ac yn yr un flwyddyn daeth band Llan Ffestiniog i fodolaeth. W.E.Oakeley, perchennog y chwarel o'r un enw, a noddwr hael i Fand Gwaenydd a berswadiodd y band i newid yr enw i Oakeley Silver Band. Yn 1889, wedi i'r seindorf chwarae ym mhresenoldeb y Frenhines Victoria, rhoddwyd cais llwyddiannus gerbron yr awdurdodau brenhinol i gael newid yr enw i'r ROYAL Oakeley Silver Band, a dyna fu'r enw swyddogol ar y band hyd at yn ddiweddar, pryd y gollyngwyd y Royal, a'r enw Saesneg 'Silver Band'. Fel gwrth-frenhinwr fy hun, allai ond diolch o waelod calon am weledigaeth ac asgwrn cefn y rhai sy'n ymwneud â'r band heddiw, ac o barch i iaith gynhenid yr ardal hon, Seindorf Arian yr Oakeley ydi'r enw arno erbyn hyn. Mae'r Oakeley wedi ennill nifer fawr o wobrau, trwy Gymru a gweddill Prydain dros y blynyddoedd, ac wedi bod yn destun balchder i drigolion y dre lawer o weithia'. Enillodd y band gystadleuaeth bwysig yn Belle View, Manceinion mor gynnar â 1904, ac yn 1907 daeth y clod ucha i'r band wrth ennill y Champion Band of Wales yn steddfod Genedlaethol Abertawe. Ac mae John Glyn Jones yr arweinydd dawnus yn dal i fynd â'r band i gystadlu pob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, lle bynnag y cynhelir hi, ac yn dal i ennill gwobra.
Bu i seindorf Lan Ffestiniog ennill nifer fawr o wobra' dros y blynyddoedd hefyd, a'r pinacl oedd yn y brifwyl yn y Rhyl yn 1891. Mae 'na hen rigwm yn sôn am Fand y Llan ar gael, yn adrodd am yr elyniaeth oedd yn bodoli rhwng y bandia ar un adeg. Dyma'r rhigwm:
Band y Llan ennill ym mhob man
Band Nanlla'n ennill yn unlla.
Dywedir bod dros 30 o steddfoda yn Stiniog rhwng 1854 a diwedd y 1990au, pan ddaeth Steddfod Jiwbili, LLan Ffestiniog i ben. Cynhaliwyd nifer o steddfoda', gan y gwahanol enwada crefyddol ac hefyd gan y chwareli, pa rai a ddaeth i fodolaeth yn yr 1860au. Roedd Steddfod Chwarel Holland yn un o fri, a'r steddfod gyntaf yno yn cael ei chynnal yn un o felinau'r chwarel, ac yna yn y Neuadd Gyhoeddus yn y dre wedi hynny. Cynhaliwyd steddfoda blynyddol lewyrchus iawn gan chwareli Llechwedd, Oakeley, Cwmorthin, Welsh Slate, Cwt-y-Bugail a Rhiw-bach. Cynhaliwyd Eisteddfod y Nadolig yn y Blaenau o 1876 hyd at 1949, a bu Eisteddfod Talaith Gwynedd yma fwy nag unwaith. Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Manod yn 1936, ond pinacl eisteddfodau'r ardal oedd 1898, pryd y cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yng nghanol y dre. Roedd honno'n steddfod lwyddiannus iawn, yn ôl pob sôn. A wyddoch chi be? Ddaru hi ddim bwrw glaw o gwbl yma, ac fel adroddodd un bardd ar y pryd, "Bu'r ŵyl heb ambarelo"!!
Bu cwmniau drama rif y gwlith yn Stiniog 'ma dros y blynyddoedd, gyda , ac mae'n debyg mai'r enwoca o'r rhain oedd cwmni John Ellis Williams, y llenor, bardd a dramodydd adnabyddus trwy Gymru. Bu Cymdeithas y Gwŷr Ieuainc yn sefydliad tra phwysig a dylanwadol yn y dre ers yr 1890au, lle bu mawrion ein cenedl yn darlithio i'r aelodau o'r dechrau, a dyma'r adeilad y defnyddia John Ellis Wms i ymarfer gyda'i gwmni drama yn y 1930au. Bu John Elis Wms yn olygydd y papur wythnosol y Rhedegydd tan y rhifyn ola' yn 1951. Ymysg y nifer o bapura wythnosol a argraffwyd yn y dre o tua'r 1880au oedd y Rhedegydd, Y Gloch,Y Glorian a’r Chwarelwr.
Beth am enwogion Stiniog dros y blynyddoedd? Does dim amser i enwi pob un o'r myrdd enwogion a aned, neu fu'n trigo yma. Y beirdd, llenorion a cherddorion Edward Stephen (Tanymarian), Ionoron Glan Dwyryd, Cyffdy, Moelwyn, Dewi Mai o Feirion, Elfyn, Moelwynfardd, Gutyn Ebrill, O.M.Lloyd, Ellis Wyn o Wyrfai, a dau'n enedigol o'r Blaenau a fu'n Archdderwyddon Cymru, William Morris ac R.Bryn Williams./ John Ellis Williams a llawer mwy. Tri o enwogion eraill yr hoffwn i sôn amdanynt, oherwydd eu cyfraniad i hanes yr ardal hon, sef Ffestinfab, awdur yr Hanes Plwyf Ffestiniog gwreiddiol, Griffith John Williams awdur yr ail 'Hanes Plwy ' 'ac Ernest Jones, awdur dau lyfr ar hanes lleol, sef 'Senedd Stiniog' a 'Stiniog' - cyfrolau ardderchog ar gyfer pwt o hanesydd lleol fel fi. (Dangos y cyfrolau). Yn y blynyddoedd diweddar, y mae sawl un o'r ardal wedi blodeuo, am wahanol resyma', megis Eigra Lewis, Geraint Vaughan Jones, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen deirgwaith, ac awdur toreithiog iawn. Y bardd a llenor adnabyddus, Gwyn Thomas; y Dr Bruce Griffiths, y geiriadurwr. Dewi Prysor, sydd wedi datblygu'n awdur poblogaidd yn ddiweddar. Mae ambell actor dawnus wedi'i geni o fewn ffinia'r plwy hefyd - Grey Evans, Gwyn Vaughan Jones, Arwel Griffiths sy'n rhai sy'n dod i'r co'. A pheidiwn ag anghofio Mici Plwm.
A beth am adloniant yn Stiniog, gofynwch? Wel, bu tîmau pêl droed o'r Blaenau yn adnabyddus yng nghyngreiriau gogledd Cymru ers degawdau. Yn y blynyddoedd cynnar, yr oedd nifer fawr i dimau wedi'u codi yma, ac enwau urddasol gan ambell dîm, megis y Black Stars, Manod Swifts, Offeren City, Rhiw Corinthians, Blaenau Thursdays, i ba dîm y chwaraeai staff y siopau lleol, a oedd yn chwarae eu gemau ar ddydd Iau - diwrnod half-day yn y dre. Bu timau unigol o Lan Ffestiniog a Thanygrisia yn cystadlu yn y Cambrian League yn ystod y 30au a'r 40au hefyd. Ar hyn o bryd mae yma ddau dim lleol, Amaturiaid y Blaenau a'i ail dîm yn cystadlu yng nghynghreiriau gogledd Cymru.
Mae yma Ganolfan Gymdeithasol ar agor bob dydd o'r wythnos, ac eithrio Sadwrn a'r Sul, heblaw am achlysuron arbennig. Cynhelir ystod eang o ddigwyddiada yn y Ganolfan. Yma sefydlwyd Clwb Ieunctid gweithfar iawn, a'r clwb yn dal i fynd o nerth i nerth. Mae yma bwll nofio arbennig o dda, ar agor trwy'r wythnos, a dosbarthiada' dysgu nofio'n cael eu cynnal yno. Mae gan Aelwyd yr Urdd ei neuadd ei hun ers sawl blwyddyn, ac yma mae'r gwahanol adrannau'r Urdd yn cyfarfod, ac yn cynnal eu gweithgaredda'. Sefydlwyd Clwb Gymnasteg ardderchog rai blynyddoedd yn ôl, 'r'hwn sydd wedi ennill llu o wobwyon trwy Brydain, ac ar y Cyfandir, ac wedi rhoi'r Blaena' ar y map mewn sawl gwlad dramor.
Erys o hyd nifer fawr o gymdeithasa' a sefydliada' sy'n cyfoethogi ardal â chefndir mor ddiwylliedig â hon. Gan mai fi, er fy ngwenida', yw ysgrifennydd y papur bro gora' yng Nghymru - Llafar Bro, ers sawl blwyddyn bellach, dwi'n cael cyfle i ddod i gysylltiad â rhan fwya o'r cymdeithasa lleol. T'rawyd ar y syniad rai blynyddoedd yn ôl o wahodd cynrychiolwyr o'r cymdeithasa hynny i ddod atom ar un nos Fercher ym mhob mis i helpu i blygu'r papur. Mae'r criw ddaw heibio'n amrywio mewn niferoedd, wrth reswm, am wahanol resyma, ond wyddoch chi be' - mae 'na lond bol o hwyl i gael dros y cwta awr yr ydym yng nghwmni'n gilydd, ac yn adlewyrchiad o natur barod, ffraeth, gyfeillgar pobol Stiniog a'r cylch i rannu cymwynasa. Noson gymdeithasol o'r radd ora. Mae enwau'r rhestr dwi'n gysylltu â nhw bob mis yn eu tro i blygu fel Who's Who sefydliadol y fro. Dyma ichi syniad o'r gweithgaredd hwnnw, Clwb Gwawr; Merched y Clwb Golff; Cymdeithas y Sgotwyr; Clwb Dydd Mawrth; Côr Y Moelwyn,; Merched y Wawr Traws; Y Clwb Bowls; Cwmni Seren: Merched y Wawr Llan: Merched y Manod; Côr y Brythoniaid; Clwb Camera; Clwb Rygbi Bro Ffestiniog: Siop Siarad - sef cymdeithas o ddysgwyr lleol; Merched y Wawr, Blaena' a Dynion y Clwb Golff. Mae rhain i gyd yn troi atom, nid efo'u gilydd, ond fesul cymdeithas, dros y misoedd, a diolch amdanynt.
Gwelodd Llafar Bro olau dydd am y tro cynta yn 1975, gyda llaw, ac mae'n mynd o nerth i nerth, diolch i'r tîm bychan, brwd sy'n ymwneud ag o. Gyda llaw, Geraint Vaughan Jones y nofelydd ac enillydd cenedlaethol yw'r cadeirydd ar hyn o bryd, ac un o'r golygyddion. Un o sefydlwyr y papur oedd y diweddar Emrys Evans, hoelen wyth sawl cymdeithas yn y fro, ac un y mae nifer ohonoch, gefnogwyr y pethe ym Mhlas Tanybwlch yn gyfarwydd â'i enw. Wel dyna fi wedi enwi rhai o fudiada sy'n bodoli ym Mlaenau Ffestiniog a'r cylch, ond mae 'na rai eraill hefyd, cofiwch.
Mae yma Gymdeithas Hanes leol arbennig o dda, a'r unig gymdeithas hanes trwy Gymru, dwi'n credu, sy'n cyhoeddi cylchgrawn blynyddol, Rhamant Bro, sydd yn hynod boblogaidd, a darllenwyr yn edrych ymlaen yn eiddgar am ei weld yn dod o'r wasg bob mis Tachwedd. Cynhelir cyfarfod o'r Gymdeithas Hanes bob mis, a dwy daith yn ystod misoedd yr haf.
Mae'r Fainc Sglodion yn gymdeithas ddiwylliannol sy'n cyfarfod rhwng Hydref ac Ebrill, a cheir darlith flynyddol ar bwnc yn ymwneud â materion lleol yn ystod mis Mawrth, ac fe gyhoeddir y ddarlith yn flynyddol. Elvey MacDonald oedd ein siardawr nos Iau dwytha, gyda llaw, ac wedi dod bob cam o'i gartra yn Llanddysul atom. Gareth Jones, y cyn brifathro o Bwllheli, mab y diweddar Ernest Jones yr hanesydd lleol sy'n traddodi darlith flynyddol y Fainc eleni.
Tydwi ddim am gyfeirio at weithgaredda sy'n digwydd yn y dalgylch, megis Llan Stiniog a Thrawsfynydd, ond mae'r cymunedau hynny'n lleoedd â digon o betha'n mynd ymlaen ynddyn nhw hefyd.
Yn sicr, dwi 'di gadael nifer fawr o betha', yn sefydlida, mudiada ac unigolion allan o'r drafodaeth hon. Mewn tre' sydd â chymaint wedi digwydd yma, ac yn dal i ddigwydd ynddi, maen anorfod fy mod wedi hepgor llawer iawn y dyliwn fod wedi eu trafod. Ond yn yr amsar sy wedi'i ganiatau imi pnawn 'ma, gobeithio ichi gael rhyw fath o syniad o'r math o gymdeithas a grewyd gan ein hynafiaid - y criw difyr, ffraeth, ddiwylliedig hynny a fagwyd yng nghysgod tlodi parhaol, ac a addysgwyd yng ngholegau'r werin-bobol go iawn, cabannau'r chwareli, y seiat a'r ysgol Sul yma.
Do, mae Blaenau wedi diodde'n enbyd o hen afiechyd yr ardalaoedd diwydiannol ers blynyddoedd - diweithdra, ac yn waeth fyth, diboblogi, ac yn sgîl hynny, yn y cyfnod diweddar, mewnfudo. Ddaw petha' byth yn ôl i'r hyn oedd y dre i'n hynafiaid ganrif yn ol, waeth heb â thwyllo'n hunain. Ond gydag ewyllys da, cefnogaeth y rhai mewn grym lywodraethol, ac ysbryd y criw ifanc, hynod weithgar sydd yn gyfrifol o geisio adfer y dre yn ei hôl, megis criw Cymunedau'n Gyntaf, Antur Stiniog, a hefyd cyfeillion gweithgar Pengwern Cymunedol, mae yna lygedyn o obaith am ddyddiau gwell eto.